Cynhelir dOCUMENTA bob pum mlynedd yn ninas Kassel yn yr Almaen a bellach hwn yw un o'r arddangosiadau rhyngwladol mwyaf pwysig o ran celf fodern a chyfoes. Cynhelir dOCUMENTA (13) dros gyfnod o 100 diwrnod, rhwng 9 Mehefin a 16 Medi 2012.Mae nifer cyfyngedig o grantiau gwerth £350 yr un ar gael i artistiaid proffesiynol sy’n byw yng Nghymru, a £250 yr un i gynrychiolwyr o sefydliadau o Gymru sy’n gweithio o fewn sector y celfyddydau gweledol. Rhoddir ystyriaeth i geisiadau ar sail eu datganiad cysylltiol ar y ffurflen gais. Y dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau yw 5pm ddydd Gwener 16 Mawrth 2012. Hysbysir yr ymgeiswyr llwyddiannus o’u dyfarniad cyn 22 Mawrth 2012. Bydd rhaid i’r ymgeisydd llwyddiannus roi adborth o’r ymweliad fel un o amodau’r grant teithio. Os oes gennych ddiddordeb mewn ymgeisio, anfonwch gopi o’r ffurflen Grant Teithio dOCUMENTA wedi'i chwblhau a’i llofnodi, a’i hanfon at: Grantiau Teithio dOCUMENTA (13) Nicola Morgan Celfyddydau Rhyngwladol Cymru Plas Bute Caerdydd CF10 5AL Neu anfonwch e-bost at nicola.morgan@wai.org.uk I lawrlwytho copi o’r ffurflen gais, ewch i http://www.wai.org.uk/5182 os gwelwch yn dda. Nodwch fod achrediad proffesiynol ar gyfer rhagolwg o dOCUMENTA (13) ar 7 ac 8 Mehefin 2012 bellach ar agor. Gellir cofrestru ar-lein yn www.documenta.de. Dyddiad cau’r achrediad yw 31 Mawrth 2012. |
| Celfyddydau Rhyngwladol Cymru web site: www.wai.org.uk/5182 |
| e-mail: |
| Tuesday, March 6, 2012 |
Older news
stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999

Cynhelir dOCUMENTA bob pum mlynedd yn ninas Kassel yn yr Almaen a bellach hwn yw un o'r arddangosiadau rhyngwladol mwyaf pwysig o ran celf fodern a chyfoes. Cynhelir dOCUMENTA (13) dros gyfnod o 100 diwrnod, rhwng 9 Mehefin a 16 Medi 2012.