Theatre in Wales

The latest theatre, dance and performance news

Sherman Cymru地 cyhoeddi rhaglen yr Hydref 2012 a置 hymrwymiad i sgrifennu newydd     

Sherman Cymru地 cyhoeddi rhaglen yr Hydref 2012 a置 hymrwymiad i sgrifennu newydd
Mae chwe mis cyntaf Sherman Cymru ers i’r adeilad ail-agor, wedi bod yn hynod lwyddiannus, a heddiw maent wedi datgelu eu rhaglen ar gyfer tymor yr Hydref. Mae’n cynnwys cymysgedd o artistiaid Cymreig, Prydeinig a rhyngwladol ac yn dangos ymrwymiad cryf Sherman Cymru at ddatblygu ysgrifennu newydd gan awduron sy’n byw yng Nghymru. Mae naws arbennig o Geltaidd ac Affricanaidd i’r tymor gyda Theatr Genedlaethol yr Alban, Theatr y Citizens Glasgow a G_yl Affricanaidd - sy’n para wythnos - a bydd y cyfan wedi eu leoli yn Sherman Cymru.

Meddai Chris Ricketts, Cyfarwyddwr Sherman Cymru:
“We had a strong and exciting opening season, which saw our previous supporters as well as new audiences return to our lovely new home. We continue to programme a real mix of regional, national and international companies and artists to excite, engage and provide a cultural experience for all. We also want to show our commitment to being the home of new writing in Wales.”

Bydd Sherman Cymru yn lansio’r tymor drwy groesawu Llwyth yn ôl, cyd-gynhyrchiad rhwng y Sherman a’r Theatr Genedlaethol. Bydd y cynhyrchiad hefyd yn cael ei gyflwyno yng Ng_yl Gelfyddydol Ryngwladol Taipei cyn dychwelyd i Sherman Cymru o 12-14 Medi. Dyma’r drydedd waith i Llwyth deithio o amgylch y DU, ond y tro cyntaf i’r ddrama gael ei pherfformio yng nghartref Sherman Cymru. ‘Roedd y cynhyrchiad yn llwyddiant ysgubol yng Ng_yl Ymylol Caeredin yn 2011, a gall cynulleidfaoedd di-Gymraeg y Sherman hefyd fwynhau’r profiad y tro hwn gan fod is-deitlau Saesneg i bob perfformiad.

Er mwyn parhau â’r ymrwymiad i ddatblygu a chefnogi awduron newydd o Gymru, bydd Sherman Cymru’n cyd-gynhyrchu drama newydd gyda’r Bristol Old Vic, Before It Rains, a ysgrifennwyd gan Katherine Chandler sy’n byw ym Mhen-y-bont. Cyfarwyddwr Cyswllt Sherman Cymru, Roísín McBrinn, fydd yn cyfarwyddo.

Lleolir Before It Rains ar stad o dai llwm a chaled ar gyrion Caerdydd. Mae’n adrodd hanes mam a mab a’r hyn sy’n digwydd pan mae teulu newydd yn symud i fyw gerllaw. Mae stori Katherine Chandler am broblemau magu plant, am warchod ac am gythruddo eraill yn ddoniol, yn ddewr ac wedi ei hadrodd yn hynod o gelfydd. Mae’n edrych ar sut ‘rydym oll yn datblygu ffyrdd unigryw o ymdopi â’r byd, ar ein hysfa am gyfeillgarwch a’r hyn all ddigwydd pan fydd y naill neu’r llall yn cael eu bygwth.

Meddai Chris Ricketts:
"We're really pleased to be working with Bristol Old Vic on Before It Rains and hope it will be the first of many collaborations between us. Kath is a really promising writer who we know will make a strong name for herself over the years ahead. That both companies wanted to work with her on this piece is testament to her talent and the confidence we have in her writing."

Meddai Emma Stenning o’r Bristol Old Vic:
“Our work over the past few years has been a real lesson in reaching out beyond our theatre – and beyond Bristol – and this hugely exciting co-production with Cardiff’s Sherman Cymru continues our instinct to collaborate. Katherine Chandler’s script sings; at times uproariously funny, at others, thuddingly poignant and full of colloquial attitude and swagger. Before It Rains – and its deeply compelling central character – won’t be forgotten in a hurry.”

Fel rhan o raglen tymor yr Hydref bydd Theatr Genedlaethol yr Alban yn dod a thri chynhyrchiad i’r Sherman Cymru newydd! Yn gyntaf y byddant yn cyflwyno Yellow Moon ochr yn ochr â The Monster in the Hall gyda Theatr y Citizens Glasgow. Bydd Yellow Moon a The Monsters in the Hall yn cael eu perfformio yn Sherman Cymru yn ystod yr un wythnos o 9-13 Hydref a’r un cast fydd yn y ddau gynhyrchiad.

Guy Hollands, Cyfarwyddwr Yellow Moon a The Monster in the Hall:
“It has long been my dream to be able to present David Greig’s two outstanding plays in a double-bill. They complement each other so well because they were both devised as full-throttle in the round storytelling that would grab a teenage audience’s attention and keep them on the edge of their seats. We soon discovered that both plays were of equal interest to an adult audience and one of the joys has been to see a genuine mix of ages in the theatre sharing the experience of high quality writing delivered by a skilled and passionate cast.”

