|
Sioe gerdd lwyddiannus Singin' in the Rain yng Nghanolfan Mileniwm Cymru y Nadolig hwn |
Bydd cynulleidfaoedd Singin' in the Rain yn dawnsio o gylch polion lampau adeg y Nadolig eleni wrth i'r sioe ddod i Ganolfan Mileniwm Cymru fel rhan o daith ledled y DU ac Iwerddon. Mae'n bleser gan Stage Entertainment a Gŵyl Theatr Chichester gyhoeddi y bydd eu hadfywiad gwych o sioe gerdd Singin' in the Rain, sy'n cael ei chyflwyno i theatrau llawn ar hyn o bryd yn y Palace Theatre yn Llundain, yn mynd ar daith o'r DU ac Iwerddon yn ddiweddarach eleni, gan ddathlu cyfnod y Nadolig a'r Flwyddyn Newydd yng Nghanolfan Mileniwm Cymru. Bydd y sioe gerdd arbennig yn y Ganolfan o 3 Rhagfyr 2013 - 5 Ionawr 2014. Dywed Conrad Lynch, Cyfarwyddwr Artistig Canolfan Mileniwm Cymru, "Nadolig eleni, mae gennym sioe a hanner i gynulleidfaoedd, wrth i'r Ganolfan estyn croeso gwresog i Singin' in the Rain. Mae'r ffilm glasur hon sydd bellach wedi'i haddasu ar gyfer y llwyfan yn siŵr o ddenu pawb i ddawnsio, ni waeth beth fo'r tywydd!" Mae Don Lockwood yn seren o fyd y ffilmiau mud a chanddo bopeth - enwogrwydd, gweniaith a 'rhamant' a gafodd gryn sylw cyhoeddus gyda'i gyd-seren Lina Lamont. Ond mae Hollywood ar fin newid am byth. Mae si o gylch y stiwdio bod math newydd o ffilm ar ddod, lle mae'r actorion yn siarad go iawn...ac yn canu...ac yn dawnsio. A all Don a Lina a'i llais unigryw drawsnewid ac a wnaiff y gôr-ferch Kathy Selden wireddu ei breuddwyd o ddod yn seren enwog a chipio calon Don ar yr un pryd? Agorodd y cynhyrchiad hwn o Singin' in the Rain yn Theatr Gŵyl Chichester yn ystod Haf 2011 ac fe'i hestynnwyd o ganlyniad i alw aruthrol gan y cyhoedd. Trosglwyddodd wedyn i'r Palace Theatre eiconig yn y West End ym mis Chwefror 2012 lle cafodd ganmoliaeth uchel iawn gan y beirniaid a phedwar enwebiad am Wobr Olivier. Cyn bo hir, bydd dros 750,000 o aelodau bodlon o'r gynulleidfa wedi'i gweld, gan adael y theatr ychydig yn wlypach na phan wnaethant gyrraedd! Mae Singin’ in the Rain yn cynnwys caneuon gan Nacio Herb Brown ac Arthur Freed, gan gynnwys Make ‘em Laugh, Good Morning, Moses Supposes a Singin’ in the Rain. Mae'r sgript ffilm wreiddiol a'r addasiadau gan Betty Comden ac Adolph Green. Cyfarwyddwyd y cynhyrchiad gan Jonathan Church, gyda choreograffi gan Andrew Wright a enwebwyd am Wobr Olivier, ac fe'i dyluniwyd gan Simon Higlett, gyda'r sain gan Matt McKenzie a'r goleuadau gan Tim Mitchell. Cynhyrchir Singin’ in the Rain, sy'n defnyddio hanner milltir o bibellwaith hyblyg, tanc dŵr 10 tunnell a system ddŵr sy'n creu cawod drom oddi uchod a llifogydd islaw'r llwyfan, gan 'fwrw' (ac ailgylchu) dros 12,000 litr o gawod fesul perfformiad, gan Stage Entertainment UK a Theatr Gŵyl Chichester. Mae'r cynhyrchiad llwyfan o Singin’ in the Rain yn seiliedig ar ffilm glasur Metro-Goldwyn-Mayer ac fe'i cynhyrchwyd drwy drefniant â Maurice Rosenfield, Lois F Rosenfield a Cindy Pritzker Inc. Mae'r cynhyrchiad hwn drwy drefniant arbennig gyda Warner Bros. Theatre Ventures, Inc. Cyhoeddwyd y gerddoriaeth gan EMI. Caiff perfformiadau o Singin’ in the Rain eu cynnal o 3 Rhagfyr i 5 Ionawr 2014. Mae'r tocynnau yn amrywio o £19 i £47.50. Mae consesiynau ar gael. Bydd tocynnau ar werth i Aelodau Addewid ar 18 Mawrth 2013. Bydd tocynnau ar werth yn gyffredinol ar 22 Mawrth 2013. I archebu tocynnau, neu i gael rhagor o wybodaeth, ewch i www.wmc.org.uk neu ffoniwch 02920 63 6464. |
| Wales Millennium Centre web site: www.wmc.org.uk |
| e-mail: |
| Wednesday, March 20, 2013 |
Older news
stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999
