Bydd drama Gymraeg lwyddiannus yn cymryd rhan yn un o brif wyliau celfyddydol Asia y mis nesaf. Mae Sherman Cymru a Theatr Genedlaethol Cymru yn mynd a’r ddrama boblogaidd Llwyth gan y dramodydd Dafydd James i Ŵyl Gelfyddydol Taipei yn Nhaiwan o 31 Awst – 02 Medi 2012. Dyma’r tro cyntaf erioed i’r ddau gwmni deithio cynhyrchiad yn rhyngwladol. Daeth y gwahoddiad i fynychu Gŵyl Gelfyddydol Taipei yn dilyn perfformiadau yng Ngŵyl Ymylol Caeredin yn 2011, lle yr oedd Llwyth yn rhan o arddangosfa’r Cyngor Prydeinig. Meddai Arwel Gruffydd. Cyfarwyddwr Llwyth a Chyfarwyddwr Artistig Theatr Genedlaethol Cymru: “Roedd yr ymateb gafodd Llwyth yng Nghaeredin yn anhygoel, ac mae’r datblygiad newydd yma yn gyffrous iawn i’r Cwmni wrth i ni fynd a chynhyrchiad Cymraeg ei iaith, sydd wedi bod mor boblogaidd yma yng Nghymru, ar daith i Taiwan.” Bydd un perfformiad o Llwyth yng Nghaerfyrddin ar 23 Awst 2012, cyn hedfan i brifddinas Taiwan. Wedi dychwelyd i Gymru bydd perfformiadau pellach yn Clwyd Theatr Cymru, Yr Wyddgrug ar 06-07 Medi 2012 a Sherman Cymru, Caerdydd ar 12-14 Medi 2012. Er mwyn apelio i gynulleidfa ddi-gymraeg, bydd pob perfformiad gydag uwchdeitlau Saesneg. Wedi ei gynhyrchu yn wreiddiol gan Sherman Cymru yn Ebrill 2012, cafodd Llwyth adolygiadau ffafriol iawn gyda’r theatrau yn llawn. Cafodd ei atgyfodi eto yn 2011 fel cydgynhyrchiad rhwng Sherman Cymru a Theatr Genedlaethol Cymru pan aeth i Ŵyl Ymylol Caeredin ac ar daith lwyddiannus arall o amgylch Cymru. Meddai Chris Ricketts, Cyfarwyddwr Artistig Sherman Cymru: “Mae Llwyth wedi bod yn gynhyrchiad peni gamp, sydd wedi cael ei fwynhau gan filoedd o bobl. Mae’r cynhyrchiad wedi cyflawni cymaint i ni fel Cwmni ac mae’n addas iawn fod y daith olaf yma yn cynnwys perfformiadau rhyngwladol. Mae ein diolch ni yn fawr i’r Cyngor Prydeinig sydd yn cefnogi ein taith i Taipei a hefyd am y cyfle a gawsom fod yn rhan o’r arddangosfa yng Nghaeredin fel ein bod yn gallu ymestyn cynulleidfa’r darn hyd yn oed ymhellach.” Am fwy o wybodaeth am daith Llwyth ewch i www.shermancymru.co.uk neu www.theatr.com |
| Theatr Genedlaethol Cymru web site: www.theatr.com |
| e-mail: |
| Friday, August 3, 2012 |
Older news
stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999
