Theatre in Wales

The latest theatre, dance and performance news

De Oscuro a Chanolfan Mileniwm Cymru yn cyflwyno Gaza/Blaenannerch     

De Oscuro a Chanolfan Mileniwm Cymru yn cyflwyno Gaza/Blaenannerch Mae'r cyfarwyddwr blaenllaw o Gymru, Judith Roberts yn ymuno â'r coreograffydd a'r perfformwraig poblogaidd, Eddie Ladd, i gyflwyno Gaza/Blaenannerch, sef cynhyrchiad cyntaf y cwmni newydd, De Oscuro. Wrth archwilio i hunaniaeth, cenedligrwydd a beth mae'n ei olygu i fod yn Gymro heddiw, mae Gaza/Blaenannnerch yn ddarn o theatr ddawns gymhellol a herfeiddiol yn y Gymraeg a'r Saesneg. Cyd-gynhyrchiad â Chanolfan Mileniwm Cymru ydyw, a bydd taith fer yn dilyn yr agoriad.

Nos Sul 21 i Nos Fawrth 23 Hydref 2012 yn Stiwdio Weston, Canolfan Mileniwm Cymru.

Wedi'i osod ar bedwarawd llinynnol arswydus Philip Glass, Rhif 1 a Rhif 5, a'i berfformio â theatraeth beiddgar, gan gyfuno symudiad â thestun, mae'r darn arloesol hwn wedi ei ysbrydoli gan y cysylltiad rhwng Palesteina a Blaenannerch yng Ngorllewin Cymru, na ŵyr llawer o bobl amdano.

Mae Gaza/Blaenannerch yn ystyried cymhlethdodau'r gwrthdaro rhwng Israel a Phalestina o safbwynt newydd - sef o safbwynt cenedl arall sy'n ceisio dod o hyd i'w hunaniaeth: Cymru.

Sefydlwyd De Oscuro gan Judith Roberts gyda'r bwriad o dynnu rhai o artistiaid mwyaf talentog a phrofiadol Cymru ynghyd. Mae'n ymrwymedig i weithio yn Gymraeg ac yn Saesneg ac yn archwilio theatr sy'n seiliedig ar destun ochr yn ochr ag iaith gorfforol dawns a symud.

Mae perfformiadau Eddie Ladd yn dibynnu'n fawr ar ei threftadaeth ddiwylliannol Gymreig gyfoethog hi ei hun ac yn defnyddio dawns, testun dwyieithog, cerddoriaeth a thechnolegau cyfryngau newydd. Mae wedi gwneud gwaith safle penodol yn ogystal â darnau theatr mwy rheolaidd ac wedi ymddangos yn The Bobby Sands Memorial Race, Bonnie + Clyde, Scarface, Sawnoff Scarface, Club Luz a Lla’th.

Mae gwaith cyfarwyddo Judith Roberts yn cynnwys La Casa de Bernarda Alba, Act Without Words I and II, The Crucible, Le Misanthrope, Endgame (Theatr Genedlaethol), Not I, What Were ac Act Without Words I (Gate Theatre yn Nulyn a'r Barbican yn Llundain), an Judith (The Project Arts, Dulyn).



Cynhyrchwyd a chyfarwyddwyd gan Judith Roberts
Dawnswraig - Eddie Ladd
Sgript gan Judith Roberts ac Eddie Ladd
Coreograffi: Cai Tomos ac Eddie Ladd
Cynllunydd goleuo: Martin Hunt. Cerddoriaeth wedi'i pherfformio gan Bedwarawd Smith
Canolfan Mileniwm Cymru  
web site
: www.wmc.org.uk

e-mail:
Tuesday, September 25, 2012back

 

 

Older news stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999

 

Privacy Policy | Contact Us | ©2013 keith morris / red snapper web designs / keith@artx.co.uk