Theatre in Wales

The latest theatre, dance and performance news

U.Dance Cymru – digwyddiad fydd yn rhoi llwyfan i ddawnswyr ifanc Cymru     

U.Dance Cymru – digwyddiad fydd yn rhoi llwyfan i ddawnswyr ifanc Cymru
Bydd dros 80 o ddawnswyr ifanc yn heidio i Galeri, Caernarfon ar ddydd Sul 24 Mawrth i gymryd rhan yn U.Dance Cymru – digwyddiad fydd yn rhoi llwyfan i ddawnswyr ifanc Cymru.

Mae grwpiau dawns ieuenctid o Wynedd i Bowys wrthi’n brysur yn creu ac yn ymarfer eu darnau ar gyfer digwyddiad sy’n argoeli i fod yn ddathliad dynamig o bobl ifanc yn dawnsio! Rhyngddynt, bydd y naw grŵp sy’n cymryd rhan yn mynd i’r afael ag amrywiaeth o ddulliau dawns gwahanol – creadigol, stryd, theatr dawns, cyfoes – gan gynnig rhywbeth at ddant pawb. Maent yn cynnwys rhai dawnswyr cymharol newydd i’r byd perfformio ac eraill sydd ar fin cychwyn hyfforddi i ddawnsio’n broffesiynol. Byddant oll yn cynrychioli sawl rhanbarth gwahanol yng Ngogledd Cymru.

U.Dance Cymru yw’r ail ddigwyddiad o’i fath yng Nghymru ac mae’n adeiladu ar lwyddiant U.Dance Cymru yn 2012 a ddenodd 200 o gyfranogwyr ledled y wlad.

Ymhlith y grwpiau sy’n cymryd rhan yn 2013 mae: Yr Academi / The Academy (Conwy), Autonomy dance group (o Step One Performing Arts School,Conwy), Dyffryn Conwy Youth Dance (o Dawns i Bawb, Conwy), C.U.E Performers Dance (Conwy), Pwllheli School of Dance and Performing Arts (Gwynedd), Penmaenmawr Youth Dance (o Dawns i Bawb, Conwy), NEW Dance Youth Company (Sir Ddinbych, Sir y Fflint, Wrecsam), Step Out  (Powys Youth Dance), Cwmni Dawns LegaC (Sir Gaerfyrddin).

Hefyd bydd Dawns Genedlaethol Ieuenctid Cymru (DGIC) yn perfformio darn wedi’i addasu allan o Closer a goreograffwyd gan y dawnswyr gyda Chyfarwyddwr Artistig DGIC, Errol White, a gafodd ei berfformio am y tro cyntaf i gynulleidfaoedd brwdfrydig yn Sherman Cymru (Caerdydd) a Clwyd Theatr Cymru (Yr Wyddgrug) yn ystod yr haf y llynedd.

Yn ystod y dydd, cyn y perfformiad gyda’r nos, caiff y grwpiau’r cyfle i weld gwaith ei gilydd. ‘Mae’n arfer cynyddol i annog dawnswyr ifanc i weld dawnswyr ifanc eraill yn dawnsio. Mae’n dangos eu bod yn rhan o gymuned ddawns ieuenctid Cymru-gyfan sy’n fywiog ac yn ffynnu. Mae U.Dance Cymru yn mynd gam ymhellach gan ei fod hefyd yn sicrhau eu bod yn dod i gysylltiad â dawnswyr ifanc o Loegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon trwy gyfrwng Gŵyl U.Dance 2013, sy’n digwydd yn Leeds yn yr haf”, dywedodd Suzanne Robinson, Cydlynydd Datblygu Dawns Genedlaethol Ieuenctid Cymru (DGIC).

U.Dance Cymru
Galeri, Caernarfon
Dydd Sul 24 Mawrth 2013 am 7.30pm 

£7, £5 (consesiynau)
Cynnig Grŵp: prynwch 10 tocyn a chewch 1 yn RHAD AC AM DDIM
Swyddfa Docynnau: 01286 685222
www.galericaernarfon.com
 
web site
: www.galericaernarfon.com

e-mail:
Thursday, March 14, 2013back

 

 

Older news stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999

 

Privacy Policy | Contact Us | ©2013 keith morris / red snapper web designs / keith@artx.co.uk