Theatre in Wales

The latest theatre, dance and performance news

AGOR DRYSAU – OPENING DOORS 2012 – DAU FIS I FYND!     

AGOR DRYSAU – OPENING DOORS 2012 – DAU FIS I FYND! Dau fis i heddiw bydd tref glan mor Aberystwyth dan ei sang wrth inni groesawu perfformwyr o bob cwr o’r byd i berfformio yn 7fed Gŵyl AGOR DRYSAU – OPENING DOORS!

Gŵyl Celfyddydau Perfformio Rhyngwladol Cymru i Gynulleidfaoedd Ifanc yw AGOR DRYSAU – OPENING DOORS. Mae’r Ŵyl unigryw hon yn rhoi cyfle i blant, pobl ifanc a theuluoedd Cymru i weld rhai o’r goreuon ymhlith y perfformwyr o Gymru a thramor. Trefnir yr Ŵyl bob dwy flynedd gan Gwmni Theatr Arad Goch.

‘Dros y flwyddyn diwethaf mae pump ohonom wedi bod yn teithio i Ŵyliau tramor i chwilio am sioeau a pherfformwyr addas ar gyfer yr Ŵyl. Eleni bydd 16 o berfformiadau gwahanol yn cael eu llwyfannu yn ystod Agor Drysau, ac nid dim ond sioeau theatr, bydd dawns, cerddoriaeth, barddoniaeth, ffilm, seminarau a nifer o ddigwyddiadau cymdeithasol gyda’r nos. Mae rhywbeth yn y rhaglen i bawb’ Jeremy Turner, Cyfarwyddwr Artistig Arad Goch

Ymhlith y perfformwyr o Gymru bydd Theatr Iolo, Run Ragged Productions, Mess up the Mess, Franwen, Archif Sgrin a Sain Cymru, Y Beirdd ac Arad Goch yn perfformio sioeau theatr, ffilm, barddoniaeth, pypedau a llawer mwy.

Ymhlith y chwech cwmni o dramor bydd ’16 Rue De Plaisance’, cwmni o Ffrainc yn dychwelyd i’r Ŵyl i berfformio sioe wych arall a nifer o ymwelwyr eraill yn perfformio yng Nghymru am y tro cyntaf, gan gynnwys ‘Consol Theatre Gelsenkirchen’ o’r Almaen sy’n perfformio sioe hwyliog am ddau gymeriad sy’n cael ‘sleepover’, ‘Nico and Martin’ o Iwerddon sy’n perfformio ‘Instant Orchestra’, sioe sy’n cynnig y cyfle i bobl ymuno mewn yn y gerddorfa 120 offeryn, ‘Branar’ o Iwerddon sy’n perfformio dwy sioe brydferth gyda phypedau, ‘Norrdans’ o Sweden sy’n perfformio sioe ddawns ddirgel a doniol a ‘Ballet Nimba’ sy’n cyfuno dawns a cherddoriaeth fyw o’r Gini.


Am y tro cyntaf eleni bydd thema yn perthyn i’r Ŵyl, sef thema chwaraeon. Bydd elfen o chwaraeon i’w weld mewn rhai perfformiadau megis ‘Ar eich Marciau’ – Arad Goch, ac mewn seminarau wrth inni archwilio’r tebygolrwydd rhwng perfformio i gynulleidfa ar y cae chwarae a pherfformio i gynulleidfa ar lwyfan. Cafodd y thema ei deiws oherwydd bod AGOR DRYSAU – OPENING DOORS wedi cael ei dewis fel un o brosiectau’r Olympiad Diwylliannol, ac o ganlyniad mae’r Ŵyl wedi derbyn y stamp Olympiad Diwylliannol, neu’r ‘Inspire Mark’ ar gyfer 2012.
AGOR DRYSAU – OPENING DOORS FESTIVAL  
web site
: www.agordrysau-openingdoors.org
AGOR DRYSAU – OPENING DOORS FESTIVAL
e-mail: agor.drysau@aradgoch.org
Thursday, January 19, 2012back

 

 

Older news stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999

 

Privacy Policy | Contact Us | ©2013 keith morris / red snapper web designs / keith@artx.co.uk