Theatre in Wales

The latest theatre, dance and performance news

Yr holl docynnau wedi eu gwerthu ar gyfer The Mousetrap yn y Theatr Newydd, Caerdydd     

Yr holl docynnau wedi eu gwerthu ar gyfer The Mousetrap yn y Theatr Newydd, Caerdydd

Mae’r holl docynnau wedi eu gwerthu ar gyfer The Mousetrap gan Agatha Christie yn y Theatr Newydd, fel rhan o daith gyntaf erioed y sioe o amgylch y DU. Aeth y tocynnau ar werth ym mis Rhagfyr 2011 a bydd y sioe yng Nghaerdydd rhwng dydd Llun 8 a dydd Sadwrn 13 Hydref. Oherwydd y galw anhygoel am docynnau, cafodd perfformiad arall ei ychwanegu ym mis Mai, a gwerthwyd yr holl docynnau ar gyfer y sioe honno'n fuan hefyd.

Mae’r daith hon ar Ben-blwydd Diemwnt The Mousetrap yn dathlu 60 mlynedd ar y llwyfan. Mae’r cast o sêr yn cynnwys Steven France (EastEnders, The Bill) yn chwarae rhan Christopher Wren, Thomas Howes (Downton Abbey) fel Sgt Trotter, Karl Howman (Brush Strokes) fel Mr Paravicini, Bruno Langley (Coronation Street, Doctor Who) fel Giles Ralston, Graham Seed (The Archers) fel Major Metcalf a Jemma Walker (Family Affairs, EastEnders) fel Mollie Ralston. Bydd Jan Waters yn dychwelyd i’r rôl a chwaraeodd yn y West End fel Mrs Boyle a bydd Claire Wilkie (EastEnders) yn chwarae rhan Miss Casewell.

Lleolir y ddrama mewn ty anghysbell yn y wlad. Ar ôl cael eu dal mewn storm eira, mae grwp o bobl ddieithr yn darganfod bod llofrudd yn eu plith, gan arwain at noson llawn amheuaeth a chwilfrydedd. Gyda sawl tro annisgwyl yn ei chynffon, bydd y gynulleidfa i gyd ar bigau’r drain i weld beth yw diweddglo'r sioe wefreiddiol hon!

Ers dros 50 mlynedd, The Mousetrap gan Agatha Christie yw cynhyrchiad llwyfan mwyaf hirhoedlog y byd. Mae’r cynhyrchiad tra llwyddiannus wedi ei lwyfannu yn y West End yn Llundain ers bron 60 mlynedd, ac ar 25 Tachwedd 2012, bydd yn dathlu ei ben-blwydd swyddogol yn 60 oed gyda gala i godi arian ar gyfer Projectau Mousetrap Theatre.

Mae Mousetrap Productions wedi trwyddedu 60 o gynyrchiadau o The Mousetrap ym mhob cwr o'r byd i nodi pen-blwydd diemwnt y ddrama. Yn ystod y cyfnod hwn bydd modd gweld sioe fwyaf hirhoedlog y byd ar bob cyfandir, ac mae cynyrchiadau proffesiynol ar y gweill yn Awstralia, Tsieina, Korea, Twrci, De Affrica, Rwsia, Gweriniaeth Tsiec, Hwngari, Ffrainc, Yr Almaen, Yr Iseldiroedd, Yr Eidal, Gwlad Pwyl, Sbaen, Sgandinafia, Venezuela, ac ym mhob rhan o'r Unol Daleithiau a Chanada.

Llwyfennir The Mousetrap yn St.Martin’s Theatre, Llundain o hyd ac mae tocynnau ar werth hyd at fis Rhagfyr 2012.
New Theatre, Cardiff  
web site
: www.newtheatrecardiff.co.uk

e-mail:
Tuesday, September 25, 2012back

 

 

Older news stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999

 

Privacy Policy | Contact Us | ©2013 keith morris / red snapper web designs / keith@artx.co.uk