|
Mae amrywiaeth dethol o sioeau yn addo tymor newydd, llawn hwyl yn Stiwdio Weston yng Nghanolfan Mileniwm Cymru y gwanwyn hwn. Bydd sioeau i deuluoedd, perfformiadau theatr syrcas a chomedi byrfyfyr yn sicrhau bod pawb yn chwerthin ac yn cael eu difyrru. Ymysg uchafbwyntiau'r tymor mae: Stori: A Retelling [22 Mawrth]. Y tymor hwn bydd amrywiaeth o ffurfiau celfyddydol yn Stiwdio Weston gyda Chanolfan Mileniwm Cymru yn archwilio celfyddyd Adrodd Stori. Dros yr ychydig fisoedd diwethaf mae mwy na 100 o gyfranogwyr wedi bod yn rhannu straeon mewn ymgais i ddatguddio trysor o stori. Mae'r perfformiad rhyng-genhedlaeth hwn yn archwilio sut y mae'r straeon oesol yn berthnasol i'r gymdeithas sydd ohoni a pha un a yw straeon gwerin a thylwyth teg traddodiadol yn mynd yn angof. Gallwch weld perfformiadau gan grŵp drama'r Ganolfan ei hun sef Off Centre, Grŵp Drama Grassroots a dau ddosbarth Blwyddyn 4 o Ysgol Gynradd Sili. Mae'r sioe hon yn rhan o berfformiadau Stiwdio Weston ar gyfer teuluoedd, sydd hefyd yn cynnwys: - Stuck [9 Mawrth]. Sioe berffaith i anturwyr ifanc sy'n dechrau pan fydd barcud Floyd yn mynd yn sownd mewn coeden. Stori newydd sbon gan Oliver Jeffers gyda cherddoriaeth wreiddiol a digon o gyfle i'r gynulleidfa gymryd rhan.We Need Bees [9 April] / Gwobr y Gwenyn Gweithgar [10 April]. - We Need Bees [9 Ebrill] / Gwobr y Gwenyn Gweithgar [10 Ebrill]. Mae Bertie'r Wenynen am fod allan yn peillio blodau gwyllt yn hytrach na hen afalau diflas. Drwy ei ymdrech i fynd ar drywydd blodau gwyllt gwelwn Bertie yn mynd i drwbl ac yn rhoi pobl eraill mewn perygl hefyd. Daw Theatr na nÓg â'r sgôr hynod ddychmygus hon yn fyw gyda pherfformiadau Cymraeg a Saesneg. Façade [29 a 30 Mawrth]. Mewn profiad theatr syrcas hollol unigryw, daw'r perfformwyr a'r gynulleidfa yn rhan o'r sioe. Mwynhewch bryd bwyd tri chwrs tra'n cael eich hudo ar daith i fyd y gweinyddion lle bo unrhyw beth yn bosibl a lle caiff y cyfrinachau mwyaf dirgel eu datgelu. Caiff Façade, mewn cydweithrediad â Chanolfan Mileniwm Cymru, ei chynhyrchu gan gwmni syrcas Crashmat Collective, sydd wedi'i leoli yng Nghaerdydd, sy'n aelod o gynllun Deori y llynedd. Mae Incubator Sharing [14 Mawrth] yn llwyfan i artistiaid a chwmnïau ddatblygu gwaith newydd mewn partneriaeth â Chanolfan Mileniwm Cymru. Mae'n parhau eleni gyda rhaglen o waith newydd. The Trench [5 a 6 Mawrth]. Mae'r cwmni Les Enfants Terribles yn dychwelyd i Stiwdio Weston gyda'i sioe boblogaidd o Ŵyl Ymylol Caeredin. Stori am daith arwrol glöwr ydyw, wrth iddo frwydro am iachawdwriaeth a challineb. Mae'r ffiniau rhwng realiti a ffantasi yn gymylog yn y perfformiad corfforol hwn sy'n cydweddu cerddoriaeth fyw a sioe bypedau. Cynhyrchir y sioe hon mewn cydweithrediad â Chanolfan Mileniwm Cymru a Luton Hat Factory. NiNE [8 Mawrth]. Mae Mr a Mrs Clark, sy'n berfformwyr rheolaidd, ac a oedd yn rhan o raglen y tymor diwethaf yn y Medicine Show, yn dychwelyd eleni gyda therapi Ffilm Noir ar gyfer pâr priod sy'n wynebu trafferthion. Gan ddod â cherddoriaeth jazz ac arddull y 50au yn fyw, bydd y gynulleidfa wrth ei bodd â'r perfformiad hwn. The Noise Next Door: Boys on Tour [7 Mawrth]. Mae'r grŵp comedi byrfyfyr hwn yn creu argraff ar gynulleidfaoedd gyda'i hiwmor byrfyfyr, ei ffraethineb cyflym a'i ddoniau hollol wreiddiol ym maes comedi. Mae'n sioe sydd â chymysgedd perffaith o gymeriadau gwirion, ymadroddion ffraeth a gormodiaeth gerddorol. The Oh F**K Moment [3 a 4 Ebrill]. Sgwrs bord gron am yr adegau hynny rydych yn sylweddoli eich bod wedi gwneud rhywbeth o'i le, na ellir ei unioni. Mae'r sioe hon a enillodd wobr Fringe First yn dathlu'r holl adegau hynny lle'r aeth pethau o le ac yn gofyn beth y gellir ei ddysgu ohonynt. National Theatre Connections [24 - 26 Mawrth a 13 Ebrill]. Mae cwmnïau theatr ifanc o bob cwr o Brydain yn rhoi bywyd newydd i ddeg sioe newydd a gomisiynwyd gan y Theatr Genedlaethol i'w rhannu â chynulleidfa Theatr Weston. Dywedodd Louise Miles Crust, Rheolwr Rhaglennu Artistig: “Mae’r tîm rhaglennu’n gweithio’n galed i ddewis yr holl berfformiadau ar gyfer y tymor Stiwdio Weston. Rwy’n falch iawn bod y tymor yma’n cynnwys gwaith gan rai wynebau cyfarwydd fel Les Enfants Terribles, Mr a Mrs Clark, a Theatr na nÓg. Rydyn ni hefyd wedi creu perthnasau newydd gwych gyda rhai chwmnïau, ac yn eu plith mae The Kosh, Big Wooden Horse a’r cwmni dawns Jasmin Vardimon Company. Un o fy uchafbwyntiau yn y tymor yma yw The Trench, sef perfformiad grymus gyda cherddoriaeth fyw a phypedwaith a fydd yn siŵr o wneud i chi estyn am eich hances.” Mae tymor newydd y gwanwyn yn Stiwdio Weston yn rhedeg rhwng 5 Mawrth a 14 Ebrill 2013. I gael tocynnau a rhagor o wybodaeth, ewch i www.wmc.org.uk/WhatsOn/westonstudio/?lang=cy-GB. Cynnig i blant a'r rheini o dan 16 oed: Mae Theatr Weston yn cynnig tocynnau £6 ar gyfer pob sioe i blant a'r rheini o dan 16 oed. Nodwch fod cyfyngiadau oedran yn gymwys gyda rhai sioeau. |
| Wales Millennium Centre web site: www.wmc.org.uk/westonstudio |
| e-mail: |
| Wednesday, February 13, 2013 |
Older news
stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999
