Theatre in Wales

The latest theatre, dance and performance news

CAST Y STORM YN CAEL EI GYHOEDDI     

CAST Y STORM YN CAEL EI GYHOEDDI

Bydd cast cynhyrchiad cyffrous newydd Theatr Genedlaethol Cymru, ‘Y Storm’, yn cynnwys rhai o enwau adnabyddus byd y theatr yng Nghymru.

Cyfieithiad o glasur William Shakespeare ‘The Tempest’ yw’r cynhyrchiad ac mae aelodau’r cast yn cynnwys Llion Williams fel y prif gymeriad, Prospero, Lisa Marged fel ei ferch Miranda, Meilir Rhys Williams fydd yn chwarae rhan yr ysbryd, Ariel, gyda Simon Nehan fel Caliban.

Aelodau eraill y cast fydd Gwydion Rhys, Ioan Hefin, Ceri Murphy, Sion Pritchard, Rhodri Siôn, Hugh Thomas a Seiriol Tomos.

Mae ‘Y Storm’ yn ran o Ŵyl Shakespeare Y Byd (World Shakespeare Festival) y Royal Shakespeare Company a Gŵyl Llundain 2012, sef rhaglen gelfyddydol y Gemau Olympaidd.

Bydd yn cael ei berfformio, mewn cydweithrediad â Chanolfan Mileniwm Cymru, Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Pontio a Citrus Arts, ar faes Eisteddfod Genedlaethol 2012 yn mis Awst, 2012 yn Llandow, Bro Morgannwg.

Bydd hefyd i’w weld 18-21 Medi 2012 yng Nghaerfyrddin a 02-06 Hydref ym Mangor.

Mae’r cyfieithiad newydd yma gan gyn Fardd Cenedlaethol Cymru, Gwyneth Lewis yn cynnwys cerddoriaeth fyw a gwaith corfforol herfeiddiol byd y syrcas gan gwmni Citrus.

Bydd y tîm creadigol yn cynnwys y gyfarwyddwraig Elen Bowman (Deffro’r Gwanwyn, The Devil Inside Him), y cyfansoddwr Simon Allen, a’r coreograffydd a’r cyfarwyddwr corfforol Liz Ranken.

Meddai Arwel Gruffydd, Cyfarwyddwr Artistig Theatr Genedlaethol Cymru: “Mae dramâu oesol Shakespeare, un o ddramodwyr mwya’r byd, yn cael eu perfformio ymhob iaith dan haul, ledled y byd ac mae Theatr Genedlaethol Cymru’n falch o gyflwyno cynhyrchiad yn yr iaith Gymraeg fel rhan o Ŵyl Shakespeare Y Byd a chyffro’r gemau Olympaidd yr haf hwn.

“Mae cyflwyno ‘The Tempest’ i gynulleidfa Gymraeg, a gweithio gyda Gwyneth i archwilio beth sy’n digwydd i stori glasurol pan y’i llefarir hi yn Gymraeg – o dan gyfarwyddyd dyfeisgar Elen Bowman – yn mynd i fod yn ddathliad diwylliannol arbennig ac edrychwn ymlaen yn fawr i weld ymateb y cyhoedd i’r cynhyrchiad mentrus hwn.”
Theatr Genedlaethol Cymru  
web site
: www.theatr.com

e-mail:
Monday, May 21, 2012back

 

 

Older news stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999

 

Privacy Policy | Contact Us | ©2013 keith morris / red snapper web designs / keith@artx.co.uk