Theatre in Wales

The latest theatre, dance and performance news

Penodiadau Newydd i Fwrdd Theatr Genedlaethol Cymru     

Penodiadau Newydd i Fwrdd Theatr Genedlaethol Cymru
Cyhoeddodd cadeirydd Theatr Genedlaethol Cymru, yr Athro Ioan Williams, fod naw o aelodau newydd wedi eu penodi i Fwrdd y Cwmni, i gymryd lle nifer o aelodau sydd wedi cwblhau eu tymor.

Ymysg y naw aelod newydd mae arbenigwyr technegol, addysg, busnes, marchnata a chyfreithiol ac maent yn ymuno â chwech aelod presenol y Bwrdd i arwain Theatr Genedlaethol Cymru trwy gyfnod cyffrous yn hanes y Cwmni.

Yr aelodau newydd yw: Catrin Beard, cyfieithydd a sylwebydd celfyddydol; Rhys Bevan, Rheolwr Cydweithrediadau i gwmni teledu Avanti; Arwel Edwards, cyfreithiwr a dyn busnes; Carys Edwards, athrawes ddrama yn Ysgol Gyfun Maes yr Yrfa a cadeirydd Panel Canolog Drama yr Urdd a’r Eisteddfod Genedlaethol; Sioned Gwyn, Swyddog Cyfathrebu i S4C; Mabon ap Gwynfor, Rheolwr Swyddfa a Phrif Ymchwilydd i’r AC Llyr Huws Gruffydd; Daz James, darlithydd technegol yng Ngholeg Cerdd a Drama Brenhinol Cymru; Non Tudur, Rheolwr Cyfathrebu Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd a Siôn Williams, cyfreithwr.

Meddai yr Athro Ioan Williams: “Rydym yn falch iawn i groesawi naw aelod newydd i Fwrdd Theatr Genedlaethol Cymru. Maent yn dod ag ystod eang iawn o brofiadau ac arbenigedd a fydd yn fuddiol iawn i’r Cwmni dros y blynyddoedd nesaf ac edrychaf ymlaen yn eiddgar i weithio gyda nhw ar adeiladu ar lwyddiant diweddar y Cwmni.”

Bydd yr aelodau newydd ar Fwrdd Theatr Genedlaethol Cymru am gyfnod o 3 blynedd.
Theatr Genedlaethol Cymru  
web site
: www.theatr.com

e-mail:
Tuesday, November 22, 2011back

 

 

Older news stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999

 

Privacy Policy | Contact Us | ©2013 keith morris / red snapper web designs / keith@artx.co.uk