Theatre in Wales

The latest theatre, dance and performance news

Blood Brothers yn y Theatr Newydd, Caerdydd     

Blood Brothers yn y Theatr Newydd, Caerdydd Tocynnau’n gwerthu’n gyflym ar gyfer sioe ryfeddol Blood Brothers!


Mae sioe Willy Russell, Blood Brothers, yn dychwelyd unwaith eto i gyffroi cynulleidfaoedd Caerdydd rhwng dydd Llun 25 Chwefror a dydd Sadwrn 2 Mawrth ac mae’r tocynnau'n gwerthu’n gyflym.

Gyda Maureen Nolan yn chwarae rhan Mrs Johnstone, mae Blood Brothers yn adrodd y stori gyfareddol ac emosiynol am efeilliaid a wahanwyd ar enedigaeth, dim ond i gael eu haduno gan ffawd a chyfrinach gythryblus y fam. Ymysg caneuon cofiadwy’r sioe mae Bright New Day, Marilyn Monroe a Tell Me It’s Not True.

Ar ôl cael llwyddiant ysgubol yn fyd-eang, mae’r stori boblogaidd hon am fywyd yn Lerpwl wedi ennill pedair gwobr am y Sioe Gerdd Orau yn Llundain ac wedi cael saith enwebiad yng Ngwobrau Tony ar Broadway. Mae Blood Brothers wedi bod yn y West End yn Llundain am 24 mlynedd ac mae wedi bod yn teithio o amgylch y DU ers 1995.

Yn arwain y cast penigamp mae Maureen Nolan, sydd wedi bod yn canu gyda’i chwiorydd The Nolans ers iddi fod yn naw mlwydd oed. Mae The Nolans, un o fandiau merched cyntaf Prydain, wedi cael wyth record yn siartiau'r DU gan gefnogi Frank Sinatra ar ei daith Ewropeaidd ym 1975. Yn fwyaf diweddar bu Maureen yn chwarae rhan Viv, gwraig y ficer, yn Footloose. Mae hi hefyd wedi ymddangos yn Stardust, Girls Behind a 15 o bantomeimiau.

Mae Willy Russell yn un o ddramodwyr mwyaf blaenllaw Prydain. Mae ei waith di-rif yn cynnwys Educating Rita a Shirley Valentine, a gafodd eu gwneud yn ffilmiau llwyddiannus.

Mae Blood Brothers yn y Theatr Newydd o ddydd Llun 25 Chwefror i ddydd Sadwrn 2 Mawrth. Mae tocynnau bellach ar werth gyda phrisiau'n amrywio o £9.00 i £33.50 – ond nodwch mai dim ond hyn a hyn o docynnau sydd ar gael. I gael rhagor o fanylion am y sioe neu i archebu tocynnau* ewch i www.newtheatrecardiff.co.uk neu ffoniwch y Swyddfa Docynnau ar (029) 2087 8889.

Codir 50c ar bob tocyn fel Cyfraniad Gwella Seddi ac mae ffi drafod fechan ychwanegol wrth brynu ar-lein.

Blood Brothers
Y Theatr Newydd, Caerdydd
Dydd Llun 25 Chwefror tan ddydd Sadwrn 2 Mawrth.
Perfformiadau nos 7.30pm; Perfformiadau prynhawn Iau a Sadwrn 2.30pm
Tocynnau: £9.00 - £33.50
Swyddfa Docynnau: 029 2087 8889
Archebu Ar-lein: www.newtheatrecardiff.co.uk
Y Theatr Newydd, Caerdydd  
web site
: www.newtheatrecardiff.co.uk

e-mail:
Monday, February 4, 2013back

 

 

Older news stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999

 

Privacy Policy | Contact Us | ©2013 keith morris / red snapper web designs / keith@artx.co.uk