|
Tocynnau ar werth ar gyfer pedair sioe wych yn y Theatr Newydd, Caerdydd |
Mae’n bleser gan y Theatr Newydd, Caerdydd, gyhoeddi bod tocynnau’n mynd ar werth heddiw ar gyfer pedair sioe gyffrous newydd yn 2013. Ymhlith y sioeau, bydd rhywbeth i blesio pawb gyda The Woman in Black (dydd Llun 29 Ebrill – dydd Sadwrn 4 Mai), Save the Last Dance for Me (dydd Mawrth 7 – dydd Sadwrn 11 Mai), Spot’s Birthday Party (dydd Iau 2 – dydd Sadwrn 4 Mai), a Dora the Explorer Live! gan Nickelodeon. (dydd Gwener 14 – dydd Sul 16 Mehefin). Mae The Woman in Black bellach yn dathlu 23 mlynedd yn y West End ac wedi cael clod mawr yn y cyfryngau. Dyma un o’r dramâu mwyaf iasoer a llwyddiannus erioed. Gan gyfuno pwer ac angerdd theatr byw ag elfen sinematig sydd wedi’i hysbrydoli gan fyd film noir, mae The Woman in Black yn cynnig noson o ddrama afaelgar, gan gludo’r gynulleidfa i fyd brawychus llawn ysbrydion. Mae cyfreithiwr yn penodi actor ifanc amheugar i’w helpu i adrodd ei stori frawychus a bwrw’r ofn allan o’i enaid. Mae pethau’n ddigon diniwed i ddechrau, ond wrth iddynt drafod ei atgofion tywyllaf mae’r ffiniau rhwng yr hyn sy’n wir a’r hyn sy’n anwir yn dechrau cymylu ac mae’r straeon yn dechrau codi arswyd... I bawb sy’n hoff o sioeau cerdd, mae’r sioe gerdd roc a rol newydd, Save the Last Dance for Me, fel cyfuniad o Dreamboats & Petticoats a Dirty Dancing. Yr un bobl sy’n gyfrifol am ysgrifennu, cynhyrchu, creu a chyfarwyddo Dreamboats & Petticoats a Save the Last Dance for Me, a bydd y sioe’n cludo’r gynulleidfa yn ôl i oes aur y 60au cynnar, wrth iddi ddilyn hynt dwy chwaer yn eu harddegau yn ystod haf ’63. Yn rhydd o’u rhieni am y tro cyntaf, mae’r chwiorydd yn mynd ar wyliau i lan y môr. Yn llawn rhyddid ac asbri, maen nhw’n cwrdd ag Americanwr ifanc golygus sy’n eu gwahodd i ddawns yn safle lleol Awyrlu yr UDA... Ond gall cariad ifanc a charwriaeth ar eich gwyliau fod yn bethau cymhleth, a tra bod y byd mawr yn dal i wylio ei hun mewn du a gwyn, mae’r ddwy chwaer yn sylweddoli’n o fuan y gall bywyd a chariad fod yn llawer mwy lliwgar. Mae Save the Last Dance for Me yn cynnwys y caneuon poblogaidd A Teenager in Love, Sweets for my Sweet, Turn Me Loose, Here I Go Again, Viva Las Vegas, Little Sister, His Latest Flame, Suspicion, Can’t Get Used to Losing You, Save the Last Dance For Me a llawer mwy... Mae dwy sioe wych i gynulleidfaoedd iau yn dod i’r Theatr Newydd sef Spot’s Birthday Party a Dora the Explorer Live! gan Nickelodeon. Yn gyntaf, mae’n ben-blwydd ar ein hoff gi bach ac mae croeso i bawb! Bydd holl ffrindiau Smot yno; Steve y Mwnci, Helen yr Hipo a Tom y Crocodeil ynghyd â mam a thad Smot, Sali a Sam. Bydd gwestai arbennig, sef y Dewin Marco y Bwni, felly bydd digon o hwyl i’w gael! Gyda llwyth o ganeuon, gemau a storïau - bydd y sioe hudol hon am ben-blwydd Smot yn dal dychymyg pawb. Mae’r dramodydd mwyaf enwog y DU i blant, David Wood (The Gingerbread Man, The BFG, The Tiger Who Came To Tea, Meg and Mog Show) wedi defnyddio cymeriadau enwog Eric Hill i greu sioe adloniant lliwgar a cherddorol, addysgiadol a difyr. Dyma gyfle perffaith i gyflwyno eich plant i’r theatr. Nesaf, mae hoff chwilotwr pawb yn mentro ar antur gerddorol fyw yn Dora the Explorer LIVE! gan Nickelodeon. Yn The Search for the City of Lost Toys mae Dora wedi colli ei thedi Osito, ac mae’n benderfynol o ddod o hyd iddo! Gyda help y gynulleidfa, Map, Sach Gefn, Esgidiau, Diego a’u ffrindiau dewr, mae Dora’n defnyddio ei sgiliau darllen mapiau, cyfrif, cerdd ac iaith i deithio drwy’r pyramid rhifau a’r jyngl o rifau cymysg yn llwyddiannus er mwyn cyrraedd dinas y teganau coll. Bydd dilynwyr Dora the Explorer yn dwlu ar y sioe dwy act hon, llawn canu a dawnsio, sy’n eu hannog i feddwl, canu a chwarae ynghyd. I gael rhagor o wybodaeth am y sioe neu archebu tocynnau* ewch i www.newtheatrecardiff.co.uk neu ffoniwch y Swyddfa Docynnau ar 029 2087 8889. Codir tâl ychwanegol o 50c y tocyn fel Cyfraniad at Wella Seddi a chodir ffi fechan ychwanegol am drafodion ar-lein. The Woman in Black Dydd Llun 29 Ebrill - dydd Sadwrn 4 Mai 2013 Perfformiadau nos 7.30pm; Perfformiadau prynhawn Iau a Sadwrn 2.30pm Tocynnau £8.50 - £26.00 Save the Last Dance for Me Dydd Mawrth 7 - dydd Sadwrn 11 Mai 2013 Dydd Mawrth - dydd Gwener 7.30pm; perfformiadau prynhawn dydd Mercher a dydd Iau 2.30pm; dydd Sadwrn 4pm ac 8pm Tocynnau £9.00 - £29.50 Spot’s Birthday Party Dydd Iau 2 - Dydd Sadwrn 4 Mai 2013 Dydd Iau hanner dydd; dydd Gwener 10.30am, 1.30pm a 4.30pm; dydd Sadwrn 10am a hanner dydd Tocynnau £8.50 - £12.50 Dora the Explorer Dydd Gwener 14 – dydd Sul 16 Mehefin 2013 Dydd Gwener 4pm; Dydd Sadwrn 10am, 1pm a 4pm; Dydd Sul 10am ac 1pm Tocynnau £16.00 - £18.00 |
| New Theatre Cardiff web site: www.newtheatrecardiff.co.uk n |
| e-mail: |
| Tuesday, November 20, 2012 |
Older news
stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999
