Mae Cwmni Theatr Arad Goch yn falch o gyhoeddi ein bod ni wedi derbyn gwahoddiad i berfformio ein sioe BLE MAE’R DAIL YN HEDFAN yn Kingfestival, Rwsia ar yr 28ain o Ebrill. Gŵyl Theatr Rhyngwladol yw Kingfestival ac mae’n cael ei chynnal yn Novgorod bob dwy flynnedd er mwyn hyrwyddo gwaith cyfoes a safonol o bob cwr o’r byd i gynulleidfa o blant, pobl ifanc ac oedolion.Datblygwyd y sioe BLE MAE’R DAIL YN HEDFAN gan Jeremy Turner, Cyfarwyddwr Artistig Arad Goch a’r actores Ffion Wyn Bowen. Sioe i blant cynradd yw hon ac o fewn y perfformiad 50 munud o hyd mae'r gynulleidfa'n ymuno â'r cymeriadau tu mewn a tu allan ac yn cael eu ysgogi i ddefnyddio'i dychymyg wrth iddynt wrando, gwylio, creu, adeiladu a chwarae. Yr actorion yw Ffion Wyn Bowen a Gethin Evans, ac mae Ffion wrthi'n brysur yn dysgu rhywfaint o Rwsieg er mwyn gallu cyfathrebu gyda'r gynulleidfa ifanc! Wedi teithio'r sioe i ysgolion yng Nghymru mae'r actorion, y cyfarwyddwr Jeremy Turner a'r rheolwr technegol Rhys Pugh Evans yn edrych ymlaen yn arw at berfformio'r sioe dramor. Mae Arad Goch wedi perfformio mewn gwyliau tramor yn y gorffenol ond dyma’r perfformiad cyntaf yn Rwsia. Am fwy o wybodaeth ynglŷn â’r Ŵyl ewch i www.kingfestival.ru |
| web site: www.kingfestival.ru |
| e-mail: |
| Tuesday, April 2, 2013 |
Older news
stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999

Mae Cwmni Theatr Arad Goch yn falch o gyhoeddi ein bod ni wedi derbyn gwahoddiad i berfformio ein sioe BLE MAE’R DAIL YN HEDFAN yn Kingfestival, Rwsia ar yr 28ain o Ebrill. Gŵyl Theatr Rhyngwladol yw Kingfestival ac mae’n cael ei chynnal yn Novgorod bob dwy flynnedd er mwyn hyrwyddo gwaith cyfoes a safonol o bob cwr o’r byd i gynulleidfa o blant, pobl ifanc ac oedolion.