Theatre in Wales

The latest theatre, dance and performance news

Sherman Cymru a Bristol Old Vic yn cyd-gynhyrchu drama newydd Katherine Chandler, wedi ei lleoli ar stad o dai yng Nghaerdydd     

Sherman Cymru a Bristol Old Vic yn cyd-gynhyrchu drama newydd Katherine Chandler, wedi ei lleoli ar stad o dai yng Nghaerdydd Gan barhau â’u hymrwymiad i ddatblygu, cynhyrchu ac hyrwyddo awduron newydd o Gaerdydd bydd Sherman Cymru a’r Bristol Old Vic yn cyd-gynhyrchu drama newydd llawn cythrwfl emosiynol. Ysgrifennwyd Before It Rains gan Katherine Chandler o Gaerdydd, a bydd yn cael ei chyfarwyddo gan Gyfarwyddwr Cyswllt Sherman Cymru Róisín McBrinn.

Bydd Before It Rains yn agor yn y Bristol Old Vic, sydd newydd ei ailwampio, o 10 – 22 Medi. Cynhelir perfformiad i’r wasg ar 11 Medi, cyn ei pherfformio am y tro cyntaf yng Nghymru yng nghartref ysgrifennu newydd Cymru, Sherman Cymru o 25 Medi – 6 Hydref.

Lleolir Before It Rains ar stad o dai yng Nghaerdydd, stad falch ond sydd wedi ei anghofio gan bawb. Mam sengl yw Gloria sy’n mwynhau eistedd ar ei chadair gynfas ar ei rhandir yn yfed er mwyn anghofio, tra bod ei mab addfwyn, Michael, yn palu’r tir er mwyn sicrhau fod popeth mewn trefn. Ond yn sefyll gerllaw, yn chwarae â’i bel, mae Carl, llanc hanner gwyllt, a symudwyd o’i gartref cythryblus i fyw gerllaw, ac mae’n eu gwylio â diddordeb.

Mae’r ddrama’n sôn am yr hyn mae mam yn fodlon ei wneud i amddiffyn ei mab, a pha mor gymhleth yw cyfeillgarwch pan na wyddoch sut i garu.

Mae stori Katherine Chandler am fod yn rhiant, am warchod ac am gythruddo eraill yn ddoniol, yn ddewr ac mae wedi’i hadrodd yn hynod gelfydd. Mae’n edrych ar sut ‘rydym oll yn datblygu ffyrdd unigryw o ymdopi â’r byd, ein hysfa am gyfeillgarwch, a’r hyn all ddigwydd pan fydd y naill neu’r llall yn cael ei fygwth.

“Mae stori Before it Rains yn berthnasol i bawb. Mae’n sôn am gryfder cariad mam, a pha mor bell ‘rydym yn barod i fynd i amddiffyn y bobl ‘rydym yn eu caru,” meddai’r awdur, Katherine Chandler.

Sêr Before It Rains yw Craig Gazey, un o raddedigion Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, ac un o gyn-actorion Coronation Street - ef oedd yn chwarae rhan Graeme yn yr opera sebon; Lisa Palfrey (gwaith ffilm yn cynnwys: House of America, Maybe Baby; gwaith theatr yn cynnwys: The Kitchen Sink (Bush), Festen (Almeida) a Small Change i Sherman Cymru); ac yn dilyn ei berfformiad yn The Radicalisation of Bradley Manning i’r National Theatre Wales, Harry Ferrier (Young Dracula) o Gaerdydd.

Bu i’r awdur Cymreig Katherine Chandler, sydd erbyn hyn yn byw gyda’i theulu ym Mhenarth, ddechrau ei gyrfa yn Sherman Cymru (Theatr y Sherman) yn 1988 diolch i Gynllun Hyfforddi Ieuenctid y Llywodraeth. Bu’n gweithio yn y swyddfa gyllid a gweinyddu. Aeth yn ei blaen i gael ei hyfforddi ym maes Rheoli Llwyfan yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, cyn rhoi tro ar ysgrifennu. Ers hynny mae Katherine wedi ysgrifennu nifer o ddramau gan gynnwys The Bankrupt Bride ar gyfer cwmni theatr Nan ’Og , ac mae rhai o’i dramâu byrion wedi eu cynhyrchu gan Dirty Protest a Spectacle Theatre. Dyma fydd drama gyntaf Katherine Chandler i Sherman Cymru a’r Bristol Old Vic. Mae gan Katherine hefyd Atodiad Stiwdio (Studio Attachment) gyda Theatr Genedlaethol Lloegr fydd yn cychwyn ym mis Ionawr 2013.

Dywedodd Katherine Chandler: “Mae Before it Rains yn ddoniol ac yn drist, ond yn fwy na dim ‘rwy’n meddwl fod y ddrama’n llawn gobaith. Fedrwn i ddim fod yn fwy balch fod Before it Rains yn cael ei gyd-gynhyrchu gan ddau o gewri’r byd theatrig rhanbarthol, Sherman Cymru a’r Bristol Old Vic. Mae’n amhosib dychmygu gwell cartref i feithrin, datblygu a gwireddu’r darn cyfoes hwn o ysgrifennu newydd.”

Dyma’r tro cyntaf i Sherman Cymru gynhyrchu drama mewn cydweithrediad â’r Bristol Old Vic. Meddai Chris Ricketts, Cyfarwyddwr Sherman Cymru: "‘Rydym yn hynod o falch cael gweithio gyda’r Bristol Old Vic ar Before It Rains, a gobeithio y byddwn yn cael cyfle i weithio gyda’n gilydd sawl gwaith eto. Mae Katherine yn awdur gwirioneddol addawol, ‘rydym yn sicr y bydd yn gwneud enw iddi ei hun yn ystod y blynyddoedd nesaf. Mae’r ffaith bod dau gwmni eisiau gweithio gyda hi ar y darn hwn yn dyst o’i thalent, ac o’r hyder sydd gennym ni yn ei hysgrifennu."

Meddai Emma Stenning o’r Bristol Old Vic: “Mae ein gwaith yn ystod y blynyddoedd diwethaf wedi ein dysgu i ymestyn allan y tu hwnt i’n theatr - a thu hwnt i Fryste - ac mae’r cyd-gynhyrchiad hynod gyffrous hwn, gyda Sherman Cymru, yn parhau â’n greddf i gyd-weithio. Mae sgript Katherine Chandler yn canu; weithiau’n tu hwnt o ddoniol, weithiau’n hynod deimladwy- mae’n llafar tu hwnt ac yn llawn swagr. Bydd Before It Rains – a’r cymeriad canolog carismatig - yn aros yn hir yn y cof.”

Cyflwynir Before It Rains gan Sherman Cymru a’r Bristol Old Vic yn y Bristol Old Vic o 10 – 22 Medi (perfformiad i’r wasg ar 11 Medi) ac yn Sherman Cymru, Caerdydd o 25 Medi – 6 Hydref. Gellir cael rhagor o wybodaeth a thocynnau ar:
www.bristololdvic.org.uk / 0117 987 7877
www.shermancymru.co.uk / 029 2064 6900

Sherman Cymru  
web site
: www.shermancymru.co.uk

e-mail:
Wednesday, August 29, 2012back

Other related news stories on the Theatre in Wales web site :

 

 

Older news stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999

 

Privacy Policy | Contact Us | ©2013 keith morris / red snapper web designs / keith@artx.co.uk