Bydd y tymor yn dechrau mewn steil gyda hwyl a sbri erotig House of Burlesque, Shipwrecked o ddydd Gwener 25 i ddydd Sadwrn 26 Ionawr. Mae creawdwyr Circus Burlesque, a oedd yn llwyddiant ysgubol, wedi mentro ar antur fawreddog arall sy'n cynnwys coreograffi trawiadol, cabaret, comedi, caneuon bythgofiadwy a'r syrcas, dan arweiniad y berfformwraig Burlesque ryngwladol, Miss Tempest Rose. Yn addas i oedolion yn unig. Mewn perfformiad gwaedlyd a syfrdanol, mae The Circus of Horrors yn ôl o ddydd Iau 31 Ionawr i ddydd Sadwrn 2 Chwefror. Mae'r sioe newydd hon, a ruodd i mewn i rownd derfynol Britain’s Got Talent, yn cipio'r gynulleidfa ar daith gyffrous i'r 1920au ym Merlin. Mae'r cwmni poblogaidd hwn yn ôl yng Nghaerdydd gyda'r Devil Doll yn perfformio campau Syrcas anghredadwy o bedwar ban byd! Ddim yn addas i blant. Bydd Gwen Taylor (Duty Free, Inspector Morse) a Don Warrington (Rising Damp, Holby City, Strictly Come Dancing) yn perfformio yng nghynhyrchiad llwyddiannus y West End a Broadway, Driving Miss Daisy, o ddydd Mawrth 5 i ddydd Sadwrn 9 Chwefror. Enillodd y ddrama hyfryd hon wobr Whatsonstage.com am yr Adfywiad Drama Gorau yn 2012, ac mae'n denu torfeydd i adrodd stori deimladol a symbylol am gyfeillgarwch hirhoedlog sy'n blodeuo rhwng hen fenyw ddeheuol, bigog a'i chauffeur caredig. Stori glasurol Roald Dahl, James and the Giant Peach, yw'r cyntaf o blith nifer o sioeau gwych i blant y tymor hwn. Bydd y sioe yn rhedeg rhwng dydd Mawrth 12 a dydd Sadwrn 16 Chwefror gan adrodd stori hudol James, ei fodrybedd echrydus, hen wr dirgel a choeden o eirin gwlanog. Dyma antur i'r teulu cyfan yn ystod hanner tymor. 4+ oed. Rhwng dydd Mawrth 19 a dydd Sadwrn 23 Chwefror daw stori gariad Sebastian Faulks yn fyw ar y llwyfan yn yr addasiad newydd hwn o'i nofel lwyddiannus Birdsong. Dyma stori arwrol am gariad a rhyfel yn ystod y Rhyfel Mawr, a dyma fydd y tro cyntaf iddi gael ei pherfformio. Mae sioe Willy Russell. Blood Brothers, yn ôl i gyffroi cynulleidfaoedd Caerdydd rhwng dydd Llun 25 Chwefror a dydd Sadwrn 2 Mawrth. Mae'n stori afaelgar am efeilliaid sydd wedi'u gwahanu gan ddilyn bywydau gwahanol iawn. Mae wedi ennill gwobrau di-rif ac mae'n codi'r dorf i'w traed ym mhob perfformiad. Ymysg y caneuon cofiadwy mae Bright New Day, Marilyn Monroe a Tell Me It’s not True. Maen nhw’n ôl! Mae Pauline Quirke, Linda Robson a Lesley Joseph yn ôl yn y Theatr Newydd gyda Birds of a Feather rhwng dydd Mawrth 5 a dydd Sadwrn 9 Mawrth. Ar ôl gwerthu pob tocyn y tro diwethaf, mae'r sioe gomedi boblogaidd hon yn ôl ar y llwyfan am sioe ddigrif gyda Sharon, Tracy ac, wrth gwrs, Dorien! Clwyd Theatr Cymru yn cyflwyno Rape of the Fair Country o ddydd Mawrth 12 i ddydd Sadwrn 16 Mawrth. Dyma ddrama deimladol sy'n ymdrin â rôl y teulu yng Nghymru ym 1826. Mae'r teulu Mortymer wedi'u dal mewn dadl ffyrnig rhwng eu cyflogwyr o Loegr a symudiad cynnar yr undeb fasnach. Bydd sioe gerdd newydd sy'n seiliedig ar gerddoriaeth a bywyd Ike a Tina Turner, Soul Sister, yn cael ei pherfformio rhwng dydd Llun 18 a dydd Sadwrn 23 Mawrth. Yn syth o'r West End, mae'r stori hon yn dilyn hynt a helynt eu gyrfaoedd a'u priodas. Mae'n cynnwys y caneuon Simply the Best, Private Dancer, What’s Love Got to Do With It a llawer mwy. Dyma addasiad llawn hwyl o lyfr plant llwyddiannus We’re Going on a Bear Hunt. Daw'r stori'n fyw ar y llwyfan dros y Pasg rhwng dydd Iau 28 a dydd Sadwrn 30 Mawrth. Bydd y caneuon bendigedig, y rhyngweithio a'r annisgwyl yn cyffroi’r cynulleidfaoedd. 