|
Dathliadau 100 Mlynedd yn dechrau ar gyfer Theatr Parc a Dâr yn Nhreorci |
Mae Theatr Parc a Dâr yn Nhreorci yn dathlu ei chanmlwyddiant eleni. Y digwyddiad coffau cyntaf fydd Cân yr Adeilad gyda pherfformiadau cyhoeddus yn y theatr ar 13 a 14 Mawrth. Mae prosiect Cân yr Adeilad yn gywaith rhwng Gwasanaethau Cerdd Rhondda Cynon Taf a Theatrau/Gwasanaethau Diwylliannol Rhondda Cynon Taf ac mae'n ddathliad cerddorol a gafodd ei greu i adleisio'r rôl ddiwylliannol hollbwysig fu gan yr adeilad yn y gymuned a'r rhanbarth, gan edrych ymlaen at y dyfodol. Mae Jack White, y cyfansoddwr a ddewiswyd, wedi cael cyfle i greu gwaith graddfa fawr heb gyfyngiad ar naill ai nifer neu'r gymysgedd o offerynwyr a chantorion. Er bod y darn newydd o gerddoriaeth yn gyfoes, bydd yn adlewyrchu hanes cyfoethog yr adeilad a'r ardal ac yn ennyn diddordeb amrywiaeth o aelodau'r gymuned yn cynnwys ysgolion, myfyrwyr, myfyrwyr ysgol arbennig, offerynwyr a chantorion drwy gyfres o weithdai ac ymarferion agored i greu a pherfformio'r gwaith. Bydd y rhai sy'n cymryd rhan yn y prosiect yn recordio'r darn gorffenedig ar gyfer cynhyrchu'r CD yn barod i fod ar gael yn y perfformiadau byw ar 13 a 14 Mawrth. Dywedodd y cyfansoddwr Jack White "Mae'r prosiect yn gyfle gwych i mi weithio gyda grwpiau cerdd lleol i greu profiad i'w fwynhau gan bawb. Rwyf wedi bod yn recordio cyfweliadau gyda phobl leol a phlant ysgol. O blith y rhain rwyf wedi dewis samplau llafar i roi ymdeimlad o 'lais' i'r darn. Bydd y darnau hyn yn ffurfio rhannau electronig y darn a chânt eu clywed wrth ochr yr ensembles. Hoffwn i'r darn fod yn 'drochi' difyr ac aml-gyfrwng i orffennol, presennol a dyfodol yr adeilad eiconig yma." Ychwanegodd Geoff Cripps, Cyfarwyddwr Artistig Theatrau Rhondda Cynon Taf: "Mae angen ymateb diwylliannol cyffrous ar gyfer canmlwyddiant Theatr Parc a Dâr a bydd Cân yr Adeilad yn amlygu bodolaeth greadigol, cysylltedd a phwysigrwydd yr adeilad i ddefnyddwyr newydd a rheolaidd y theatr." Meddai Rachel Kilby, Pennaeth Gwasanaeth Cerdd Rhondda Cynon Taf: "Mae'r Gwasanaeth Cerdd yn falch iawn i weithio gyda Gwasanaethau Diwylliannol eto ar brosiect creadigol cyffrous a phroffesiynol. Gwelwn hwn fel gosodiad delfrydol i ddatblygu ein cerddorion ifanc, ennyn diddordeb ein hysgolion a rhoi gosodiad ar gyfer datblygiad proffesiynol ar gyfer athrawon dosbarth a thiwtoriaid cerdd, drwy'r cyfle i weithio gyda chyfansoddwr i greu a gwireddu gwaith newydd. Rydym yn ymwybodol fod cyfle o'r fath yn rhoi profiad bywyd go iawn i'r bobl ifanc sy'n cymryd rhan sydd ag effaith tymor hirach na'r perfformiadau terfynol a'r profiad recordio ar ben eu hunain." Ychwanegodd Tanya Walker Brown, Cydlynydd rhaglen Diwydiant Cerdd Ieuenctid SONIG: "Rydym wrth ein bodd i gymryd rhan yn y prosiect yma. Bydd yn rhoi cyfle i bobl ifanc y fwrdeistref i weithio gyda cherddorion proffesiynol, sy'n batrwm yn eu maes, i greu cân goffa yn dathlu gorffennol, presennol a dyfodol un o adeiladau eiconig Cymoedd De Cymru. Rydym eisiau annog pobl ifanc i ymwneud gyda'r adeilad drwy gân, gan ddysgu sgiliau newydd a datblygu eu gallu cerddorion drwy gyfansoddi, ysgrifennu cân a pherfformio". Mae Cân yr Adeilad yn bosibl oherwydd cyllid ychwanegol gan Gyngor Celfyddydau Cymru, PRSF ac Arts & Business Cymru gyda chefnogaeth Vattenfall. Hanes yr Adeilad Adeiladwyd Neuadd Parc a Dâr yn 1892 i gynllun y pensaer Jacob Rees, a dechreuodd yr adeilad ei fywyd fel llyfrgell a sefydliad gweithwyr. Ariannodd gweithwyr Glofeydd y Parc a Dâr yr adeilad drwy gyfrannu ceiniog o bob punt o'u cyflog. Roedd yn fan lle medrai glowyr gwrdd a chymdeithasu ac yn cynnwys bar a llyfrgell. Yn 1975 cyfrannwyd y theatr i Gyngor Bwrdeistref y Rhondda, a daeth yn ganolfan gymunedol ffyniannus i'r celfyddydau a ffilm a chroesawodd ddiddanwyr fel Max Boyce, Ken Dodd a Ray Davies o The Kinks dros y blynyddoedd. Bu hefyd yn fan ffilmio yn cynnwys golygfeydd llwyfan theatr yng nghyfres Doctor Who y BBC a daeth yn gartref i lawer o gwmnïau drama amatur a Chôr Meibion Treorci a Band y Parc a Dâr. Bydd dathliadau yn y Parc a Dâr yn parhau gyda phrosiectau celfyddydau a chyweithiau drwy gydol y flwyddyn yn cynnwys cân, dawns a theatr. www.rct-arts.co.uk |
| web site: www.rct-arts.co.uk |
| e-mail: |
| Monday, February 18, 2013 |
Older news
stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999
