Theatre in Wales

The latest theatre, dance and performance news

Cadeirydd newydd i Creu Cymru     

Cadeirydd newydd i Creu Cymru Mae Creu Cymru, yr asiantaeth ddatblygu ar gyfer theatrau a chanolfannau celfyddydau yng Nghymru, yn chwilio am Gadeirydd newydd ar gyfer ei bwrdd cyfarwyddwyr ac ymddiriedolwyr.



Ar ôl chwe blynedd ar y Bwrdd, mae’r cadeirydd presennol (Nicolas Young, Cyfarwyddwr Glan-yr-afon, Casnewydd) yn sefyll i lawr, fel a ofynnir gan reolau’r cwmni. Does dim aelod arall o’r Bwrdd, oherwydd eu hymrwymiadau ar hyn o bryd, sy’n gallu ymgymryd â’r rôl yn ei chrynswth. Mae Creu Cymru felly am benodi rhywun o’r tu allan i’r aelodaeth bresennol, naill ai fel cadeirydd unigol neu fel cyd-gadeirydd. 



Ar ôl edrych ar y swydd yn fanwl, mae’r Bwrdd yn credu y gall rhannu’r rôl rhwng dau o bobl fod yn drefniad addas. Ar hyn o bryd, mae Louise Miles-Crust (Rheolwr Rhaglennu Artistig yng Nghanolfan Mileniwm Cymru) yn ymgymryd â rôl y Cyd-gadeirydd ochr yn ochr â Nicolas Young, ac mae’n barod i aros ymlaen yn y rôl honno, os yn briodol. Mae’r Bwrdd hefyd yn hapus derbyn datganiadau o ddiddordeb gan ymgeiswyr y byddai diddordeb ganddynt mewn ymgymryd â rôl y cadeirydd yn ei chrynswth.



Wrth recriwtio Cadeirydd newydd, mae gan Creu Cymru ddiddordeb arbennig mewn godi proffil a hybu eiriolaeth ac arweinyddiaeth y sefydliad.


Ceisir datganiadau o ddiddordeb erbyn dydd Llun 17 Rhagfyr. 


I fynegi diddordeb yn y rôl ac am wybodaeth bellach am Creu Cymru (gan gynnwys copïau o ddisgrifiad o swydd y Cadeirydd, yr adroddiad a’r cyfrifon blynyddol) cysylltwch ag Yvonne O'Donovan (yvonne@creucymru.com / 01970 822222).


Am drafodaeth anffurfiol, cysylltwch â:
Nicolas Young (nicolas.young@newport.gov.uk) / 01633 656696
neu Louise Miles-Crust (louise.miles-crust@wmc.org.uk ) / 029 2063 4631
neu Deborah Keyser (deborah@creucymru.com) / 01550 721565


Cwmni cyfyngedig drwy warant yw Creu Cymru, rhif 5125340, ac mae’n elusen gofrestredig, rhif 1135304



Creu Cymru  
web site
: www.creucymru.com

e-mail: yvonne@creucymru.com
Wednesday, November 28, 2012back

 

 

Older news stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999

 

Privacy Policy | Contact Us | ©2013 keith morris / red snapper web designs / keith@artx.co.uk