Theatre in Wales

The latest theatre, dance and performance news

THEATR BARA CAWS yn cyflwyno ‘Ga’ i fod..?’     

THEATR BARA CAWS yn cyflwyno ‘Ga’ i fod..?’ Natur yn galw..! Mae ein cynhyrchiad nesaf yn addo bod yn chwa o awyr iach - yn llythrennol. Mi fydd y cwmni’n teithio gyda chomedi gwreiddiol am gr_p o bobol sy’n awyddus i brofi natur ar ei wylltaf mewn lleoliadau awyr agored o gwmpas y Gogledd.

Yn dilyn cyfnod o gydweithio gydag awdur o’r Iseldiroedd, Madeleen Bloemendaal, ar ei drama ‘Man op Tak’, fe fydd y cynhyrchiad yn dilyn helyntion doniol pump o unigolion sydd wedi ymgynnull dros benwythnos i fyw fel anifeiliaid. Peth od ydi trefnu i fynd yn wyllt ac mae ambell un yn llawer mwy parod i fynd yn ôl at natur na’i gilydd. Beth bynnag ddigwyddith, anghofian nhw byth mo’r profiad - yn naturiol.

Cyfarwyddwyr: Madeleen Bloemendaal a Bryn Fôn

Actorion: Rhian Cadwaladr, Iwan Charles, Carys Gwilym, Mared Elliw Huws, Merfyn Pierce Jones

Parc Glynllifon: Llandwrog, Ger Caernarfon Nos Fercher 11 o Orffenanf– Nos Sadwrn 14 o Orffennaf 7.30 y.h. Matinee: prynhawn Sadwrn 14 o Orffennaf 3.00 y.p.

Rhagolwg Nos Fawrth 4ydd o Orffennaf.

Ty Henblas, Bodorgan, Ynys Môn
Nos Fercher – l8 o Orffennaf - 21 o Orffennaf 7.30y.h. Matinee: prynhawn
Sadwrn 21 o Orffennaf 3.00 y.p.

Am fwy o wybodaeth ewch i wefan Bara Caws www.theatrbaracaws.com

 
web site
: www.theatrbaracaws.com

e-mail:
Monday, June 18, 2012back

 

 

Older news stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999

 

Privacy Policy | Contact Us | ©2013 keith morris / red snapper web designs / keith@artx.co.uk