Cynhyrchiad theatrig ar gyfer pobl ifanc 13 oed+ Pwy sy'n gwarchod ein hawliau? Pam fod cymaint yn amharchu hawliau eraill? Sut all gwledydd mwyaf pwerus y byd dorri rheolau hawliau dynol sylfaenol heb dderbyn cosb? Cafodd cynhyrchiad HAWL gan Gwmni Frân Wen ei berfformio am y tro cyntaf yn 2010. Yn dilyn llwyddiant ysgubol y cynhyrchiad bryd hynny, bydd Frân Wen yn ailgyflwyno HAWL y tymor hwn ac yn mynd ar daith. Dyma gynhyrchiad tywyll ac heriol fydd yn dy annog i feddwl eto am hawliau dynol. Wyt ti ‘di byw mewn byd lle does ‘na neb yn dy ddallt di? Di o’m ots pa mor uchel ti’n gweiddi...does 'na neb yn sylwi arna ti? Be’ fysa ti’n fodlon neud i newid petha? Pa mor bell fysa ti’n mynd i gael be’ wyt ti isio? Dydy bywyd byth yn hawdd pan ti’n 17 mlwydd oed ac ma Kyrg yn ferch ifanc sy’n sylweddoli hyn. Mewn lloches i ffoaduriaid yn Kyrgystan - mi fyddi'n rhan o fyd tywyll, llawn gormes lle byddi'n dod i wybod mwy am stori unigryw Kyrg. Bydd y profiad theatrig aml-synhwyrus hwn yn yn dy annog i ailystyried effaith grym gwladwriaethau ar hawliau sylfaenol unigolion bregus. Wnaiff camu i fyd anghyfforddus Kyrg dy newid di fel person? "Mae themâu HAWL dal yn berthnasol heddiw - yn arbennig yng nghyd-destun yr hyn sy'n digwydd yn Syria ar hyn o bryd." meddai Iola Ynyr, Cyfarwyddwr Hawl. "Mae'n braf cael gweithio gyda chast newydd a thalentog wrth i ni baratoi i ailgyflwyno HAWL," meddai. Tîm Artistig / Artistic team

 Awdur a chyfarwyddwr / Director : Iola Ynyr
 Cynllunydd set a Gwisgoedd / Set Designer : Gwyn Eiddior
 Cerddoriaeth / Music : Osian Gwynedd
 Coreograffi / Choreography : Sarah Mumford
 Rheolwr Llwyfan / Stage Manager : Aled Ifan
 Actorion / Actors : Carys Gwilym, Lynwen Haf Roberts, Osian Rhys, Rhodri Sion. Perfformiadau Cyhoeddus Cymraeg 22.11.12 – Ysgol Y Berwyn, Y Bala (7.30 yh) 26.11.12 – Ysgol Eifionydd, Porthmadog (7.30 yh) 
28.11.12 – Ysgol Y Creuddyn, Bae Pernhyn Bay (7.30yh) Gellir archebu tocynnau drwy ffonio Cwmni'r Frân Wen ar 01248 715 048 neu gellir archebu tocynnau ar-lein http://WWW.WEGOTTICKETS.COM/franwen RIGHT by Iola Ynyr Theatric production for young people aged 13+ Who are protecting our rights? Why do so many disrespect the rights of others? How can the most powerful countries breach basic human rights without facing prosecution? RIGHT by Cwmni'r Frân Wen was first performed in 2010. Following a great response, Cwmni’r Frân Wen will re-tour the production this October - November (Cast members and artistic team listed above). RIGHT is an unnerving production that will challenge your perceptions of Human Rights. Do you live in a world where no one understands you? It doesn’t matter how loud you scream…. nobody takes any notice? What would you do to change things? How far would you go to get what you want? Set in a refugee camp in Kyrgystan, you will enter a dark and threatening world where Kyrg's unique story will be revealed. Life is never easy when you’re 17 years old and Kyrg is a young girl who knows this better than anyone. This multisensory theatrical experience sheds light on the battles that some vulnerable individuals have to endure in the face of adversity. Will stepping into Kyrg’s uncomfortable world change you as a person? "The themes in Right are as relevant today as they were in 2010 - we all see the Human Right struggles that are going on in Syria today" said Iola Ynyr, Right Director. "It's great having the opportunity to work with a new and talented cast as we prepare to re-tour RIGHT." Public performances (English language) 6.11.12 – Studio, The Old Friars School, Bangor (7.30 pm) £7 / £5 16.11.12 – John Bright School, Llandudno (7.30 yh/pm) £7 / £5 You can order tickets by telephoning Cwmni'r Frân Wen on 01248 715 048 or you can order tickets online http://WWW.WEGOTTICKETS.COM/franwen |
| Fran Wen web site: WWW.WEGOTTICKETS.COM/franwen |
| e-mail: |
| Tuesday, October 23, 2012 |
Older news
stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999
