Mae Dawns Genedlaethol Ieuenctid Cymru (DGIC) am ddewis hyd at 15 dawnsiwr ifanc rhwng 16 – 21 oed i fynd ar gwrs preswyl dwys ym mis Awst 2012. Yn ystod yr amser hwn byddant yn gweithio gyda Chyfarwyddwr Artistig adnabyddus DGIC, Errol White, er mwyn creu a pherfformio darn newydd sbon o goreograffi. Bydd y dawnswyr yn cyflwyno’r gwaith newydd am y tro cyntaf yng Nghaerdydd cyn mynd ar daith i Ogledd Cymru. Mae DGIC yn darparu cyfleoedd hyfforddi a pherfformio o’r radd flaenaf i rai o ddawnswyr ifanc mwyaf talentog ac ymrwymedig Cymru. Mae’n cydio yn egni a brwdfrydedd pobl ifanc dros ddawns a dawnsio, ac yn sianelu hyn i fod yn rym creadigol a chyfoes sy’n dathlu’r ddawns ieuenctid orau yng Nghymru heddiw. Mae DGIC wedi gweithio gyda rhai o goreograffwyr gwobrwyol, gorau y DU - gan gynnwys Wayne McGregor (Random Dance) a Henri Oguike (Henri Oguike Dance Company). Mae hefyd wedi perfformio yn rhai o theatrau mwyaf poblogaidd Cymru (Clwyd Theatr Cymru yn yr Wyddgrug, Theatr Brycheiniog yn Aberhonddu a Sherman Cymru, Caerdydd) ac yn Theatr y Peacock, Llundain. Yn ddiweddarach eleni, bydd aelodau DGIC 2011 yn perfformio yn y Royal Festival Hall yng Nghanolfan y Southbank, Llundain fel rhan o _yl ddawns fawreddog, U. Dance 2012 – hefyd mae pedwar aelod o DGIC wrthi’n gweithio gyda’r ffenomen dawns gyfoes byd-enwog, Hofesh Shechter ac Ensemble U. Dance a ffurfiwyd yn arbennig ar gyfer yr un _yl. Felly, fel y gwelwch chi, mae llu o gyfleoedd ar gael i aelodau DGIC! Cynhelir clyweliadau rhanbarthol ar gyfer DGIC 2012 ar 5 Mai (Caerdydd ac Abertawe), 12 Mai (Llandrindod), 13 Mai (Caerfyrddin), 19 Mai (Y Drenewydd), 26 Mai (Caernarfon) a 27 Mai (Caerdydd ac Abertawe). Rhaid i ymgeiswyr allu dangos eu bod wrthi’n dawnsio ar lefel ganolradd/uchel, ac mae’n rhaid iddynt fod ar gael ar gyfer y pythefnos lawn pan gynhelir y cwrs preswyl (16 Awst – 1 Medi 2012). Dylai ymgeiswyr fod â’u cartref teuluol yng Nghymru neu dylent fod yn byw neu’n astudio yng Nghymru er mwyn cael eu hystyried ar gyfer DGIC; rhaid iddynt fod rhwng 16-21 mlwydd oed erbyn 31 Awst 2012. Mae ffurflenni cais ar gael i’w llwytho i lawr ar www.nyaw.co.uk, neu drwy ffonio 029 2026 5060; dyddiad cau derbyn ffurflenni cais wedi’u llenwi yw dydd Gwener 20 Ebrill 2012 (efallai y bydd ceisiadau sy’n cael eu derbyn wedi hynny’n cael eu hystyried os oes lleoedd ar gael). |
| Dawns Genedlaethol Ieuenctid Cymru (DGIC) web site: www.nyaw.co.uk |
| e-mail: |
| Tuesday, April 17, 2012 |
Older news
stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999
