Eleni mae Gŵyl Celfyddydau Perfformio Rhyngwladol Cymru i Gynulleidfaoedd Ifanc yn argoeli i fod yn fwy ac yn well nac erioed. Bydd yr Ŵyl unigryw hon yn cynnig cyfle i gynulleidfaoedd Cymru i brofi rhai o’r perfformiadau gorau ymhlith y Celfyddydau Perfformio Rhyngwladol. Mae’r Cwmnïau Rhyngwladol yn cynnwys Nico and Martin o Iwerddon, Consol Theatre Gelsenkirchen o’r Almaen, Branar o Iwerddon, Norrdans o Sweden, Ballet Nimba o Affrica a Chymru a 16 Rue de Plaisance o Ffrainc, cwmni sy’n dychwelyd i’r Ŵyl yn dilyn llwyddiant y sioe ‘Le Jardin’ yn 2010. Mae’r perfformwyr o Gymru yn cynnwys Theatr Iolo, Run Ragged Productions, Mess up the Mess, Archif Sgrin a Sain Cymru, Llenyddiaeth Cymru a threfnwyr yr Ŵyl sef Arad Goch, sy’n llwyfannu pedwar cynhyrchiad yn ystod yr wythnos. Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf mae Arad Goch wedi bod yn cydweithio gyda un o gwmnïau dylunio blaengar Cymru, sef Elfen( www.elfen.co.uk) i ail frandio’r Ŵyl. Mae logo newydd AGOR DRYSAU – OPENING DOORS yn arwydd o’r Ŵyl yn cymryd drosodd, cydio a meddiannu. Yn ogystal ag ail frandio’r ddelwedd mae’r Ŵyl wedi esblygu i fod yn Ŵyl Celfyddydau Perfformio yn hytrach na dim ond Gŵyl Theatr. Mae’r rhaglen yn frith o berfformiadau dawns, cerddoriaeth, gwaith pypedau, barddoniaeth, animeiddio, theatr a llawer mwy. ‘Lansiwyd y rhaglen ym Mis Ionawr ac mae’r ymateb wedi bod yn anhygoel! Mae 6 o’r 16 perfformiad eisoes wedi gwerthu mas a rydym ni wedi derbyn mwy o archebion nag erioed gan fyfyrwyr, disgyblion ysgol a theuluoedd ledled Cymru. Mae’r ymateb gan bartneriaid tramor wedi bod yr un mor ffafriol ac eleni mae 35 cynrychiolydd o gwmnïau tramor yn dod draw yma i chwilio am waith i allforio i’w gwledydd nhw, mae rhain yn cynnwys cwmnïau o Rwsia, America, Cameroon a’r Aifft!’ Jeremy Turner, Cyfarwyddwr Artistig Arad Goch Mae AGOR DRYSAU – OPENING DOORS yn cynnig cyfle heb ei ail i bobl ifanc Cymru, nid dim ond i weld ac i brofi perfformiadau o dramor, ond hefyd i ryngweithio gyda pherfformwyr a chyflogwyr o bob cwr o’r byd, er mwyn dysgu mwy am y diwydiant, y diwylliant ac i ddatblygu cysylltiadau a phrosiectau newydd. Yn ogystal a’r rhaglen o berfformiadau bydd Arad Goch yn lawnsio rhaglen o ddigwyddiadau ymylol, ‘Fringe’, yr wythnos hon. Mae’r rhaglen hon yn cynnig nifer o ddigwyddiadau cyffrous gan gynnwys gwaith myfyrwyr ac artistiaid ifanc o Gymru a thramor, gweithdai, sesiynau academaidd a seminarau sy’n addas i bob oedran. ‘Mae’r ymateb i’r rhaglen hyd yma yn profi bod dyfodol disglair i Ŵyl AGOR DRYSAU – OPENING DOORS. Mewn oes ble mae nifer o Ŵyliau yn dioddef neu’n diflannu mae llwyddiant yr Ŵyl hon yn profi bod pobl Cymru yn gweld budd mewn Gŵyliau Celfyddydol a’u bod yn hapus i fuddsoddi mewn digwyddiadau o’r fath. Mae hyn yn hwb mawr i’n diwydiant mewn oes o doriadau di ben draw’ Jeremy Turner, Cyfarwyddwr Artistig Arad Goch Aberystwyth yw’r lleoliad ar gyfer rhaglen lawn yr Ŵyl ond mae’r cynyrchiadau o dramor yn ymweld â sawl theatr a chanolfan lleol o gwmpas y wlad. Mae’r rhaglen gyfan ar wefan yr Ŵyl: www.agordrysau-openingdoors.org |
| AGOR DRYSAU – OPENING DOORS web site: www.agordrysau-openingdoors.org |
| e-mail: |
| Thursday, February 23, 2012 |
Older news
stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999

Eleni mae Gŵyl Celfyddydau Perfformio Rhyngwladol Cymru i Gynulleidfaoedd Ifanc yn argoeli i fod yn fwy ac yn well nac erioed.