Theatre in Wales

The latest theatre, dance and performance news

JULIAN CLARY I ARWAIN CAST PANTOMEIM CAERDYDD ELENI!     

JULIAN CLARY I ARWAIN CAST PANTOMEIM CAERDYDD ELENI!

Mae'r Theatr Newydd yng Nghaerdydd wedi cyhoeddi y bydd Qdos Entertainment, y cynhyrchydd pantomeim mwyaf yn y byd a’r cwmni y tu ôl i'r cynhyrchiad hynod lwyddiannus Sleeping Beauty y llynedd, yn cyflwyno pantomeim ENFAWR i’r teulu eto eleni, Jack and the Beanstalk, a fydd yn cynnwys un o ddiddanwyr mwyaf poblogaidd Prydain, Julian Clary.


Yn ei rôl fel 'Spirit of the Beans' bydd Julian yn helpu Jack i frwydro’n erbyn cawr cas, gan ei helpu i ddod o hyd i’w gariad ac achub y pentref yn y pantomeim teuluol bythgofiadwy hwn.

Mae Julian Clary wedi hen ennill ei blwyf fel diddanwr adnabyddus a phoblogaidd ar y llwyfan ac ar y teledu. Mae ei ddoniau'n cynnwys comedi, actio, cyflwyno, ysgrifennu ac mae hyd yn oed wedi perfformio fel dawnsiwr amhrofiadol ar Strictly Come Dancing, lle cyrhaeddodd y rownd derfynol!

Yn ogystal â’i hunangofiant, mae Julian yn nofelydd medrus sydd wedi cyhoeddi sawl cyfrol hynod lwyddiannus. Mae’n boblogaidd dros ben fel perfformiwr pantomeim ac wedi chwarae’r brif ran yn rhai o'r pantomeimiau mwyaf ym mhob rhan o’r DU. Yn y gwanwyn bydd Julian yn mynd ar daith unwaith eto gyda’i sioe un-dyn lwyddiannus gan ymweld â theatrau ledled y DU.

Dywedodd Jonathan Kiley, Cynhyrchydd Gweithredol Jack and the Beanstalk:

“Rydym wrth ein bodd mai Julian, un o ddiddanwyr gorau’r wlad, fydd yn chwarae’r brif ran yn y pantomeim hudolus hwn. Bydd comedi yn ganolog i bantomeim y Theatr Newydd eto eleni a bydd yn siwr o wneud i’r teulu cyfan rowlio chwerthin nes daw’r llenni i lawr am y tro olaf.”

Dywedodd Grant McFarlane, Rheolwr Gweithrediadau’r Theatr Newydd:

“Mae’r Theatr Newydd yn enwog am lwyfannu’r pantomeim mwyaf a gorau yng Nghymru bob blwyddyn a dyna’r nod eleni eto". Mae Julian wedi bod yma ddwywaith o’r blaen, ond dyma'r tro cyntaf iddo berfformio mewn pantomeim yng Nghaerdydd - rydym yn edrych ymlaen yn arw at fis Rhagfyr.”

Mae Jack and the Beanstalk yn bantomeim heb ei ail! Mae’r sioe yn llawn dop o gomedi, setiau gwefreiddiol a gwisgoedd godidog ynghyd â chaneuon gwych a fydd yn cynnig gwledd i'r llygaid ac i'r glust.

Mae Jack and the Beanstalk yn y Theatr Newydd o ddydd Sadwrn 8 Rhagfyr 2012 i ddydd Sul 20 Ionawr 2013. Mae tocynnau ar gyfer y sioe Nadolig fythgofiadwy hon ar gael drwy ffonio 029 2087 8889 neu ar-lein www.newtheatrecardiffcardiff.co.uk.
New Theatre, Cardiff  
web site
: www.newtheatrecardiffcardiff.co.uk.

e-mail:
Tuesday, March 26, 2013back

 

 

Older news stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999

 

Privacy Policy | Contact Us | ©2013 keith morris / red snapper web designs / keith@artx.co.uk