Fe fydd drama Gymraeg gair am air newydd sydd yn defnyddio storïau pobl yn eu geiriau ei hunain yn dechrau ar daith o amgylch Cymru y mis nesa.Bydd Sherman Cymru a Theatr Genedlaethol Cymru, mewn cydweithrediad â Galeri, Caernarfon yn cynhyrchu ‘Sgint’ gan Bethan Marlow, sydd yn cymryd golwg gonest a ffres ar yr hinsawdd economaidd bresennol a sut mae’n effeithio ar pobl o bob haen o gymdeithas. Bydd y ddrama yn agor yn Sherman Cymru, Caerdydd ar 07-11 Chwefror cyn symud ymlaen i Galeri, Caernarfon rhwng 21-24 Chwefror; Theatr Mwldan, Aberteifi ar 28-29 Chwefror; Theatr Hafren, Y Dre Newydd 03 Mawrth; Theatr Y Lyric, Caerfyrddin ar 06-07 Mawrth 2012 a Canolfan y Celfyddydau, Aberystwyth ar 09-10 Mawrth 2012. Wedi ei chyfarwyddo gan Arwel Gruffydd, ‘Sgint’ fydd cynhyrchiad cyntaf newydd Cyfarwyddwr Artistig Theatr Genedlaethol Cymru ers iddo gymryd y llyw ym mis Mai eleni. Bydd y ddrama, sydd wedi ei gosod yng Nghaernarfon, yn un o ddigwyddiadau allweddol tymor agoriadol Sherman Cymru yn ei adeilad newydd datblygedig yng Nghaerdydd. Mae aelodau’r cast yn cynnwys Sara Harris-Davies, Dafydd Emyr, Robin griffith, Morfudd Hughes, Nerys Lewis, Christine Pritchard, Rhys Richards, Emyr Roberts a Manon Wilkinson. Dros y deunaw mis diwethaf, mae’r dramodydd Bethan Marlow wedi bod wrthi yn cyfweld amryw o wahanol drigolion Caernarfon – athrawes, dyn busnes, gwleidydd a mam sengl i enwi dim ond rhai. Aeth Bethan ati i lunio’r ddrama allan o union eiriau’r trigolion a’r canlyniad yw drama wreiddiol gair am air am ymateb pobl i gael, a pheidio cael arian. Meddai Cyfarwyddwr Sherman Cymru, Chris Ricketts: “Comisiynwyd Bethan i weithio ar ‘Sgint’ ar ddechrau 2010, a rydym yn hynod o falch ein bod yn gallu dod a’r ddrama yma yn fyw trwy weithio gyda Theatr Genedlaethol Cymru. Mae datblygu a chynhyrchu dramâu yn yr iaith Gymraeg yn ran canolog o waith Sherman Cymru. Mae’n briodol iawn hefyd ein bod yn croesawu cynulleidfa ‘Sgint’ i mewn i’n hadeilad newydd a fydd yn adlewyrchu safon y cynyrchiadau a’r digwyddiadau sydd yn digwydd yma. “ Meddai Arwel Gruffydd, Cyfarwyddwr Artistig Theatr Genedlaethol Cymru: “Fe fydd ‘Sgint’ yn ddigwyddiad theatraidd nas gwelwyd o’r blaen yn y Gymraeg, lle mae lleisiau pobl go iawn yn cael eu clywed ar lwyfan mewn ffordd amrwd, onest ac o’r galon. Er ein bod yn gweithio gydag actorion proffesiynol, fe fydd y ddrama yn cynnig adlewyrchiad ar fywyd go iawn a all fod yn anodd ei wylio ar brydiau – mae yma ambell i wirionedd annymunol iawn yma. Aeth ymlaen: “Ond ceir hefyd llawer iawn o hwyl, fel y byddech yn disgwyl o gymeriadau Caernarfon…… os gallaf ei galw yn hynny…..gan taw drama heb gymeriadau yw hon – yn defnyddio pobl go iawn - nid gwaith dychymyg yr awdur. Fe fydd yn sialens aruthrol i mi ac i’r actorion proffesiynol i adlewyrchu y gwirionedd yma, ac i bortreadu pobl Caernarfon, sydd wedi bod mor hael ei cymorth wrth greu ‘Sgint’” |
| Theatr Genedlaethol Cymru web site: www.theatr.com |
| e-mail: |
| Friday, January 20, 2012 |
Older news
stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999

Fe fydd drama Gymraeg gair am air newydd sydd yn defnyddio storïau pobl yn eu geiriau ei hunain yn dechrau ar daith o amgylch Cymru y mis nesa.