|
Mae Crashmat Collective ar daith gyda'r profiad syrcas a bwyta cyntaf yng Nghymru |
Bydd y cwmni syrcas Crashmat Collective o Gaerdydd yn cychwyn ar ei daith genedlaethol gyntaf gyda’i sioe gyntaf, Façade. Ar ôl agor yng Nghanolfan Glan yr Afon yng Nghasnewydd ar 21 Chwefror 2013, bydd y sioe yn mynd ar daith ledled Cymru ym mis Mawrth, gan ymweld â lleoliadau yng Nghymru a Llundain. Mae Façade yn brofiad syrcas a bwyta newydd ac unigryw a grëwyd gan y cwmni o saith perfformiwr syrcas hynod fedrus. Y cast sy’n gweini ac sy’n diddanu yn ystod y noson. Wrth fwynhau pryd o fwyd tri chwrs, bydd y gynulleidfa yn cael ei thynnu i fyd dychmygol y gweinyddion wrth i’w breuddwydion syrcas dod yn fyw ar lwyfan. Cwmni syrcas newydd o Gaerdydd yw Crashmat Collective sy’n cael ei arwain gan Paul Evans ac Anna Sandreuter. Mae gan y ddau hanes hir o weithio gyda’r cwmni syrcas NoFit State sy’n enwog yn rhyngwladol. Gyda chefnogaeth prosiect Deori Canolfan Mileniwm Cymru, mae’r cwmni wedi cael cyfle i droi’r syniad mawr yma’n sioe go iawn, dros y ddwy flynedd ddiwethaf. Dyma’r hyn oedd gan John McGrath, sef cyfarwyddwr artistig National Theatre Wales, i’w ddweud am y sioe: ‘Façade is witty, engaging and imaginative’. Ymunodd y dramodydd llwyddiannus Alan Harris â’r tîm i greu sgript dyner a doniol sy’n mynd â’r gynulleidfa i mewn i bennau’r cymeriadau. Mae Buddug James Jones, sy’n dod o Orllewin Cymru yn wreiddiol, hefyd yn ymuno a’r tîm i greu set a gwisgoedd trawsnewidiol. Bydd Façade yn ymweld â (enw theatr yma) ar (dyddiad yma) fel rhan o’i thaith. Gallwch archebu tocynnau ar (wefan) neu dros y ffôn ar (rhif swyddfa tocynnau yma). Am ragor o wybodaeth am Façade, ewch i www.crashmatcollective.com neu cysylltwch â’r cwmni trwy Twitter @crashmatcollect #facade. Cyfyngiad oed 16+ Dyddiau’r Daith Glan yr Afon, Casnewydd 21-23 Chwefror http://www.newport.gov.uk/theRiverfront 01633 656757 Theatr Brycheiniog, Aberhonddu 1-2 Mawrth http://www.brycheiniog.co.uk/ 01874 611622 Canolfan Celfyddydau Cymru, Aberystwyth 14-15 Mawrth http://www.aberystwythartscentre.co.uk/ 01970 62 32 32 Jacksons Lane, Llundain 21-22 Mawrth http://www.jacksonslane.org.uk/ 020 8341 4421 Canolfan Mileniwm Cymru, Caerdydd 29-30 Mawrth http://www.wmc.org.uk 02920 63 64 64 |
| Crashmat Collective web site: www.crashmatcollective.com |
| e-mail: |
| Thursday, February 7, 2013 |
Older news
stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999