3+ oed. Mae Toyah Willcox yn ôl gyda'r Hormonal Housewives rhwng dydd Iau 4 a dydd Gwener 5 Ebrill. Ar ôl eu hymweliad llwyddiannus diwethaf â Chaerdydd, mae'r merched yn ôl gyda sgetshis doniol newydd am fod yn ferch yn yr 21ain ganrif. 16+ oed. Yn syth o'r West End, dyma gomedi dywyll gan awdur Father Ted, The Ladykillers, rhwng dydd Mawrth 9 a dydd Sadwrn 13 Ebrill. Gydag adolygiadau clodwiw, daw clasur Ealing yn fyw mewn cynhyrchiad cyffrous newydd gyda Michele Dotrice, Clive Mantle a Cliff Parisi. Mae Mrs Wilberforce fach yn sefyll ei thir yn erbyn criw o droseddwyr pan gaiff ei dal yng nghanol eu drwgweithredoedd. Mae'r Agatha Christie Theatre Company yn ôl gydag addasiad cyffrous arall o Queen of Crime o ddydd Mawrth 16 i ddydd Sadwrn 20 Ebrill. Mae Go Back for Murder yn llawn dirgelwch. Dysga Carla Le Marchant gyfrinach annymunol am ei theulu, a dyma hi'n gwneud ei gorau glas i glirio enw ei mam. Mae Northern Ballet yn cyflwyno addasiad trawiadol o stori afaelgar F Scott Fitzgerald, The Great Gatsby, rhwng dydd Mawrth 23 a dydd Sadwrn 27 Ebrill. Yng nghanol steil a moethusrwydd Efrog Newydd yn y 1920au, mae'r sioe fale newydd hon yn adrodd stori'r miliwnydd dirgel Jay Gatsby, a'i gymeriad cudd. Mae profiad byw brawychus The Woman in Black yn rhedeg rhwng dydd Llun 29 Ebrill a dydd Sadwrn 4 Mai. Mae'r sioe, sydd wedi cael ei chanmol i'r cymylau, yn cludo cynulleidfaoedd i fyd ysbrydol lle mae'r ffiniau rhwng y gwirionedd a'r dychmygol yn aneglur pan fo cyfreithiwr yn cysylltu ag actor ifanc i'w helpu i adrodd ei stori ddychrynllyd. Mae gwahoddiad i bawb i Barti Pen-blwydd Smot rhwng dydd Iau 2 a dydd Sadwrn 4 Mai! Mae'r ci bach enwog yn dathlu gyda'i ffrindiau Mici'r Mwnci, Helen y Hippo a Tom y Crocodeil, yn ogystal â mam a dad Smot, Sally a Sam, a'i westai arbennig Marco'r Consiriwr-gwningen. Dyma sioe liwgar i'r plantos gyda chaneuon, gemau a hud a lledrith. 2+ oed. Mae'r tîm sy'n gyfrifol am Dreamboats and Petticoats yn dod a Save the Last Dance for Me i'r Theatr Newydd o ddydd Mawrth 7 i ddydd Sadwrn 11 Mai. Y tro hwn bydd y gynulleidfa'n teithio'n ôl i'r chwedegau cynnar mewn chwinciad mewn sioe i gynhesu'r galon. Mae'n cynnwys y caneuon poblogaidd Sweets for my Sweet, Viva Las Vegas, Suspicion, A Teenager in Love a Save the Last Dance for Me. Cyflwynir addasiad o stori dditectif ganoloesol enwog Ellis Peters, Cadfael: The Virgin in the Ice am y tro cyntaf gan Middleground Theatre o ddydd Mawrth 14 i ddydd Sadwrn 18 Mai. Fe'i gwnaed yn enwog gan Derek Jacobi yn y gyfres deledu boblogaidd, a nawr mae Brother Cadfael ar antur beryglus i ddod o hyd i'r ffoaduriaid coll - bachgen bach a'i chwaer brydferth, a lleian ifanc. Nid yw'r perfformwyr wedi'u henwi eto. Mae Everybody Needs Somebody to Love, Think a Gimme Some Lovin’ ymysg y caneuon arbennig yn The Blues Brothers rhwng dydd Mawrth 21 a dydd Sadwrn 25 Mai. Mae Orbit Theatre Caerdydd yn cyflwyno Beauty and