Theatre in Wales

The latest theatre, dance and performance news

Nichola McAuliffe yn ymddangos yn The Lady in the Van gan Alan Bennett yn y Theatr Newydd, Caerdydd     

Nichola McAuliffe yn ymddangos yn The Lady in the Van gan Alan Bennett yn y Theatr Newydd, Caerdydd Daw cynhyrchiad clodfawr Hull Truck o The Lady in the Van gan Alan Bennett i’r Theatr Newydd, Caerdydd, o ddydd Mawrth 12 Mehefin i ddydd Sadwrn 16 Mehefin.

Mae’r ddrama boblogaidd ysbrydoledig a thorcalonnus hon yn adrodd stori wir cymydog anarferol Alan Bennett – dynes sy’n byw mewn hen fan Bedford sydd wedi’i barcio yn ardd flaen y dramodydd. Mae Miss Shepherd a’i fan yn symud i mewn un dydd – a byth yn symud allan. Wyr Alan nemor ddim amdani. Buodd hi’n gyrru ambiwlansys yn ystod y rhyfel. Mae’n bosibl y bu’n lleian am gyfnod. Mae’n gwerthu pensiliau a phamffledi ac, am ryw reswm, mae’n gas ganddi gerddoriaeth biano.

Mae perfformiad Nichola McAuliffe, sydd wedi ennill gwobr Olivier, yn rhagorol yn un o gomedïau mwyaf adnabyddus a phoblogaidd y blynyddoedd diwethaf. Mae drama ardderchog Alan Bennett yn adrodd stori cyfeillgarwch anarferol iawn. Mae’n llawn anwyldeb a ffraethineb, gyda llinellau unigol gwych, fel y byddech yn ei ddisgwyl gan awdur Talking Heads, The Madness of George III a The History Boys. O ran y teledu, mae’n debyg bod Nichola McAuliffe yn fwyaf adnabyddus am chwarae rhan Sheila Sabatini mewn saith cyfres o Surgical Spirit ar ITV. Mae hi hefyd wedi chwarae rhan Anita yn Coronation Street (hefyd ar ITV).

Cafodd y cynhyrchiad hwn gan Hull Truck glod gan y beirniad yn ystod ei daith ledled y DU yn 2011, gan berfformio o flaen cynulleidfaoedd mawr. Mae Nichola McAuliffe yn gweithio eto gyda’r cyfarwyddwr Sarah Esdaile, sydd wedi bod yn gyfrifol am nifer o ddramâu llwyddiannus yn ddiweddar, yn cynnwys Deep Blue Sea gyda Maxine Peake ar gyfer West Yorkshire Playhouse a’r sioe Nadolig boblogaidd The Sleeping Beauty ar gyfer Birmingham Rep.

Wrth gwrs, ni fyddai’r ddrama’n gyflawn heb Alan Bennett ei hun – neu yn hytrach ddau ohono. Mae dau actor yn chwarae rhan Alan Bennett yn The Lady in the Van, sef Sean McKenzie a Paul Kemp, sydd wedi ymddangos yn Birdsong ar gyfer y BBC a llawer o rolau ar gyfer cwmni drama arferol Alan Ayckbourn. Mae’r cast o saith hefyd yn cynnwys Fenella Norman (The Secret Diary of Adrian Mole, Sheffield Crucible), Dale Rapely (The Merchant of Venice, Globe Theatre), Karen Traynor (Tracey Beaker Returns, BBC), Ged Mckenna (Faith Healer, Library Theatre Manceinion), Sophie Robinson (Juno and the Paycock, National Theatre).
Dywedodd Cyfarwyddwr Gweithredol Hull Truck, Andrew Smaje: “Mae’r comedi ffraeth hwn yn cynnwys dau drysor cenedlaethol – Alan Bennett a Nichola McAuliffe! Perfformiad Nichola fel Miss Shepherd yw un o berfformiadau gorau ei gyrfa. Rydym wrth ein bodd o ddod â gwaith un o’r dramodwyr byw gorau i rai o’n theatrau gorau.”

Mae The Lady in the Van yn Y Theatr Newydd o ddydd Mawrth 12 Mehefin i ddydd Sadwrn 16 Mehefin 2012. Mae’r tocynnau ar werth nawr ac mae’r prisiau’n amrywio o £8.50 i £25.00. I gael rhagor o fanylion am y sioe neu i archebu tocynnau* ewch i www.newtheatrecardiff.co.uk neu ffoniwch y Swyddfa Docynnau ar (029) 2087 8889.

Codir ffi ychwanegol o 50c o Gyfraniad Gwella Seddi ar bob tocyn, a chodir ffi ychwanegol fechan am werthiannau ar-lein

The Lady in the Van
Y Theatr Newydd, Caerdydd
Dydd Mawrth 12 – dydd Sadwrn 16 Mehefin 2012
Nosweithiau 7.30pm; Perfformiadau prynhawn Iau a Sadwrn 2.30pm
Tocynnau: £8.50 - £25.00
Swyddfa Docynnau: 029 2087 8889
Archebu Ar-lein: www.newtheatrecardiff.co.uk
New Theatre Cardiff  
web site
: www.newtheatrecardiff.co.uk

e-mail:
Wednesday, May 30, 2012back

 

 

Older news stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999

 

Privacy Policy | Contact Us | ©2013 keith morris / red snapper web designs / keith@artx.co.uk