Yn dilyn y ddwy sioe yma gan Theatr Genedlaethol yr Alban, byddant yn dychwelyd wythnos yn ddiweddarach gyda Frantic Assembly i gyflwyno Beautiful Burnout, drama sydd wedi ei gwobrwyo, sy’n sôn am fywyd o amgylch y cylch bocsio yn Glasgow. Dyma’r trydydd tro i Frantic Assembly ymweld â Chymru yn ystod y 7 mis diwethaf. Maent wedi dechrau gwneud enw iddynt eu hunain yng Nghymru am gynhyrchu theatr o safon uchel yn dilyn Lovesong yn Sherman Cymru ym mis Chwefror a Little Dogs gyda’r National Theatre Wales ym mis Mai.

Dywedodd Scott Graham o Frantic Assembly:
“Following a great first time experience and huge success last year with Lovesong we are thrilled to be returning to the wonderful Sherman Cymru with Beautiful Burnout. Having formed in Wales it feels great to be bringing our work back and collaborating within what is becoming an exciting and increasingly vibrant creative environment.”

Bydd Beautiful Burnout gan Frantic Assembly a Theatr Genedlaethol yr Alban yn Sherman Cymru o 23 - 27 Hydref.

Ym mis Hydref bydd Sherman Cymru yn cyflwyno G_yl Affricanaidd arbennig i gyd-fynd â lansio’r ‘Black History Month’ fydd yn digwydd yn y lleoliad. UK Arts International fydd yn cyflwyno Afrovibes, g_yl o theatr, dawns a cherddoriaeth arloesol sy’n rhoi cyfle i ymwelwyr ymgolli ym mherfformiadau cyfoes gorau De Affrica. Bydd unrhyw wybodaeth ychwanegol a manylion am y cynyrchiadau ar gael ar wefan Sherman Cymru.

Bydd Living Pictures yn dod a chomedi dywyll Gogol, Diary of A Madman i Sherman Cymru ar 25 a 26 o fis Hydref.

Bydd dau gwmni o Gymru’n dod nôl i’r Sherman Cymru newydd am y tro cyntaf yr hydref hwn. Bydd Volcano yn ail-lwyfannu L.O.V.E ar 30 a 31 o Hydref, a bydd Music Theatre Wales yn cyflwyno dwy opera newydd, un ohonynt yn seiliedig ar stori arswyd gyffrous. Perfformir y rhain am un noson yn unig ar 2 o Dachwedd.

Bydd Headlong yn ymddangos yng Nghymru am y tro cyntaf ac yn cyflwyno eu fersiwn hynod gyfoes o ddrama glasurol Euripides, Medea. Byddant yn Sherman Cymru o 6 - 10 o Dachwedd.

Bydd y comedïwr Mark Thomas, sydd wedi ei wobrwyo, yn perfformio yn Sherman Cymru ar 14 a 15 Tachwedd.

Bydd rhagor o sioeau safonol i’r teulu yn cael eu cyflwyno yn Sherman Cymru yn ystod y gwyliau hanner tymor gyda Cloud Man o 30 Hydref - 3 Tachwedd a chynhyrchiad newydd Theatr Travelling Light ar gyfer plant 9+, The Mysterious Vanishment of Pobby and Dinghan ar 17 Tachwedd, cyn i Sherman Cymru gychwyn ar eu eu sioeau Nadolig ei hun.

Bydd Sherman Cymru yn cynhyrchu dwy sioe Nadolig yn eu cartref newydd, sef Peter Pan yn Theatr 1 ar gyfer plant 7+, a Snow Tiger / Teigr Yr Eira yn Theatr 2 i blant 3-6 mlwydd oed. Addaswyd Peter Pan gan Rob Evans o Gaerdydd, a Chyfarwyddwr Cyswllt Sherman Cymru, Roísín McBrinn, fydd yn cyfarwyddo. Bydd y sioe yn wledd arbennig i’r teulu cyfan ac yn newid delfrydol o’r pantomeim traddodiadol. Perfformir Peter Pan ar y prif lwyfan o 30 Tachwedd - 5 Ionawr.

Mae Sherman Cymru yn parhau i gynhyrchu sioe Nadolig i gynulleidfaoedd Cymraeg a Saesneg o 3-6 mlwydd oed gyda drama newydd wedi’i chomisiynu gan Philip Michell. Mae The Snow Tiger / Teigr Yr Eira wedi ei seilio ar chwedl o Sgandinafia, a bydd yn teithio o amgylch De Cymru cyn dod i Sherman Cymru ar gyfer y Nadolig ar 11 o Ragfyr. Mae manylion llawn am amseroedd pob perfformiad ac am y daith ar gael ar wefan Sherman Cymru.

Bydd mwy na 22 o wahanol gynyrchiadau yn cael eu cyflwyno yn ystod y tymor hwn, fydd hefyd yn cynnwys Cwmni Dawns Cenedlaethol Ieuenctid Cymru, Theatr Ffynnon, Wayne McGregor a Random Dance, Pentabus, Theatr Iolo a Theatr Bara Caws.

Os ydych yn gymwys i gael blaenoriaeth wrth archebu tocynnau gallwch wneud hynny ‘nawr, fel arall bydd y tocynnau ar werth i’r cyhoedd yn gyffredinol o 13 Gorffennaf. Gellir prynu’r tocynnau neu gael gwybodaeth gyflawn am y tymor newydd o Swyddfa Docynnau Sherman Cymru ar 029 2064 6900 neu ar-lein ar www.shermancymru.co.uk
sherman cymru  
web site
: www.shermancymru.co.uk

e-mail:
Friday, July 6, 2012back

 

 

Older news stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999

 

Privacy Policy | Contact Us | ©2013 keith morris / red snapper web designs / keith@artx.co.uk