Theatre in Wales

The latest theatre, dance and performance news

Canolfan Mileniwm Cymru yn rhoi llwyfan byd-eang i artistiaid Cymreig drwy ei gwasanaeth ffrydio byw     

Canolfan Mileniwm Cymru yn rhoi llwyfan byd-eang i artistiaid Cymreig drwy ei gwasanaeth ffrydio byw Mae Canolfan Mileniwm Cymru wedi lansio gwasanaeth ffrydio ar-lein newydd sy'n golygu y gall cynulleidfaoedd nawr wylio perfformiadau byw yn rheolaidd o glydwch eu cartrefi neu ar daith gyda'u ffonau deallus neu ddyfeisiau llechen. Mae Y Ganolfan: ar lwyfan, ar-lein yn galluogi gwylwyr o bob cwr o'r byd i wylio perfformiadau byw, am ddim, yn rheolaidd o Lwyfan Glanfa'r Ganolfan.
http://www.wmc.org.uk/connected

Mae ymwelwyr â Chanolfan Mileniwm Cymru wedi mwynhau perfformiadau am ddim o Lwyfan Glanfa ers i'r Ganolfan agor ei drysau gyntaf yn 2004, gyda hyd at 450 o berfformiadau'n cael eu cynnal bob blwyddyn yn yr ardal gyhoeddus hon. Bellach mae'r Ganolfan yn gobeithio cyflwyno'r celfyddydau i ragor o bobl drwy ei rhaglen ar-lein newydd. Bydd ymwelwyr nawr yn gallu gwylio'r perfformiadau hyn yn rheolaidd ac yn glir, yn fyw ar-lein. Cred Canolfan Mileniwm Cymru mai hi yw'r cyntaf yn y DU i ymrwymo i raglen ffrydio fyw reolaidd ac am ddim o'r maint hwn.

Nod Y Ganolfan: ar lwyfan, ar-lein yw lledaenu gweledigaeth sylfaenol Canolfan Mileniwm Cymru, sef 'dangos y gorau o Gymru i'r byd'. Bydd y llwyfan hwn yn gwneud hynny, gan ymestyn cyrhaeddiad perfformiadau gan artistiaid Cymreig sefydledig a newydd i gynulleidfa ehangach yn genedlaethol ac yn rhyngwladol.

Meddai Jonathan Harper, Cyfarwyddwr, Marchnata a Chyfathrebu yng Nghanolfan Mileniwm Cymru, "Rydym yn edrych ymlaen yn fawr at lansio Y Ganolfan: ar lwyfan, ar-lein fel ychwanegiad parhaol i ddarpariaeth ar-lein Canolfan Mileniwm Cymru. Mae'r artistiaid talentog sy'n perfformio ar ein llwyfan Glanfa yn rhan annatod o'n hardaloedd cyhoeddus. Drwy ffrydio eu gwaith yn fyw i unrhyw un, yn unrhyw le yn y byd, gallant gyrraedd amrywiaeth eang o gynulleidfaoedd newydd posibl."

Yn ogystal â'r gwasanaeth newydd hwn, bydd y Ganolfan yn trefnu cyfres o ffilmiau cipolwg parhaus a fydd yn rhoi rhagor o wybodaeth i gynulleidfaoedd am yr artist(iaid) sy'n ymddangos, o artistiaid newydd sy'n datblygu, artistiaid sefydledig i ffefrynnau rheolaidd. Caiff y ffilmiau byr eu harchifo a gellir eu gwylio ar-lein ar sianel YouTube y Ganolfan www.youtube.com/user/clipiau ac ar dudalen Y Ganolfan: ar lwyfan, ar-lein y wefan http://www.wmc.org.uk/connected

Bydd ymwelwyr â'r wefan yn gallu gweld dathliadau Dydd Gŵyl Dewi'r Ganolfan ar 1 Mawrth. Bydd rhaglen lawn o ddigwyddiadau a gynhelir dros dridiau yn cynnwys amrywiaeth o gantorion a cherddorion yn perfformio cerddoriaeth o sawl genre.

Dros y blynyddoedd diwethaf, mae Canolfan Mileniwm Cymru wedi treialu gwasanaethau tebyg sydd wedi bod yn llwyddiannus. Y llynedd cyrhaeddodd y Ganolfan ffrindiau a theuluoedd plant o Ganolbarth Cymru a oedd yn perfformio mewn prosiect Codi'r Llen gyda chwmni New Adventure Matthew Bourne. Roedd y prosiect yn cynnwys pobl ifanc o Ysgol John Beddoes yn Llanandras yn perfformio dawns wedi'i hysbrydoli gan The Nutcracker. Drwy'r ffrwd ar-lein, gallai teulu a ffrindiau o'r ysgol ym Mhowys wylio'r perfformiad arbennig yn fyw o lwyfan Theatr Donald Gordon. Bydd prosiect Codi'r Llen arall yn cael ei gynnal eleni ar 8 Mawrth, pan fydd Ysgol Uwchradd Hawthorn o Bontypridd yn camu i'r llwyfan am berfformiad wedi'i ysbrydoli gan stori Sleeping Beauty.

Ym mis Mehefin 2012, cafodd gweddarllediad byw o Mandela Trilogy gan Cape Town Opera ar lwyfan Donald Gordon ei ddarlledu ar S4C ac yn fyw ar alw. Gwyliwyd y cynhyrchiad ledled y byd.

Er mwyn gwylio perfformiadau byw ac o'r archif ar Lwyfan Glanfa, ewch i dudalen Y Ganolfan: ar lwyfan, ar-lein yn http://www.wmc.org.uk/connected
 
web site
: www.wmc.org.uk/connected

e-mail:
Friday, February 15, 2013back

 

 

Older news stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999

 

Privacy Policy | Contact Us | ©2013 keith morris / red snapper web designs / keith@artx.co.uk