Theatre in Wales

The latest theatre, dance and performance news

Theatr Genedlaethol Cymru I Fod yn Rhan O Ŵyl Shakespeare Y Byd     

Theatr Genedlaethol Cymru I Fod yn Rhan O Ŵyl Shakespeare Y Byd
Heddiw mae Theatr Genedlaethol Cymru yn dathlu wedi i un o gynyrchiadau’r cwmni gael ei ddewis i fod yn ran o Ŵyl Shakespeare Y Byd (World Shakespeare Festival), a gynhyrchwyd gan y Royal Shakespeare Company i Ŵyl Llundain 2012 – rhaglen gelfyddydol swyddogol y Gemau Olympaidd.

Bydd ‘Y Storm’, sef cyfieithiad o glasur William Shakespeare ‘The Tempest’, yn cael ei berfformio, mewn cydweithrediad ag Eisteddfod Genedlaethol Cymru, yn Eisteddfod Genedlaethol 2012 yn mis Awst 2012 yn Llandow, Bro Morgannwg.

Yn y cyfieithiad newydd yma gan gyn Bardd Cenedlaethol Cymru, Gwyneth Lewis, ac yn cynnwys cerddoriaeth byw, syrcas a hud a lledrith, daw Theatr Genedlaethol Cymru â’r clasur hynod yma’n fyw – gwaith meistrolgar, llawn dychymyg sy’n cael ei gweld fel drama fwyaf uchelgeisiol Shakespeare.

Bydd y tîm creadigol yn cynnwys y gyfarwyddwraig amryddawn (Deffro’r Gwanwyn, The Devil Inside Him), y cyfansoddwr Simon Allen (Royal National Theatre) a’r coreograffydd a’r cyfarwyddwr symud Liz Ranken (Royal Shakespeare Company).

Meddai Arwel Gruffydd, Cyfarwyddwr Artistig Theatr Genedlaethol Cymru: “Mae’r Gemau Olympaidd ond yn debygol o ddigwydd mor agos i adref unwaith mewn oes, felly dwi’n hynod o falch fod digwyddiad theatraidd yn yr iaith Gymraeg yn cael ei gynnwys yn y dathliadau pwysig yma.

Aeth ymlaen: “Mae dramâu oesol un o ddramodwyr gorau’r byd yn parhau i gael eu perfformio ymhob iaith ac mae Theatr Genedlaethol Cymru yn falch o gyflwyno cynhyrchiad yn yr iaith Gymraeg fel rhan o Ŵyl Shakespeare Y Byd. Mae cyflwyno ‘The Tempest’ i gynulleidfa Gymraeg, a gweithio gyda Gwyneth i archwilio beth sydd yn digwydd i stori glasurol pan siaredir hi yn Gymraeg – o dan gyfarwyddid dyfeisgar Elen Bowman – yn mynd i fod yn ddathliad arbennig diwylliannol ac ieithyddol ond sydd yn cael ei wneud hyd yn oed yn fwy arbennig gyda’n cydweithrediad ni gydag Eisteddfod Genedlaethol Cymru.

Meddai Deborah Shaw, Cyfarwyddwr Gŵyl Shakespeare Y Byd: “Rydym wrth ein boddau fod Theatr Genedlaethol Cymru yn creu cynhyrchiad mor uchelgeisiol i fod yn rhan o Ŵyl Shakespeare Y Byd, wedi ei wreiddio yn yr iaith Gymraeg cyfoethog a barddol yn ogystal â bod yn cyflwyno steil theatr Gymraeg cyfoes i’r cynhyrchiad. Mae’n ychwanegiad gwych i raglen yr Ŵyl ac mae’n golygu fod Cymru yn cael ei gynrychioli gan y Theatr Genedlaethol Gymraeg a Saesneg ei hiaith – arwydd pendant o ddeffroad yn y theatr yng Nghymru dros y blynyddoedd diwethaf.”

Meddai Ruth Mackenzie, Cyfarwyddwr Gŵyl Llundain 2012: “Diolch i Theatr Genedlaethol Cymru a’n holl sêr celfyddydol, yn Haf 2012 bydd Gwyl Llundain 2012 yn dangos i’r byd ein sefydliadau blaengar celfyddydol, ac yn arddangos iddynt ein bod wedi ein hymrwymo i greu a dathlu talent o’r safon uchaf posibl.”
Theatr Genedlaethol Cymru  
web site
: www.theatr.com

e-mail:
Friday, November 4, 2011back

 

 

Older news stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999

 

Privacy Policy | Contact Us | ©2013 keith morris / red snapper web designs / keith@artx.co.uk