Comedi glasurol Wilde yn dod i Gaerdydd am y tro cyntaf ers degawdMae’r Theatr Newydd yn edrych ymlaen at gomedi glasurol Oscar Wilde sy’n ymwneud â chamadnabyddiaeth, The Importance of Being Earnest, am y tro cyntaf ers dros ddegawd. Bydd y sioe yng Nghaerdydd am wythnos yn unig rhwng dydd Mawrth 6 a dydd Sadwrn 10 Tachwedd. Dyma ddrama glyfar sy’n llawn llinellau cofiadwy. Mae Jack Worthing yn byw yn y wlad â’i ward, Cecily Cardew, ond yn Llundain fe’i hadwaenir fel Ernest ac mae mewn cariad â Gwendolen Fairfax. Cefnder Gwendolen yw Algernon, ond pan mae’n teithio i dy gwledig Jack mae hefyd yn cael ei alw’n Ernest, ac mae mewn cariad â Cecily ... dyna ddryswch! Mae The Importance of Being Earnest yn cynnwys Corinne Wicks (Emmerdale, Doctors), Tom Butcher (The Bill, Doctors), Sarah Thomas (Last of the Summer Wine), Jim Alexander (The Bill, Dream Team), Sapphire Elia (Emmerdale), David Gooderson (A Touch of Frost), Gerry Hinks (Coronation Street) a Diane Fletcher (House of Cards) fel y Foneddiges Bracknell. Cynhyrchir The Importance of Being Earnest gan Gwmni Theatr Middleground, y tîm y tu ôl i Columbo: Prescription Murder ac On Golden Pond. Sefydlwyd y cwmni ym 1988 ac agorodd ei daith genedlaethol gyntaf (o amgueddfeydd ac orielau celf) yn yr Alban gyda darn newydd o ysgrifennu am y Frawdoliaeth Gynraffaelaidd. Roedd ei deithiau cynnar eraill yn cynnwys amrywiaeth eang o leoliadau, o gestyll i lolfeydd gwestai, a chynhyrchwyd chwe drama ar deithiau deng wythnos o Ucheldir ac Ynysoedd yr Alban. Yn dilyn y cynyrchiadau hyn aeth y cwmni ymlaen i theatrau mwy gan gynnal teithiau llwyddiannus iawn. Heddiw mae’n un o gwmnïau cynhyrchu amlycaf y DU, gan gyflwyno dros 40 o gynyrchiadau. Mae The Importance of Being Earnest yn Y Theatr Newydd o ddydd Mawrth 6 i ddydd Sadwrn 10 Tachwedd 2012. Mae’r tocynnau ar werth nawr ac mae’r prisiau’n amrywio o £8.50 i £25.00. I gael rhagor o fanylion am y sioe neu i archebu tocynnau* ewch i www.newtheatrecardiff.co.uk neu ffoniwch y Swyddfa Docynnau ar (029) 2087 8889. Codir ffi ychwanegol o 50c ar bob tocyn fel Cyfraniad at Wella’r Seddi, a chodir ffi ychwanegol fechan am werthiannau ar-lein The Importance of Being Earnest Y Theatr Newydd, Caerdydd Dydd Mawrth, 6 Tachwedd - Dydd Sadwrn, 10 Tachwedd 2012 Perfformiadau nos 7.30pm; Perfformiadau prynhawn dydd Iau a dydd Sadwrn 2.30pm Tocynnau: £8.50 - £25.00 Swyddfa Docynnau: 029 2087 8889 Archebu Ar-lein: www.newtheatrecardiff.co.uk |
| New Theatre, Cardif web site: www.newtheatrecardiff.co.uk |
| e-mail: |
| Tuesday, October 23, 2012 |
Older news
stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999

Comedi glasurol Wilde yn dod i Gaerdydd am y tro cyntaf ers degawd