Theatre in Wales

The latest theatre, dance and performance news

50 Diwrnod i Fynd Tan Y Bont     

50 Diwrnod i Fynd Tan Y Bont
Dim ond 50 diwrnod sydd i fynd hyd nes digwyddiad arbennig Theatr Genedlaethol Cymru i ddathlu 50 mlynedd ers protest enwog Pont Trefechan yn Aberystwyth.

Gan gychwyn o Ganolfan y Celfyddydau Aberystwyth, bydd perfformiad unigryw ‘Y Bont’, dydd Sul 03 Chwefror 2013, yn gwau trwy strydoedd Aberystwyth ac yn ymweld â chaffis y dref. Bydd yn plethu theatr byw gyda ffilm, technoleg ddigidol, a chyfryngau cymdeithasol i greu un digwyddiad bythgofiadwy. Bydd y gynulleidfa’n dyst i berfformiadau byw ar y stryd, yn gwylio darnau o ffilm hwnt ac yma ac yn profi cyffro’r brotest; ond ble yn union mae’r stori’n gorffen a’r gwylio’n dechrau, amser a ddengys!

Dim ond 500 o docynnau sydd ar gael ar gyfer y digwyddiad un diwrnod hwn ac mae Theatr Genedlaethol Cymru’n annog pobl i brynu eu tocynnau ymlaen llaw rhag cael eu siomi. Gellir prynu tocynnau oddi wrth Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth ar 01970 623232 neu trwy fynd i aberystwythartscentre.co.uk. Pris tocyn yw £15 i oedolion a £12 i fyfyrwyr a phensiynwyr.

Catrin Dafydd, Ceri Elen, Angharad Tomos ac Arwel Gruffydd sy’n gyfrifol am y sgript ac Arwel Gruffydd hefyd yw cyfarwyddwr y prosiect. Mae’r awduron eisoes wedi bod yn cyfweld â nifer o’r protestwyr gwreiddiol a oedd yno ar Bont Trefechan union hanner can mlynedd yn ôl, ynghyd ag eraill oedd yno ar y dydd, a’u hatgofion nhw sy’n sail i’r sgript.

Mae’r prosiect yn ganlyniad i bartneriaeth greadigol arbennig rhwng Theatr Genedlaethol Cymru ag S4C, Green Bay Media, a Chanolfan y Celfyddydau Aberystwyth a gyda chydweithrediad y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, Prifysgol Morgannwg, Prifysgol Aberystwyth a Phrifysgol Y Drindod Dewi Sant.

Bydd dros 60 o fyfyriwr o’r tair prifysgol yn cymryd rhan yn y perfformiad fel actorion a cherddorion ac mae Arwel a Sarah Bickerton, y cyfarwyddwr cyswllt, eisoes wedi bod yn gweithio gyda’r myfyrwyr ar wahanol agweddau o’r gwaith. Bydd Dylan Richards yn cyfarwyddo’r elfennau teledu, a fydd yn cael eu darlledu ar S4C maes o law.

Meddai Arwel Gruffydd, Cyfarwyddwr Artistig Theatr Genedlaethol Cymru a chyfarwyddwr ac un o awduron ‘Y Bont’: “Does gen i ddim cof fod unrhyw beth fel hyn wedi digwydd yn y Gymraeg o’r blaen. Un perfformiad proffesiynol yn unig o ddrama fawr, newydd (er nad drama yn ystyr arferol y gair ’mo hon) i gofnodi pennod allweddol yn ein hanes; y cwmni theatr cenedlaethol yn cydweithio gyda myfyrwyr tair prifysgol; a digwyddiad dramatig yn plethu theatr, ffilm, teledu a’r cyfryngau digidol.

“Mae’r paratoadau hyd yma wedi bod yn gyffrous tu hwnt, ac mae wedi bod yn fraint aruthrol sgwrsio a thrafod gyda’r rheini oedd yno reit ar y cychwyn, pan fynnodd criw penderfynol o bobl ifanc - yn ddiarwybod iddyn nhw ar y pryd - gychwyn traddodiad sydd wedi para 50 mlynedd, o sefyll dros ein hawliau a thorri’r gyfraith pan yn teimlo fod y llwybr cyfansoddiadol neu ddemocrataidd yn rhwystr rhag cyrraedd y nod o sicrhau dyfodol i’n hiaith”.

Am fwy o fanylion am Y Bont ewch i www.theatr.com neu dilynwch Theatr Genedlaethol Cymru ar twitter @TheatrGenCymru #Ybont.
Theatr Genedlaethol Cymru  
web site
: www.theatr.com

e-mail:
Friday, December 14, 2012back

 

 

Older news stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999

 

Privacy Policy | Contact Us | ©2013 keith morris / red snapper web designs / keith@artx.co.uk