‘Hormonal Housewives’ yn y Theatr Newydd, CaerdyddYn dilyn taith hynod lwyddiannus yn 2012, mae Hormonal Housewives yn ôl yn y Theatr Newydd, Caerdydd o ddydd Iau 4 Ebrill i ddydd Gwener 5 Ebrill. Ar ôl creu miri ar y daith y llynedd, Toyah Willcox sy’n arwain y merched yn y sioe llawn hiwmor eleni. Gyda sgetshis cwbl newydd, a’r rhannau gorau o sioe y llynedd, mae Hormonal Housewives yn trafod popeth y mae merched heddiw yn gwirioni arnynt (ac yn gwylltio gyda nhw) – o blant yn eu harddegau, i IKEA, cynrychiolwyr cwmnïau gwyliau a gwaith y cartref. Dyma sioe wirioneddol ddoniol - a byddwch yn siwr o ddysgu ambell beth am ferched heddiw! Mae Margi Clark a Carol Smillie wedi chwarae rhannau'r Hormonal Housewives yn y gorffennol, ond eleni caiff y merched eu harwain gan y seren bop enwog Toyah Willcox a’r awdur Julie Coombe, gyda gweddill y cast yn cael ei gyhoeddi cyn bo hir. O fyd pop i waith teledu, mae Toyah yn berfformwraig ddawnus ac unigryw. Yn llawn carisma a barn ar bopeth, mae’n un o sêr mwyaf eiconig Prydain sydd wedi ennill sawl gwobr yn y byd pop ac yn actores a chyfansoddwr poblogaidd. Mewn gyrfa sydd wedi para deg mlynedd ar hugain mae Toyah wedi cael tair ar ddeg sengl yn y siart 40 uchaf, wedi recordio ugain albwm, ysgrifennu dau lyfr, ymddangos mewn deugain sioe lwyfan, gwneud deg ffilm a chyflwyno rhaglenni teledu amrywiol fel The Good Sex Guide Late, Watchdog a Songs Of Praise. Os gweloch chi daith y llynedd, nid oes angen unrhyw fath o gyflwyniad ar Julie Coombe - awdur a seren Hormonal Housewives. Mae Julie wedi mwynhau gyrfa amrywiol yn y theatr, ar y radio ac ar y teledu mewn cynyrchiadau yn amrywio o Shakespeare i ddarnau newydd a phantomeimiau. Mae Julie hefyd wedi ymddangos yn rheolaidd yng Nghlwb Comedi The Stand yng Nghaeredin, sef prif leoliad comedi yr Alban, am y ddeng mlynedd ddiwethaf. Mae hi a’i gwr, John McIsaac, yn cynnal noson ysgrifennu comedi newydd misol yno o’r enw ‘Melting Pot’, sy’n cynnig llwyfan i awduron newydd. Mae Hormonal Housewives yn y Theatr Newydd o ddydd Iau 4 Ebrill i ddydd Gwener 5 Ebrill. Mae tocynnau ar werth nawr, gyda’r prisiau yn amrywio o £9.50 i £25.00. Addas i 16+ oed. I gael rhagor o fanylion am y sioe neu i archebu tocynnau* ewch i www.newtheatrecardiff.co.uk neu ffoniwch y Swyddfa Docynnau ar (029) 2087 8889. Rhaid talu cyfraniad ychwanegol o 50 ceiniog tuag at wella'r seddi gyda phob tocyn, a chodir tâl fach ychwanegol ar gyfer trafodion ar-lein Hormonal Housewives Y Theatr Newydd, Caerdydd Dydd Iau 4 Ebrill - dydd Gwener 5 Ebrill 8pm Tocynnau: £9.50 - £25.00 Swyddfa Docynnau: 029 2087 8889 Archebu Ar-lein: www.newtheatrecardiff.co.uk |
| New Theatre, Cardiff web site: www.newtheatrecardiff.co.uk |
| e-mail: |
| Monday, March 11, 2013 |
Older news
stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999

‘Hormonal Housewives’ yn y Theatr Newydd, Caerdydd