the Beast gan Disney, rhwng dydd Mercher 29 Mai a dydd Sul 2 Mehefin. Mae'r sioe hudolus hon yn cynnwys comedi, rhamant, caneuon hyfryd a dawnsfeydd ysblennydd... y cyfuniad perffaith yn ystod hanner tymor. Ar ôl tymor llwyddiannus yn y West End, mae Linsday Posner wedi ail-greu un o ddramâu mwyaf poblogaidd y DU. Mae Abigail’s Party gan Mike Leigh yma o ddydd Mawrth 4 i ddydd Sadwrn 8 Mehefin. Mae Beverly a'i gwr Laurence wedi gwahodd y cymdogion newydd draw... paratowch am gyflafan gymdeithasol. Mae digrifwch, drama a thrasiedi yn y sioe gomedi glasurol hon. Bydd ffans Dora wrth eu boddau gyda Dora the Explorer LIVE!, sydd yma rhwng dydd Gwener 14 a dydd Sul 16 Mehefin. Yn Search for the City of Lost Toys, mae Dora wedi colli ei thedi, Osito, ac ar antur i ddod o hyd iddo! Gyda chymorth y gynulleidfa, Map, Bag, Sgidiau Cerdded a Diego, mae Dora'n defnyddio ei sgiliau amrywiol i gyrraedd pen y daith. 2+ oed. Mae ditectif gorau'r byd yn ôl i ddatrys dirgelwch arall rhwng dydd Mawrth 18 a dydd Sadwrn 22 Mehefin, yn Sherlock Holmes: The Best Kept Secret. Gan ymweld â Chaerdydd cyn y West End, mae'r cynhyrchiad hwn yn cynnwys dirgelwch newydd i'n harwr ei ddatrys. Mae ser Strictly…, Vincent Simone a Flavia Cacace, yn serennu ym Midnight Tango, sydd wedi'i henwebu am Wobr Olivier, rhwng dydd Llun 24 a dydd Sadwrn 29 Mehefin. Ar ôl cyffroi cynulleidfaoedd mewn saith cyfres o sioe'r BBC, maent yn dod a'u coreograffi a'u dawnsfeydd tanllyd i'r llwyfan mewn sioe drawiadol sy'n tywys y dorf ar daith i ganol Buenos Aires. Mae ffefryn y plant, Grandpa in My Pocket, yn dod a chymeriadau hoffus yn fyw rhwng dydd Iau 4 a dydd Sul 7 Gorffennaf. Mae Jason a Jemima yn mynd ar antur ar y môr i edrych am drysorau gyda Sunnysands y Môr-leidr a Horatio Heave Ho. Pan aiff pethau o le, yr hen wr sy'n achub y dydd! 4+ oed. Mae sioe lwyddiannus Richard O’Brien, The Rocky Horror Show, yn ôl yng Nghaerdydd am wythnos arall o hwyl a sbri rhwng dydd Llun 8 a dydd Sadwrn 13 Gorffennaf. Bydd Rhydian, sy'n chwarae rhan Rocky, ac Oliver Thornton, sy'n chwarae rhan Frank N Furter, yn canu'r clasuron, gan gynnwys Sweet Transvestite, Damn It Janet ac wrth gwrs Time Warp yn y cynhyrchiad hwn ar 40 mlwyddiant y sioe. Ddim yn addas i blant. Y tymor hwn, caiff Driving Miss Daisy (dydd Sadwrn 9 Chwefror 2.30pm), Beauty and the Beast (dydd Sadwrn 1 Mehefin 2.00pm), The Rocky Horror Show (dydd Gwener 12 Gorffennaf 5.30pm) eu perfformio yn Iaith Arwyddion Prydain. Caiff James and the Giant Peach (dydd Sadwrn 16 Chwefror 2.00pm), Blood Brothers (dydd Sadwrn 2 Mawrth 2.30pm), Rape of the Fair Country (dydd Sadwrn 16 Mawrth 2.30pm), The Great Gatsby (dydd Sadwrn 27 Ebrill 2.30pm), The Woman in Black (dydd Sadwrn 4 Mai 2.30pm) eu perfformio gyda Disgrifiadau Llafar. Mae tocynnau ar gyfer yr holl sioeau hyn ar werth nawr yn Swyddfa Docynnau'r Theatr Newydd yng Nghaerdydd (029) 2087 8889 neu ar lein yn www.newtheatrecardiff.co.uk (Codir ffi ychwanegol o 50c ar bob tocyn fel Cyfraniad at Wella’r Seddi, a chodir ffi drafod fechan). |
| New Theatre Cardiff web site: www.newtheatrecardiff.co.uk |
| e-mail: |
| Friday, January 11, 2013 |
Older news
stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999
