Theatre in Wales

The latest theatre, dance and performance news

Campyrfan binc enwog Sherman Cymru ar werth!     

Campyrfan binc enwog Sherman Cymru ar werth!
Mae campyrfan binc enwog Sherman Cymru yn chwilio am gartref newydd. Mae’r cerbyd wedi bod yn teithio Cymru tra bod y cwmni’n aros i’w hadeilad newydd gael ei gwblhau.

Agorodd adeilad newydd Sherman Cymru yn Chwefror yn dilyn gwaith ailwampio o £6.5 miliwn. Er mwyn dechrau'r ymgyrch codi arian, ddyfarnwyd y Cyngor Celfyddydau Cymru rhoi 75% o'r arian sydd ei angen i gychwyn y prosiect ailddatblygu i Sherman Cymru.

Cafodd tu mewn a thu allan yr adeilad eu hadnewyddu’n llwyr. Yn ystod y cyfnod yma bu i Sherman Cymru barhau i gynhyrchu sioeau gan deithio i amryfal leoliadau ledled Cymru a’r DU, gan hefyd drawsnewid rhai lleoliadau anghyffredin yng Nghaerdydd yn llwyfannau theatrig.

Dywedodd Emma Goad, Pennaeth Datblygu Sherman Cymru:
“Mae campyrfan Binc Sherman Cymru wedi bod yn arf marchnata rhagorol yn ystod y cyfnod bu’r adeilad ar gau. ‘Roeddem yn awyddus i wneud rhywbeth oedd yn cyd-fynd â’r ffaith ein bod yn ddigartref ac yn teithio’r strydoedd. Y campyrfan oedd ein heicon tra oeddem allan o’r adeilad. ‘Roedd i’w gweld ym mhob un o’n sioeau, ac mewn digwyddiadau codi arian.”

Daeth y campyrfan, sy’n 25 mlwydd oed, o Affrica yn wreiddiol. Mae mewn cyflwr da iawn, ac yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf mae injan wedi ei hadnewyddu wedi ei gosod ynddi. Ers 2010 mae brand Sherman Cymru wedi bod yn amlwg ar ei hochr, ac mae’n gymeriad eiconig yn y brifddinas.

Mae Suzanne Carter, Rheolwr PR ac Ymgyrchoedd Sherman Cymru yn gyrru’r fan binc o amgylch Caerdydd yn rheolaidd. Dywedodd Suzanne:

“’Rydym wedi cael ymateb da iawn gan ein cynulleidfaoedd a’n cefnogwyr sy’n adnabod y campyrfan pan maent yn ei gweld hwnt ac yma. Byddai pobl yn canu corn, yn codi llaw, hyd yn oed yn tynnu lluniau. ‘Rydym wedi cael lot o sylw yn y cyfryngau cymdeithasol, a bydd yn drist ei gweld yn mynd, ond erbyn hyn ‘rydym yn ôl yn yr adeilad ac mae angen cartref newydd ar y fan.”

Bydd Sherman Cymru yn gwerthu’r campyrfan binc ar ebay gan gychwyn ar ddydd Sul 17 Mehefin am 7 diwrnod (http://myworld.ebay.co.uk/shermancymru/). Mae yna gronfa o £9,000 Bydd y campyrfan yn cael ei gwerthu heb frand Sherman Cymru arni, ond bydd yn dal i fod yn binc llachar. Edrychwch ar wefan ebay i weld rhestr o’r telerau ac amodau ar gyfer cynnig amdani.
 
web site
: myworld.ebay.co.uk/shermancymru/

e-mail:
Wednesday, June 13, 2012back

 

 

Older news stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999

 

Privacy Policy | Contact Us | ©2013 keith morris / red snapper web designs / keith@artx.co.uk