|
Llenyddiaeth Cymru yn dyfarnu £81,000 mewn Ysgoloriaethau i Awduron |
Mae saith ar hugain o awduron wedi derbyn Ysgoloriaethau i Awduron Llenyddiaeth Cymru 2013, sef y nifer uchaf o Ysgoloriaethau a ddyfarnwyd erioed. Mae’r Ysgoloriaethau, gwerth cyfanswm o £81,000, yn galluogi’r awduron i gymryd amser i ffwrdd o’u gwaith beunyddiol er mwyn canolbwyntio ar ysgrifennu creadigol, neu’n cefnogi costau teithio ac ymchwil. Yn ogystal â chefnogi awduron newydd, dyfarnwyd ysgoloriaethau i nifer o awduron cyhoeddedig, ac mae 22 o’r awduron yn derbyn Ysgoloriaeth am y tro cyntaf. Ymysg gwaith awduron 2013 bydd ffuglen, straeon byrion, barddoniaeth, a ffuglen i blant a phobl ifainc. 
Mae’r Panel Ysgoloriaethau’n falch iawn i gefnogi gwaith gan awduron newydd nad ydynt wedi cyhoeddi cyfrol o’u gwaith hyd yn hyn. Bydd Ysgoloriaeth Awdur Newydd yn caniatáu i Rhys Iorwerth gymryd peth amser i ffwrdd o’i waith er mwyn canolbwyntio ar gwblhau ei gyfrol gyntaf o farddoniaeth, tra bydd Elidir Jones bwrw ati i gwblhau ei nofel gyntaf, ar gyfer pobl ifainc yn bennaf. 

 Dywedodd Elidir Jones "Yn ychwanegol at yr effaith gadarnhaol mae Ysgoloriaethau Llenyddiaeth Cymru eu cael ar ysgrifennu Cymraeg a Chymreig yn gyffredinol, mae derbyn un am y tro cyntaf hefyd yn hwb personol anferth. Fel rhywun sy'n ceisio ysgrifennu'n llawn-amser, mae'r Ysgoloriaeth wedi rhoi'r hunanhyder a'r ysfa i mi barhau â'r gwaith, ac yn gwneud i mi deimlo'n rhan o rwydwaith ehangach o awduron."

 Bydd yr ysgoloriaethau’n esgor ar ffuglen newydd yn y Gymraeg. Bydd Delyth George yn canolbwyntio ar ddilyniant i’w nofel Gwe o Gelwyddau.

 Mae’r cerfluniau ar Wal Anifeiliaid Castell Caerdydd wedi tanio dychymyg Siân Melangell Dafydd a bwriada ysgrifennu casgliad o straeon byrion ar gyfer plant. Bydd Myrddin ap Dafydd yn casglu deunydd ynghyd ar y thema “Baledi ar straeon o hanes Cymru” er mwyn cyhoeddi cyfrol i blant a phobl ifainc.

 O Gaerdydd i Galiffornia, bydd Ysgoloriaeth Y Gronfa Amryfal yn caniatáu i Lowri Haf Cooke deithio i’r Unol Daleithiau, i ymchwilio i fywyd a gwaith y Cymro Idwal Jones.

 Ymhlith yr awduron sydd wedi derbyn Ysgoloriaethau ar gyfer eu gwaith Saesneg mae: Patrick Jones, Francesca Rhydderch, Angela Graham, Jeremy Hooker a Juliet Greenwood.

 Dywedodd Lleucu Siencyn, Prif Weithredwr Llenyddiaeth Cymru: “Mae cefnogi’r awdur yn ei yrfa yn elfen graidd o waith Llenyddiaeth Cymru. Ers 2004 rydym wedi dyfarnu dros £900,000 ar gyfer Ysgoloriaethau i Awduron, gan alluogi 224 o awduron i ddatblygu eu gwaith mewn ystod o genres. Dengys llwyddiannau nodedig megis Tair Rheol Anrhefn gan Daniel Davies ac Afallon gan Robat Gruffudd, ill dau yn enillwyr Gwobr Goffa Daniel Owen, bod y cynllun ysgoloriaethau yn dwyn ffrwyth.”

 Dywedodd Katie Gramich, Cadeirydd Panel Ysgoloriaethau Llenyddiaeth Cymru: “Mae pob un ohonom yn edrych ymlaen at ddarllen gwaith cyhoeddedig yr awduron Hyfryd nodi bod derbynwyr blaenorol ysgoloriaethau Llenyddiaeth Cymru nid yn unig wedi mynd ymlaen i gyhoeddi gweithiau arbennig ond hefyd i ennill gwobrau cenedlaethol. Un enghraifft nodedig yn ddiweddar oedd Gwyneth Lewis, a enillodd y Goron yn Eisteddfod Genedlaethol 2012 gyda dilyniant rhagorol o gerddi a gyfansoddwyd yn ystod cyfnod o amser a ‘brynwyd’ iddi gan un o ysgoloriaethau Llenyddiaeth Cymru.” |
| Llenyddiaeth Cymru web site: www.llenyddiaethcymru.org |
| e-mail: post@llenyddiaethcymru.org |
| Thursday, March 14, 2013 |
Older news
stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999
