Mae Dance Blast am gomisiynu coreograffydd i weithio gyda'i gwmni dawns ieuenctid blaenllaw; Cwmni Dawns Ieuenctid Sir Fynwy (MYDC). Mae’r comisiwn yn rhan o IGNITE, sef prosiect sy'n cael ei ariannu gan arian loteri Cyngor Celfyd- dydau Cymru, sy'n rhoi cyfleoedd newydd, dyfeisgar a chyffrous i herio a datblygu dawnswyr ifanc o Sir Fynwy. Bydd y coreograffydd yn cael ei ddewis gan aelodau MYDC (Cwmni Dawns Ieuenctid Sir Fynwy) a fydd yn llunio rhestr fer o ymgeiswyr posibl ac yn trefnu clyweliadau ac yn dewis y coreograffydd y maent am ei gomisiynu. Y cyfnod creu fydd 29ain Hydref - 3ydd Tachwedd 2012 + amserau ymarfer ychwanegol yn arwain at berfformiadau ym mis Mehefin 2013: Ffi £3,000 (yn cynnwys teithio a llety) Os oes gennych ddiddordeb, anfonwch neges e-bost i holi am ffurflen gais a chanllawiau: emmacarlsonwales@hotmail.com Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyniadau yw 30 Mehefin 2012: ewch i'r wefan i weld fideo o MYDC http://www.dance-blast.org/monmouthshire-youth-dance-company/shine/ |
| web site: /www.dance-blast.org/monmouthshire-youth-dance-company/shine/ |
| Emma Carlson e-mail: emmacarlson67@hotmail.com |
| Wednesday, June 13, 2012 |
Older news
stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999
