Theatre in Wales

The latest theatre, dance and performance news

Perfformwraig o Gymru, Rebecca Trehearn, yn arwain cast Ghost the Musical     

Perfformwraig o Gymru, Rebecca Trehearn, yn arwain cast Ghost the Musical Bydd y berfformwraig West End o Gymru, Rebecca Trehearn, yn chwarae'r brif ran, sef Molly Jensen yn nhaith genedlaethol newydd Ghost the Musical, sy'n agor yng Nghanolfan Mileniwm Cymru rhwng 10 a 27 Ebrill 2013.

Bydd Rebecca Trehearn, sy'n hanu o'r Rhyl, yn chwarae'r brif ran, sef Molly Jensen pan ddaw i Gaerdydd y gwanwyn hwn, ochr yn ochr â Stewart Clarke fel Sam Wheat a Wendy Mae Brown fel Oda Mae Brown. Ar ôl serennu mewn nifer o sioeau West End, gan gynnwys Dirty Dancing, We Will Rock You a Ghost The Musical yn Theatr Picadilly, mae Rebecca yn ymuno â'r sioe wrth iddi ddechrau ar ei thaith gyntaf o amgylch y DU.

Mae'r sioe gerdd West End boblogaidd, Ghost the Musical, sy'n seiliedig ar y ffilm a enillodd Wobr gan yr Academi, wedi ei chyfarwyddo gan Matthew Warchus (Matilda, Art) a enillodd wobrau Tony a cherddoriaeth a geiriau gan Dave Stewart (Eurythmics) a enillodd wobr Grammy(h) a Glen Ballard yn cynnwys y gân eiconig, Unchained Melody.


Dywedodd Conrad Lynch, Cyfarwyddwr Artistig Canolfan Mileniwm Cymru: "Ar ôl cael llwyddiant mor wych yn y West End ac agor ar Broadway y llynedd, rwyf wrth fy modd bod Ghost the Musical yn dechrau ar daith o amgylch y DU."

"Drwy ddenu rhai o gynhyrchwyr enwocaf y West End i agor teithiau'r DU yma yng Nghaerdydd, mae'n atgyfnerthu statws Canolfan Mileniwm Cymru fel canolfan gelfyddydau eiconig o'r radd flaenaf. Mae Ghost the Musical yn ychwanegiad i'n rhestr o gynyrchiadau ar raddfa fawr sy'n mynd ar daith o amgylch y DU ac sydd wedi agor yn y Ganolfan, gan gynnwys y sioe hynod boblogaidd gan Cameron Mackintosh, Les Misérables ac Oliver, a The Sound of Music gan Andrew Lloyd Webber - sydd oll wedi cael llwyddiant ysgubol."

Aiff yn ei flaen: "Mae'r cyfle i lwyfannu'r cynhyrchiad teithiol o Ghost yn gyntaf yn llwyfan gwych i arddangos Cymru, a gyda Rebecca Trehearn o Gymru fel y prif gymeriad, mae'n goron ar y cyfan."

Mae dros 500,000 o bobl wedi gweld Ghost the Musical ac mae wedi'i henwebu am bum Gwobr Olivier a thair Gwobr Tony. Mae Ghost the Musical, sy'n seiliedig ar y ffilm ysgubol a enillodd Oscar(h) ac a gydiodd yng nghalonnau a dychymyg y genhedlaeth yn y 90au, yn ffantasi diamser am rym cariad. Mae Sam wedi'i ddal fel ysbryd rhwng y byd hwn a'r byd nesaf, gan geisio cyfathrebu â'i gariad, Molly, drwy seicig ffug yn y gobaith o'i hachub rhag ei lofruddiwr. Mae Ghost the Musical yn daith o ramant a chomedi gyda llwyfannu gwych o'r radd flaenaf.
Addasodd yr enillydd Oscar(h), Bruce Joel Rubin, ei sgript ffilm wreiddiol ar gyfer y cynhyrchiad llwyfan. Enillodd Rubin Oscar(h) am y Ffilm Wreiddiol Orau ar gyfer y ffilm Ghost, a oedd yn cynnwys Patrick Swayze, Demi Moore, Tony Goldwyn a Whoopi Goldberg.

Y cast llawn ar gyfer taith Genedlaethol Ghost the Musical yw Keisha Atwell (Louise), Wendy Mae Brown (Oda Mae Brown), Maeve Byrne (Ensemble), Stewart Clarke (Sam Wheat), Michael Cortez (Ensemble), Kimmy Edwards (Ensemble), Jaye Elster (Swing), Livvy Evans (Swing), Ivan De Freitas (Willie Lopez), Gabriella Garcia (Ensemble), Nick Hayes (Ensemble), Stevie Hutchinson (Ysbryd Tanlwybr), Bradley Jaden (Ensemble), Robert Knight (Swing), David Roberts (Carl Bruner), Gregor Stewart (Ensemble), Michael Stewart (Swing), Rebecca Trehearn (Molly Jensen), Amy Webb (Ensemble), Amy West (Ensemble), Luke Wilson (Ensemble) a Karlene Wray (Clara).

Bydd Ghost The Musical yn Ganolfan Mileniwm Cymru o 10 – 27 Ebrill 2013. Mae'r tocynnau yn amrywio o £17 - £43.50. Am ragor o wybodaeth ac i archebu tocynnau ewch i www.wmc.org.uk. Sylwch os gwelwch yn dda, mae’r perfformiadau rhagolwg cyntaf 8 a 9 Ebrill wedi cael eu canslo.
Canolfan Mileniwm Cymru  
web site
: www.wmc.org.uk

e-mail:
Friday, March 22, 2013back

 

 

Older news stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999

 

Privacy Policy | Contact Us | ©2013 keith morris / red snapper web designs / keith@artx.co.uk