Theatre in Wales

The latest theatre, dance and performance news

Sherman Cymru’n cyhoeddi rhaglen Gwanwyn/Haf 2012 cyn ailagor adeilad y theatr     

Sherman Cymru’n cyhoeddi rhaglen Gwanwyn/Haf 2012 cyn ailagor adeilad y theatr Heddiw mae Sherman Cymru wedi datgelu’r rhaglen waith fydd yn cael ei chyflwyno yn yr adeilad newydd pan fydd yn ailagor ym mis Chwefror 2012. Gall archebwyr â blaenoriaeth archebu eu tocynnau ar hyn o bryd, ond nid yw’r tocynnau ar gael i’r cyhoedd yn gyffredinol tan 28 o Dachwedd. Meddai Chris Ricketts, Cyfarwyddwr Artistig Sherman Cymru:

“’Rydym wrth ein bodd yn cyhoeddi’r rhaglen fydd yn ail-agor Sherman Cymru, gan nodi’r cyfnod pan fyddwn yn dychwelyd i’r adeilad sydd wedi ei ailwampio o’r newydd. Mae’r rhaglen yn ffenest siop ardderchog i Sherman Cymru, ac ynddi ceir cymysgedd ragorol o gwmnïau ac artistiaid o Gymru, y DU ac o bedwar ban byd. Bydd yn cynnwys gwaith y byddwn ni’n ei gynhyrchu’n fewnol; ysgrifennu newydd gwirioneddol wych fydd yn cael ei weld am y tro cyntaf; a gwaith a grëwyd gan ein tîm Dysgu Creadigol. ‘Rydym ni o’r farn fod y tymor agoriadol yma’n un cryf, a gobeithio bydd yn rhoi cyfle i bobl ddod i adnabod Sherman Cymru am y tro cyntaf, neu ei ail-ddarganfod o’r newydd. ‘Rydym yn edrych ymlaen yn fawr at gael croesawu cynulleidfaoedd yn ôl i’n cartref newydd.”

Yn dilyn ein penwythnos ‘T_ Agored’ ar 4-5 o Chwefror, y cynhyrchiad cyntaf fydd yn cael ei gyflwyno yn yr adeilad o 7-11 o Chwefror, fydd Sgint gan Bethan Marlow, cyd-gynhyrchiad Cymraeg rhwng Sherman Cymru a Theatr Genedlaethol Cymru, mewn cydweithrediad â Galeri, Caernarfon. Cawn glywed llais y bobl, fydd yn taflu golwg ddidwyll a ffres ar y wasgfa economaidd bresennol, a sut mae’n effeithio bywydau pobl o bob math.

O 15-18 Chwefror, bydd noddwr ymgyrch ailddatblygu Sherman Cymru, Sian Phillips, yn perfformio yn Lovesong gan Frantic Assembly - drama hiraethus, brydferth am gariad oes, a ysgrifennwyd gan Abi Morgan a aned yng Nghaerdydd. Mae ei gwaith ar gyfer y sgrin yn cynnwys y ddrama boblogaidd The Hour ar gyfer y BBC, a Sex Traffic (Channel 4) a enillodd wobr BAFTA.

Mae Tim Price, un o gyd-sylfaenwyr Dirty Protest, yn dychwelyd i Gaerdydd gyda’i ddrama newydd, For Once, drama ddoniol, dywyll a gyflwynir gan Pentabus Theatre mewn cydweithrediad â Sherman Cymru o 23 Chwefror - 3 Mawrth. Mae’r ddrama’n mynd yn syth at galon cymuned sydd, yn sgil trasiedi, wedi ei throi wyneb i waered.

Bydd Catherine Wheels, cwmni theatr i blant sydd wedi ei gwobrwyo, yn cyflwyno White o 17-21 Ebrill - ‘roedd y sioe chwareus a hynod weledol yma’n llwyddiant mawr yng Ng_yl Ymylol Caeredin, ac mae’n berffaith ar gyfer profi theatr am y tro cyntaf.

Cyflwynir Clytemnestra, a ysgrifennwyd gan Fardd Cenedlaethol Cyntaf Cymru, Gwyneth Lewis, ac a gynhyrchir gan Sherman Cymru, o 18 Ebrill - 5 Mai - fersiwn newydd sbon o’r chwedl Roegaidd sy’n canolbwyntio ar odineb, ar b_er ac ar ddial.

O 15-16 Mai, bydd Hofesh Shechter, y coreograffydd rhyngwladol adnabyddus, yn dychwelyd i Sherman Cymru gyda Political Mother – darn o waith eithriadol i 10 dawnsiwr, ag awyrgylch cyngerdd roc.

Yn ystod y tymor, sy’n cynnwys mwy na 30 o wahanol berfformiadau, byddwn hefyd yn cyflwyno Cerys Matthews, National Theatre Wales, Belarus Free Theatre, Grid Iron a Matthew Bourne.

Gall archebwyr â blaenoriaeth archebu eu tocynnau ar hyn o bryd, ond nid yw’r tocynnau ar gael i’r cyhoedd yn gyffredinol tan 28 o Dachwedd. Gellir archebu tocynnau a chael gwybodaeth gyflawn am y tymor newydd o Swyddfa Docynnau Sherman Cymru ar 029 2064 6900 neu ar-lein ar www.shermancymru.co.uk
ShermanCymru  
web site
: www.shermancymru.co.uk

e-mail:
Thursday, November 17, 2011back

 

 

Older news stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999

 

Privacy Policy | Contact Us | ©2013 keith morris / red snapper web designs / keith@artx.co.uk