Theatre in Wales

The latest theatre, dance and performance news

RS Thomas 2013: Blwyddyn o Ddigwyddiadau i Nodi Canmlwyddiant     

RS Thomas 2013: Blwyddyn o Ddigwyddiadau i Nodi Canmlwyddiant “Un o leisiau telynegol mwyaf digyfaddawd, pur a mwyaf parhaus ei ganrif”
The Guardian

I have looked long at this land,
Trying to understand
My place in it
RS Thomas

Gwylio adar Ynys-hir â llygad barcud, cipolygon ar lythyron sydd heb eu cyhoeddi, pregethau yn ei eglwysi, ac ymatebion newydd sbon i’w eiriau: mae 2013 yn nodi canmlwyddiant geni’r bardd Cymraeg dadleuol, gwrthwynebol ac eithriadol o dalentog RS Thomas, a enwebwyd ar gyfer Gwobr Nobel.

Lluniodd yr offeiriad gwydn hwn ei gerddi gan alw ar “wir Gymru” ei ddychymyg, gan herio rhamant gwledig y dosbarthiadau canol a chan edliw’n chwerw ddifaterwch y Cymry tuag at Seisnigo. Yn berson gwleidyddol di-flewyn-ar-dafod, cwerylodd â sawl un yn ystod ei fywyd, gan adeiladu catalog o farddoniaeth yn ymestyn dros drigain mlynedd sydd wedi ysbrydoli canmoliaeth feirniadol uchel, darllenwyr edmygol a ffigyrau gwerthiant a eiddigeddir yn fawr.

I ddathlu bywyd a gwaith un o awduron gorau’r ugeinfed ganrif, mae sefydliadau ac unigolion ar draws Cymru a thu hwnt yn trefnu cyfres o ddigwyddiadau, llyfrau newydd a phrosiectau arbennig. Gellir dod o hyd i’r wybodaeth ddiweddaraf ar www.rsthomas2013.org trwy gydol y flwyddyn.

Meddai PW Llenyddiaeth Cymru, Lleucu Siencyn:

“Nid yn unig un o leisiau mwyaf arwyddocaol ac unigryw llenyddiaeth Cymru, RS Thomas yw hoff fardd nifer o bobl gwahanol. Gan ddenu sylw rhyngwladol sylweddol o wledydd mor bell â Corea, Siapan ac UDA, y mae’n uno beirniaid a darllenwyr o amrywiaeth eang o gefndiroedd. Rydw i wrth fy modd i weld Cymru a’r byd ehangach yn nodi RS Thomas fel un o allforion gorau Cymru.”

Ymhlith y digwyddiadau y mae:

o 25 Mawrth, 2013 – Rhaglen ar S4C
Bydd yr Athro M. Wynn Thomas yn ymddangos ar Pethe i drafod RS Thomas ac i gyfweld Gwyneth Lewis.

o 29 Mawrth, 2013 – Darllediad BBC Radio 4
Caiff drama fydryddol RS Thomas’ The Minister ei darlledu ar Afternoon Theatre, rhwng 2.00 pm – 3.00 pm.

o 11 Ebrill, 2013 – Darlith, Agoriad Arddangosfa a Lansiad Llyfr ym Mangor
Darlith gan yr Athro M. Wynn Thomas ar ‘Yr Hen Fam’: RS. Thomas and the Church in Wales’ am 7.00 pm yn y Prif Ddarlithfa’r Celfyddydau, Prifysgol Bangor; wedi’i ddilyn gan agoriad ffurfiol arddangosfa deunyddiau o gasgliad archif Canolfan RS Thomas; a ddilynnir gan lansiad Uncollected Poems: by RS Thomas (Bloodaxe Books) gan y cyd-olygyddion Tony Brown a Jason Walford Davies. Trefnir gan Cymdeithas Ddysgedig Cymru.

o 18 Ebrill, 2013 – RS Thomas: Dathliad a Lansio Llyfr yn Abertawe
Noson o farddoniaeth, cerddoriaeth a thrafod yng Nghanolfan Dylan Thomas gan gynnwys perfformiadau gan y bardd Menna Elfyn, y cerddor a’r darlithydd Brian Breeze, yr Athro M. Wynn Thomas a’r Athro Tony Brown. Bydd y noson yn cynnwys lansiad R.S. Thomas: Serial Obsessive (Gwasg Prifysgol Cymru) gan M. Wynn Thomas.

o 25 Mai, 2013 – RS Thomas yng Ng_yl y Gelli
Bydd darlith Gwyn Jones 2013 yr Academi Gymreig, a draddodir gan yr Athro Tony Brown (ail siaradwr i’w gadarnhau) am 7.00 pm, yn canolbwyntio ar RS Thomas.

o 27 Mehefin, 2013 – Diwrnod RS Thomas G_yl Gregynog
Cyflwyna G_yl Gregynog ddiwrnod o ddigwyddiadau ar thema RS Thomas, gan gynnwys sgwrs gan yr Athro M. Wynn Thomas, taith dywysedig o Manafon a’r Felin Newydd wedi’i arwain gan yr Athro Tony Brown, a chyngerdd gyda’r nos yng nghwmni’r chwaraewr soddgrwth Guy Johnston.

o 29 Mehefin, 2013 – Taith Lenyddol yn Aberdaron
Bydd taith lenyddol Aberdaron Llenyddiaeth Cymru, a arweinir gan yr Athro Damian Walford Davies, yn canolbwyntio ar flynyddoedd diweddar RS Thomas ym mhen gorllewinol Pen Ll_n.

o 7 Medi, 2013 – Taith Lenyddol yn Eglwysfach
Bydd yr Athro Damian Walford Davies yn arwain taith lenyddol cyfrwng Saesneg Llenyddiaeth Cymru o amgylch gwarchodfa natur RSPB Ystâd Ynys-hir, lle treuliodd RS Thomas oriau lawer yn gwylio adar.

o 11 Rhagfyr, 2013 – Darlith gan Rowan Williams ym Mangor
Bydd cyn-Archesgob Caergaint Rowan Williams yn traddodi darlith am RS Thomas ym Mhrifysgol Bangor.

Ymhlith y llyfrau sydd ar fin ymddangos, y mae:

o R.S. Thomas: Serial Obsessive (Gwasg Prifysgol Cymru) gan M. Wynn Thomas

o Uncollected Poems: by RS Thomas (Bloodaxe Books) gan y cyd-olygyddion Tony Brown a Jason Walford Davies

o Imagined Greetings: Poetic Engagements with RS Thomas (Gwasg Carreg Gwalch) wedi’i olygu gan David Lloyd

o The Things Left Unsaid: RS Thomas & Me (Parthian) gan Lee McOwan

o The Wry Romance of the Literary Rectory (Thames & Hudson) gan Deborah Alun-Jones

Am wybodaeth gyswllt a rhagor o wybodaeth, ewch i www.rsthomas2013.org.
 
web site
: www.rsthomas2013.org

e-mail:
Wednesday, March 6, 2013back

 

 

Older news stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999

 

Privacy Policy | Contact Us | ©2013 keith morris / red snapper web designs / keith@artx.co.uk