Bydd rhaglen artistig Theatr Genedlaethol Cymru dros yr haf a’r hydref yn cynnwys prosiect cymunedol, cyfieithiad o un o glasuron Shakespeare, taith ryngwladol a chynllun i ddatblygu dawn cyfarwyddwyr, cyhoeddodd Arwel Gruffydd, Cyfarwyddwr Artistig Theatr Genedlaethol Cymru heddiw (19 Mawrth 2012). C’laen ta! Mae’r cyfnod nesaf yn hanes y Cwmni drama teithiol cenedlaethol Cymraeg yn cychwyn ym mis Mehefin 2012 gyda phrosiect cymunedol ‘C’laen ta!’ yng Nghaernarfon. Mae’r prosiect, sydd mewn partneriaeth â Galeri Caernarfon ac mewn cydweithrediad â Phartneriaeth Pobol Peblig, yn cynrychioli’r trydydd cam creadigol dan law’r dramodydd ifanc Bethan Marlow ym mherthynas ddiweddar y Theatr Genedlaethol â phobl tref Caernarfon. Meddai Arwel: “Bydd ‘C’laen ’Ta!’ yn brosiect creadigol fydd yn dod ag artistiaid proffesiynol ac aelodau o’r gymuned ynghyd mewn ffordd newydd eto. Yn wahanol i’r ddau brosiect blaenorol yn y dref, ‘Sgint’ a ‘Sgin Ti Syniad?’ bydd ‘C’laen ’ta!’ yn ogystal â chreu a chyflwyno darn o theatr, yn darganfod a datblygu arweinwyr ar gyfer ac o fewn y gymuned. Mae’r hadau eisoes wedi eu plannu, ond rŵan, rydym am i’r hadau hynny dyfu ac am adael ar ein hôl unigolion sydd yn meddu’r sgiliau a’r hyder i annog a datblygu syniadau artistig a chymdeithasol newydd o fewn y gymuned a chynorthwyo eraill i ddatblygu eu gweledigaethau creadigol eu hunain.” Y Storm Mewn cydweithrediad â Chanolfan Mileniwm Cymru, yr Eisteddfod Genedlaethol, Pontio a Citrus Arts, yn ystod mis Awst, Medi a Hydref, fel rhan o Ŵyl Shakespeare y Byd y Royal Shakespeare Company a Gŵyl Llundain 2012 yr Olympiad Diwylliannol -, bydd cyfieithiad newydd gan Gwyneth Lewis o ‘The Tempest’, Y Storm - yn cael ei lwyfannu o dan gyfarwyddyd Elen Bowman. Gydag aelodau’r cast yn cynnwys Llion Williams (Prospero) a Meilir Rhys Williams (Ariel) a gyda thafluniadau arbennig, syrcas a cherddoriaeth fyw, bydd Theatr Genedlaethol Cymru yn creu byd hudolus a’r ynys ryfeddol o fewn pabell deithiol bwrpasol. Bydd ‘Y Storm’ yn cael ei berfformio yn ystod Eisteddfod Genedlaethol Bro Morgannwg ar faes yr Eisteddfod ei hun, cyn teithio i Gaerfyrddin rhwng 18-21 Medi ac i Fangor 02-06 Hydref 2012. Meddai Arwel: “Mae’n fraint ac yn gyfle unigryw i ni fel Cwmni gael bod yn rhan o Ŵyl Shakespeare y Byd a dathliadau Olympaidd. Bydd y cyfieithiad newydd hwn gan Gwyneth Lewis yn cynnig golwg newydd ar un o glasuron Shakespeare a bydd cynhyrchiad mentrus Elen Bowman yn sicr o fod yn brofiad theatraidd byth cofiadwy .” Llwyth Yn dilyn taith genedlaethol hynod lwyddiannus a pherfformiadau yng Ngŵyl Ymylol Caeredin 2011, bydd golygon y Theatr Genedlaethol Cymru yn troi tua’r Dwyrain Pell, wrth i’r Cwmni, ar y cyd â Sherman Cymru, fynd â drama gyffrous Dafydd James, ‘Llwyth’ i Ŵyl Gelf Ryngwladol Taipei o 31 Awst – 02 Medi 2012. “Cafwyd ymateb anhygoel i’r llwyfaniad yng Ngŵyl Caeredin y llynedd, lle roedd y cynhyrchiad yn rhan o arddangosfa arbennig y Cyngor Prydeinig, ac mae hon rŵan yn bennod gyffrous yn hanes Theatr Genedlaethol Cymru, wrth inni fynd â chynhyrchiad Cymraeg, sydd wedi cydio cymaint yn nychymyg y gynulleidfa yma yng Nghymru, ar antur ryngwladol,” meddai Arwel Gruffydd. Bydd un perfformiad o ‘Llwyth’ yng Nghaerfyrddin ym mis Awst, cyn iddi neidio ar awyren i brif ddinas Taiwan , ac yna ddychwelyd i Gymru ar gyfer perfformiadau yn Theatr Sherman Cymru, Caerdydd rhwng 12-14 Medi 2012. Cwrs Hyfforddi Cyfarwyddwyr Er mwyn annog gwaed newydd i’r diwydiant theatr yng Nghymru, mae Theatr Genedlaethol Cymru wedi ymrwymo fel un o bartneriaid cwrs hyfforddi newydd i gyfarwyddwyr sydd yn cael ei arwain gan gwmni Living Pictures. Mae’r cwrs, sydd wedi ei ariannu gan Gyngor Celfyddydau Cymru, yn gwrs blwyddyn o hyd (rhan amser) a fydd yn rhoi hyfforddiant trwyadl i dri cyw cyfarwyddwyr yn y broses o ddatblygu a chyfarwyddo dramau llwyfan newydd. Athrawon gwadd y prosiect, ymysg eraill fydd Marc Rees a Sash Wares o’r Royal Court. Bydd tri awdur profiadol yn cael ei comisiynu gan Theatr Genedlaethol Cymru i ysgrifennu tair drama a fydd yn cael ei datblygu fel rhan o’r cwrs a byddant yn cael ei perfformio ar lwyfan Sherman Cymru, Caerdydd yn ystod mis Medi 2013. Gwahoddir ceisiadau gan gyw cyfarwyddwyr erbyn 05 Ebrill 2012. I gael mwy o wybodaeth cysylltwch â livingpictures@btopenworld.com. |
| Theatr Genedlaethol Cymru web site: www.theatr.com |
| e-mail: |
| Monday, March 19, 2012 |
Older news
stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999
