Cyfle i flasu dwy ddrama gyffrous Cymraeg gan ddau gwmni blaenllaw Cymru wrth i’r Ffwrnes ddechrau ar ei ymrwymiad i raglen bellgyrhaeddol o gynyrchiadau theatr yn yr iaith Gymraeg.Cyfnodau cythryblus cyndyn - canrifoedd ar wahân. Serch y blynyddoedd rhyngddynt, ysbryd dynol, egwyddorion a chredoau cryfion sydd yn goresgyn, wrth i un fenyw o Sir Gâr ymladd dros ei hawliau yn y pumdegau, tra bo’ perchnogion cwmni llongau llewyrchus o Fôn yn brwydro yn erbyn colledion dynol yn ystod oes Fictoria. Gwrthdaro, brwydr ac awydd i newid y byd er gwell... Dwy Ddrama. Un Gwŷl Fer. Theatr Genedlaethol Cymru yn cyflwyno “DYLED EILEEN”, Mawrth 4ydd a 5ed 2013 Llosgi'r Ysgol Fomio ym Mhen Llŷn gododd ymwybyddiaeth Eileen Beasley o'i Chymreictod gyntaf. Merch ysgol bymtheng mlwydd oedd hi ar y pryd, ac yn methu credu'r atgasedd tuag at y Tri ym Mhenyberth. Doedd dim llawer o drafod gwleidyddiaeth gartref ar y fferm, ond fe welodd bryd hynny'r anghyfiawnder roedd Cymru a'r Gymraeg yn ei ddioddef dan law'r Awdurdodau. Mae Dyled Eileen yn olrhain hanes safiad Eileen a Trefor Beasley yn erbyn biliau trethi Saesneg a'r frwydr hir a berwyd iddynt golli eu heiddo bron iawn i gyd i'r beilïaid wrth iddynt glirio'r parlwr ddarn wrth ddarn. Mae portread Angharad Tomos yn dod â chyfnod cythryblus y 50au yn fyw - cyn darlith radio enwog Saunders Lewis - ac yn ein tywys i gofio aberth y cwpwl ifanc a'u brwydr ddi-ildio am degwch i'r Gymraeg. Cast: Rhian Morgan fel Eileen Beasley Cyfarwyddwr: Elen Bowman Theatr Bara Caws yn cyflwyno “HWYLIAU’N CODI”, Mawrth 15fed 2013 Yn ôl a ni mewn amser i Gyfnod Teyrnasiad yr hen Frenhines Victoria, ac ymunwch â John, Robert, Richard Davies (a’i wraig Ann) - perchnogion cwmni llongau llewyrchus o Fôn - ynghyd â llu o gymeriadau isel ac amheus eraill! Roedd y cwmni’n gyfrifol am gludo cannoedd o Gymry, glo a nwyddau o bob math o Lerpwl a Llundain i bedwar ban byd, ac yn dychwelyd gyda sawl cargo - yn fwy penodol, y giwano drewllyd o ynysoedd anghysbell arfordir Gorllewin De America. Ond ‘roedd ochr arall i’r geiniog. Roedd y colledion ym mysg y llongau’n uchel, sawl un ohonynt yn diflannu am byth a nifer o’r morwyr yn cael eu sgubo oddi ar y dec neu’n syrthio o’r rigin mewn tywydd enbyd. Cyfle i ail-fyw un o gynyrchiadau cyntaf erioed gan gwmni Theatr Bara Caws! Cast: Gwion Aled, Rhian Blythe, Mirain Haf, Carwyn Llyr, Rhodri Siôn Cyfarwyddwr: Betsan Llwyd Ffwrnes - 4ydd, 5ed & 15fed o Fawrth 2013. Y Ffwrnes, Stryd y Parc, Llanelli www.theatrausirgar.co.uk | 08450 226 3510 |
| Ffwrnes, Park Street, Llanelli web site: www.theatrausirgar.co.uk |
| e-mail: |
| Tuesday, February 5, 2013 |
Older news
stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999

Cyfle i flasu dwy ddrama gyffrous Cymraeg gan ddau gwmni blaenllaw Cymru wrth i’r Ffwrnes ddechrau ar ei ymrwymiad i raglen bellgyrhaeddol o gynyrchiadau theatr yn yr iaith Gymraeg.