Theatre in Wales

The latest theatre, dance and performance news

Cynhadledd Ryngwladol ar berthynas llenyddiaeth â’r cyfryngau mewn Cenhedloedd Bychain     

Cynhadledd Ryngwladol ar berthynas llenyddiaeth â’r cyfryngau mewn Cenhedloedd Bychain
12 - 13 Gorffennaf 2012
Academi Hywel Teifi, Prifysgol Abertawe

GALWAD AM BAPURAU
Dyddiad cau ar gyfer cynigion: 1 Mawrth 2012
Gwahoddir cyflwyniadau ar gyfer cynhadledd flynyddol Cyfrwng a gynhelir gan Academi Hywel Teifi, Coleg y Celfyddydau a’r Dyniaethau, Prifysgol Abertawe, Cymru. Gwahoddwn gyflwyniadau gan academyddion, ymarferwyr y celfyddydau a’r cyfryngau, a gwneuthurwyr polisi, yn y meysydd astudiaeth canlynol: Ffilm, Teledu, Radio, Newyddiaduraeth, Cyfryngau Newydd, Theatr a Pherfformio.

Bwriad Cyfrwng 2012 yw trafod y berthynas a geir rhwng llenyddiaeth a’r cyfryngau a hynny mewn Cenhedloedd Bychain. Yma yng Nghymru, ac yn enwedig yn y Gymraeg, fe geir perthynas agos rhwng ein canon llenyddol a’r cynyrchiadau dramatig a welir ar ein sgriniau a’n llwyfannau. Gobeithir yn y gynhadledd hon rannu profiadau a syniadau am y berthynas honno, ei dylanwad a’r ymateb iddi.

Croesewir cynigion ar gyfer papurau, paneli trafod cyflawn, gweithdai, dangosiadau a pherfformiadau yn trafod unrhyw agwedd ar thema’r gynhadledd, gan gynnwys, er na chyfyngir ceisiadau i’r pynciau canlynol:

·Y modd yr addasir testunau llenyddol ar gyfer llwyfannau amrywiol

·Ymateb y gynulleidfa i lenyddiaeth ar amrywiol lwyfannau

·Rôl y cyfryngau wrth fagu cynulleidfaoedd newydd ar gyfer gweithiau llenyddol

·Y berthynas rhwng ieithoedd lleiafrifol a llenyddiaeth ar y llwyfan a’r sgrin

·Effaith dibyniaeth ar addasu llenyddiaeth ar feithrin syniadau creadigol newydd


Gwahoddwn y sawl sy’n ymwneud â gwaith deallusol mewn sefydliadau fel prifysgolion, a hefyd y sawl sy’n ymwneud â’r celfyddydau a’r cyfryngau yn broffesiynol, i rannu eu gwaith.

Ni ddylai papurau fod yn fwy nag 20 munud o hyd, ond byddwn yn ystyried amrywiol amseroedd ar gyfer perfformiadau byr, dangosiadau a.y.b. Byddwn hefyd yn ystyried cynigion ar gyfer arddangosfeydd bychain. Croesewir hefyd gynigion ar gyfer paneli trafod cyflawn. Danfonwch gynigion o oddeutu 300 o eiriau (ar gyfer papurau unigol) ynghyd â bywgraffiad byr i'r cyfeiriad canlynol os gwelwch yn dda: e.price@abertawe.ac.uk

·Am ragor o wybodaeth ar Academi Hywel Teifi ewch i'w gwefan: http://www.abertawe.ac.uk/academihywelteifi

· Am ragor o wybodaeth ar Brifysgol Abertawe, ewch i: www.swansea.ac.uk

· Am ragor o wybodaeth am ddinas Abertawe, ewch i: www.visitswanseabay.com/


Edrychwn ymlaen i gael clywed gennych, i drefnu gyda chi, ac wrth gwrs, i gyd-drafod!
 
web site
: http://www.abertawe.ac.uk/academihywelteifi

e-mail: e.price@abertawe.ac.uk
Monday, January 9, 2012back

 

 

Older news stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999

 

Privacy Policy | Contact Us | ©2013 keith morris / red snapper web designs / keith@artx.co.uk