Theatre in Wales

The latest theatre, dance and performance news

TAITH HAF ARAD GOCH YN DATHLU PENBLWYDD RALA RWDINS YN 30 OED!     

TAITH HAF ARAD GOCH YN DATHLU PENBLWYDD RALA RWDINS YN 30 OED!
A hithau’n 30 mlynedd ers cyhoeddi cyfres ‘llyfrau Rwdlan’ gan Angharad Tomos mae Cwmni Theatr Arad Goch yn falch o gyhoeddi mai CERDYN POST O WLAD Y RWLA gan yr awdures ei hun fydd ein sioe haf ni am eleni!

“Mae’r llyfrau yr un mor boblogaidd ag erioed ac yn ystod blwyddyn o ddathliadau mae hwn yn gyfle gwych i blant Cymru gwrdd â’i hoff gymeriadau wyneb yn wyneb mewn cynhyrchiad cyffrous ac egniol” Jeremy Turner, Cyfarwyddwr.

Yn ystod y perfformiad bydd y gynulleidfa’n cael gwahoddiad i ymuno â Rala Rwdins, Strempan, Rwdlan, y Dewin Dwl, Llipryn Llwyd a Mursen y Gath ar eu gwyliau yng Ngwlad y Rwla. Ar ôl pacio’r sandalau a’r eli haul mae Rala Rwdins a’r criw yn hen barod i dorheulo ar y traeth....ond yn ôl yr arfer mae llond crochan o anturiaethau yn eu gwynebu a go brin y bydd cyfle i ymlacio!

O fewn yr wythnosau nesaf bydd cast y sioe, Ffion Wyn Bowen, Nia Ann, Sion Trystan, Endaf Davies heb anghofio Mursen y Gath yn brysur yn ymarfer ar gyfer y daith. Bydd y cast yn perfformio 30 sioe mewn 16 ardal ar hyd a lled Cymru.

“Mae’r ymateb i’r sioe wedi bod yn wych, mae dros 5,000 o docynnau wedi gwerthu hyd yma a nifer o sioeau wedi gwerthu allan! Mae ‘na gystadleuaeth arbennig iawn i’r rhai sy’n mynychu’r sioe eleni hefyd a chyfle i ennill gwyliau moethus i’r teulu yn rhodd gan Y Gorau o Gymru, a llun gwreiddiol gan Angharad Tomos! Mwy o newyddion am hyn yn fuan! ” Heulwen Davies, Swyddog Marchnata Arad Goch
AradGoch  
web site
: www.aradgoch.org
Heulwen Ann Davies
e-mail: heulwen@aradgoch.org
Wednesday, March 20, 2013back

 

 

Older news stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999

 

Privacy Policy | Contact Us | ©2013 keith morris / red snapper web designs / keith@artx.co.uk