Cyfieithiad Gareth Miles o ddrama Yasmina Reza , ‘Le Dieu Du Carnage’ ‘LLANAST!’ - cyfieithiad Gareth Miles o ddrama ddoniol a deifiol Yasmina Reza – ‘Le Dieu du Carnage’. 2 fam + 2 dad + 2 fab × wisgi + tiwlips + ffôn = llanast! Mae dau bâr o rieni yn cwrdd i drafod ymddygiad eu plant anystywallt - mae plentyn y naill wedi brifo plentyn y llall mewn parc. Mae’r noson yn cychwyn yn gall a’r pedwar yn ddigon bonheddig, ond wrth i’r noson fynd rhagddi mae eu hymddygiad yn mynd yn fwyfwy plentynnaidd, a diolch i botel o Benderyn mae chwarae’n troi’n chwerw go iawn a daw’r noson i ben mewn anhrefn llwyr! Enillodd y ddrama wobr Olivier am Gomedi Newydd Orau Llundain a thair gwobr Tony. Fe’i rhyddhawyd yn ddiweddar fel ffilm gan Roman Polanski, sef ‘Carnage’. Mae wynebau’r cast yn gyfarwydd ar lwyfannau ac ar y cyfryngau yng Nghymru - Emlyn Gomer, Rebecca Harries, Lauren Phillips a Llion Williams. Betsan Llwyd sy’n cyfarwyddo. Mewn dau leoliad yn unig y llwyfannir y ddrama’r tro hwn, sef yn Sherman Cymru, Caerdydd ar 22, 23, 24 o Dachwedd am 8.00y.h., ac yna yng nghartref Theatr Bara Caws yng Nghaernarfon ar 29, 30 o Dachwedd a 1 o Ragfyr am 7.45y.h. Nifer cyfyngedig o docynnau sydd ar gael felly awgrymir i chi eu harchebu rhag blaen. Cysylltwch â Swyddfa Docynnau Sherman Cymru ar gyfer perfformiadau Caerdydd ar 02920 646900, ac ar gyfer y perfformiadau yng Nghaernarfon dilynwch y ddolen ganlynol: www.wegottickets.com/TheatrBaraCaws (os nad oes gennych fynediad at y we ffoniwch 01276 675869) |
| web site: www.wegottickets.com/TheatrBaraCaws |
| e-mail: |
| Thursday, November 1, 2012 |
Older news
stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999

Cyfieithiad Gareth Miles o ddrama Yasmina Reza , ‘Le Dieu Du Carnage’