Theatre in Wales

The latest theatre, dance and performance news

Circa yn dod i Ganolfan Mileniwm Cymru ym mis Hydref eleni     

Circa yn dod i Ganolfan Mileniwm Cymru ym mis Hydref eleni
Bydd y cwmni syrcas cyfoes o Brisbane, Circa, yn dod â'i sioe ysblennydd, Wunderkammer, i Ganolfan Mileniwm Cymru rhwng 12 a 13 Hydref.
Mae Circa yn fyd-enwog am greu ffyrdd newydd rhyfeddol o gael profiad o syrcas. Wrth gyfuno campau corfforol a ymddengys yn amhosibl â synwyrusrwydd barddol, mae'r perfformwyr talentog yn mynd y tu hwnt i realiti gyda'u cyfuniad cyffrous o syrcas, cabaret a vaudeville newydd.


Mae Wunderkammer, sy'n golygu 'cwpwrdd chwilfrydedd', yn gweddu i'r dim. Mewn sioe sy'n gymysgedd o syrcas, acrobateg, cabaret a vaudeville newydd, mae'r perfformwyr hanner noeth yn arddangos cryfder eithriadol, gosgeiddrwydd a dewrder llwyr; gan gyfuno campau a ymddengys yn amhosibl â hiwmor a chwaeth yn ddidrafferth.

Ers 2006, mae Circa wedi teithio o amgylch 22 o wledydd ar draws pum cyfandir. Mae beirniaid wedi canmol ei sioeau gan alw'r gwaith yn "anhygoel...gwefreiddiol...trawiadol" a "syfrdanol".

Dywedodd Conrad Lynch, Cyfarwyddwr Artistig Canolfan Mileniwm Cymru: "Mae sioeau syrcas cyfoes yn hynod o boblogaidd ymysg cynulleidfa'r Ganolfan ac mae'n bleser gennyf groesawu'r acrobatiaid talentog hyn i Gaerdydd am y tro cyntaf."
Cafodd sioe Circa Wunderkammers ei chreu gan Yaron Lifschitz ac Ensemble Circa. Yaron Lifschitz yw'r Cyfarwyddwr Artistig, Ben Knapton yw'r Cyfarwyddwr Cyswllt a chaiff ei chynhyrchu gan Danielle Kellie. 

http://circa.org.au/

Bydd Circa yng Nghanolfan Mileniwm Cymru rhwng 12 a 13 Hydref. Bydd tocynnau'n costio rhwng £16.00 a £22.00. Am ragor o wybodaeth, ewch i www.wmc.org.uk Canllaw oedran: 12+

Am ragor o wybodaeth cysylltwch ag Elin Rees – elin@elinrees.com / 07917 308329

 
web site
: circa.org.au/

e-mail: elin@elinrees.com
Tuesday, September 11, 2012back

 

 

Older news stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999

 

Privacy Policy | Contact Us | ©2013 keith morris / red snapper web designs / keith@artx.co.uk