Bydd dros 130 o ddawnswyr ifanc yn heidio i Theatr Brycheiniog yn Aberhonddu ar ddydd Sul 17 Chwefror i gymryd rhan yn U.Dance Cymru – digwyddiad fydd yn rhoi llwyfan i’r goreuon o blith dawnswyr ifanc Cymru. Mae grwpiau dawns ieuenctid o Bowys i Lanelli wrthi’n brysur yn creu ac yn ymarfer eu darnau ar gyfer digwyddiad sy’n argoeli i fod yn ddathliad dynamig o bobl ifanc yn dawnsio! Rhyngddynt, bydd y deuddeg grŵp sy’n cymryd rhan yn mynd i’r afael ag amrywiaeth o ddulliau dawns gwahanol – creadigol, stryd, theatr dawns, cyfoes – gan gynnig rhywbeth at ddant pawb. Maent yn cynnwys rhai dawnswyr cymharol newydd i’r byd perfformio ac eraill sydd ar fin cychwyn hyfforddi i ddawnsio’n broffesiynol. Byddant oll yn cynrychioli sawl rhanbarth gwahanol yn Ne Cymru. U.Dance Cymru yw’r ail ddigwyddiad o’i fath yng Nghymru ac mae’n adeiladu ar lwyddiant U.Dance Cymru yn 2012 a ddenodd 200 o gyfranogwyr ledled y wlad. Ymhlith y grwpiau sy’n cymryd rhan yn 2013 mae: Academi Coleg Sir Gâr a Chwmni Masnachol Coleg Sir Gar (Sir Gaerfyrddin), Dawns Ieuenctid Pen-y-bont ar Ogwr, Cwmni Dawns Ieuenctid Sir Fynwy, Awen Academy (Caerffili), Insync Inclusive Youth Dance, Connections Youth Dance ac Expressions Associates (Rhondda Cynon Taf), CDC o Brifysgol Fetropolitan Caerdydd, Rubicon Dance (Caerdydd) a Chwmni Dawns Ieuenctid Powys. Hefyd bydd Dawns Genedlaethol Ieuenctid Cymru (DGIC) yn perfformio darn allan o Closer a goreograffwyd gan y dawnswyr gyda Chyfarwyddwr Artistig DGIC, Errol White, a gafodd ei berfformio am y tro cyntaf i gynulleidfaoedd brwdfrydig yn Sherman Cymru yn ystod yr haf y llynedd. Yn ystod y dydd, cyn y perfformiad gyda’r nos, caiff y grwpiau’r cyfle i weld gwaith ei gilydd. ‘Mae’n arfer cynyddol i annog dawnswyr ifanc i weld dawnswyr ifanc eraill yn dawnsio. Mae’n dangos eu bod yn rhan o gymuned ddawns ieuenctid Cymru-gyfan sy’n fywiog ac yn ffynnu. Mae U.Dance Cymru yn mynd gam ymhellach gan ei fod hefyd yn sicrhau eu bod yn dod i gysylltiad â dawnswyr ifanc o Loegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon trwy gyfrwng Gŵyl U.Dance 2013, sy’n digwydd yn Leeds yn yr haf”, dywedodd Suzanne Robinson, Cydlynydd Datblygu Dawns Genedlaethol Ieuenctid Cymru (DGIC). Bwriedir cynnal llwyfan U.Dance Cymru yng Ngogledd Cymru ar ddydd Sul, 24 Mawrth 2013. U.Dance Cymru
 Theatr Brycheiniog Dydd Sul 17 Chwefror 2013 am 8.00pm 

£7, £5 (consesiynau)
Cynnig Grŵp: prynwch 10 tocyn a chewch 1 yn RHAD AC AM DDIM
Swyddfa Docynnau: 01874 611 622
 |
| Theatr Brycheiniog web site: www.brycheiniog.co.uk |
| e-mail: |
| Monday, February 4, 2013 |
Older news
stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999

Bydd dros 130 o ddawnswyr ifanc yn heidio i Theatr Brycheiniog yn Aberhonddu ar ddydd Sul 17 Chwefror i gymryd rhan yn U.Dance Cymru – digwyddiad fydd yn rhoi llwyfan i’r goreuon o blith dawnswyr ifanc Cymru.