Cynhyrchiad hynod boblogaidd y cwmni, Porgy and Bess, yn dychwelyd Yn dilyn ei berfformiadau cyntaf llwyddiannus a werthodd allan yn 2009, bydd Cape Town Opera yn dychwelyd i Brydain â thaith saith wythnos o hyd o opera Gershwin, Porgy and Bess. Dim ond yng Nghanolfan Mileniwm Cymru, bydd y cwmni hefyd yn llwyfannu cynhyrchiad llawn o'r Mandela Trilogy, am ddau berfformiad yn unig, am y tro cyntaf yn Ewrop. Mandela Trilogy 20 a 21 Mehefin Wedi'i hysgrifennu a'i chyfarwyddo gan Michael Williams gyda cherddoriaeth gan Allan Stephenson, Mike Campbell a Peter Louis van Dijk, teyrnged gerddorol i'r enwog Nelson Mandela yw hon, sy'n dramateiddio cyfnodau allweddol o'i fywyd anhygoel mewn arddulliau cerddorol gwahanol. Caiff caneuon Xhosa traddodiadol a melodïau jazz eu plethu'n fframwaith clasurol sy'n dilyn Mandela o fod yn ddyn ifanc yn y Transkei, i fod yn chwyldroadwr yn y treflannau ar ddechrau apartheid, i'w gyfnod fel carcharor ar Ynys Robben a'i gamau tuag at ryddid. Daw'r cwmni â chôr clodfawr Voice of the Nation Chorus a chast y daw pob aelod ohono o Dde Affrica i'r DU i berfformio fersiwn diwygiedig o'r cynhyrchiad o'r Mandela Trilogy a berfformiwyd yn Ne Affrica am y tro cyntaf yn 2010. Cynhyrchir perfformiadau’r Mandela Trilogy mewn cydweithrediad â Chanolfan Mileniwm Cymru ac fe'u cefnogir gan Syr Donald Gordon. Porgy and Bess gan Gershwin 23 - 24 Mehefin Gan ail-leoli'r stori yn nhreflannau diobaith Soweto yng nghanol y dirwasgiad, mae Cape Town Opera wedi rhoi ei farc ei hun ar y cynhyrchiad hwn o Porgy and Bess, wrth i'r ymdrech i ddod o hyd i obaith a hapusrwydd - yng nghanol tlodi a chaledi - ddatblygu'n stori ingol am gariad ac amddifadedd. Porgy and Bess yw un o weithiau mwyaf enwog byd y theatr gerddorol Americanaidd, ac fe'i gelwir yn 'opera'r bobl' ledled y byd. Cafodd ei ysgrifennu yn 1935 fel portread o fywyd yn Neheudir UDA yn yr 1920au yn wreiddiol, ac yn y gwaith cymhellol hwn ceir rhai o'r caneuon mwyaf ysgytwol a chofiadwy gan gynnwys 'Summertime', 'I got plenty of nuttin', 'It ain't necessarily so', ac 'I loves you Porgy'. Fel partneriaid strategol, mae prosiectau cydweithredol a chyfnewid Cape Town Opera gyda Chanolfan Mileniwm Cymru yn rhan o waddol cynyddol y dyn busnes a'r dyngarwr o Dde Affrica, Donald Gordan, y mae'r prif awditoriwm wedi'i enwi ar ei ôl. Yn ogystal ag ymweliadau'r cwmni Opera â Chaerdydd, mae gan gôr Voice of the Nation Cape Town Opera gydberthynas hirsefydledig â'r Ganolfan hefyd, ar ôl ymddangos yn yr agoriad mawreddog yn 2004 a thymor pen-blwydd y Ganolfan yn bump oed. Cynhelir gweithdy a rhaglen addysgol yn seiliedig ar y perfformiadau ym mis Mehefin 2012. I gael tocynnau a rhagor o wybodaeth, cysylltwch â'r Swyddfa Docynnau ar 02920 63 6464 neu ewch i www.wmc.org.uk Bydd taith Cape Town Opera o Porgy and Bess yn dechrau yn Hippodrome Birmingham (6-9 Mehefin) ac yn symud ymlaen i'r Festival Theatre yng Nghaeredin (15-16 Mehefin), Canolfan Mileniwm Cymru (23-24 Mehefin), y Marlow Theatre yng Nghaergaint (27-30 Mehefin), Southampton Mayflower (4-7 Gorffennaf), a'r Coliseum yn Llundain (11-21 Gorffennaf). Dim ond yng Nghanolfan Mileniwm Cymru y caiff y Mandela Trilogy ei berfformio (20-21 Mehefin) |
| Wales Millennium Centre web site: www.wmc.org.uk |
| e-mail: |
| Wednesday, January 25, 2012 |
Older news
stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999
