Mae'n bleser gan WICKED, y ffenomenon cerddorol byd-eang sy'n adrodd stori anhygoel Gwrachod Oz, gyhoeddi y bydd y tocynnau'n mynd ar werth i'r cyhoedd ddydd Gwener yma (12 Ebrill 2013) yng Nghanolfan Mileniwm Cymru, Caerdydd. Bydd y sioe gerdd lwyddiannus yn rhedeg am saith wythnos yn unig yng Nghanolfan Mileniwm Cymru o ddydd Mercher 12 Mawrth tan ddydd Sadwrn 26 Ebrill 2014, fel rhan o daith fawr o amgylch y DU ac Iwerddon. Bydd sioe Wicked hefyd yn rhan o ddathliadau pen-blwydd Canolfan y Mileniwm yn 10 oed yn 2014. Wedi'i disgrifio'n ddiweddar fel "un o sioeau cerdd mwyaf poblogaidd erioed y West End" (London Evening Standard), mae Wicked yn parhau i gael ei pherfformio yn Theatr Apollo Victoria lle mae tocynnau ar gael ar hyn o bryd tan 26 Ebrill 2014. Mae Wicked eisoes wedi cael ei gweld gan dros 36 miliwn o bobl ledled y byd ac mae chwe chynhyrchiad yn cydredeg. Mae'r cynhyrchiad gwreiddiol ar Broadway, sydd wedi bod yn rhedeg am 10 mlynedd, wedi'i ddisgrifio gan y New York Times fel "y sioe fwyaf llwyddiannus ar Broadway". Mae'r cynhyrchiad yn y West End bellach yn ei 7fed flwyddyn yn Theatr Apollo Victoria yn Llundain ac eisoes wedi cyrraedd safle 16 yn rhestr y sioeau cerdd sydd wedi bod yn rhedeg hiraf. Mae Wicked, sy'n seiliedig ar y nofel gan Gregory Maguire sy'n ail-ddychmygu???r straeon a'r cymeriadau a gr??wyd gan L. Frank Baum yn 'The Wonderful Wizard of Oz', yn adrodd stori anhygoel am gyfeillgarwch annhebygol ond dwys rhwng dwy ferch sy'n cyfarfod am y tro cyntaf pan maent yn fyfyrwyr dewiniaeth. Bydd eu hanturiaethau rhyfeddol yn Oz yn arwain, yn y pen draw, at wireddu eu tynged fel Glinda The Good a'r Wicked Witch of the West. Mae Wicked yn cynnwys cerddoriaeth a geiriau gan Stephen Schwartz, sydd wedi ennill sawl Gwobr GRAMMY?? a Gwobr yr Academi??. Winnie Holzman yw awdur llyfr y sioe, Wayne Cilento sy'n gyfrifol am y llwyfannu cerddorol a chyfarwyddwr y sioe yw Joe Mantello sydd wedi ennill dwy wobr Tony?? ac sydd wedi'i enwebu hefyd am Wobr Olivier. Mae Wicked yn seiliedig ar y nofel boblogaidd, 'Wicked: The Life and Times of the Wicked Witch of the West' gan Gregory Maguire. Caiff Wicked ei chynhyrchu gan: Marc Platt, Universal Pictures Stage Productions, The Araca Group, Jon B. Platt a David Stone. Cynhyrchydd Gweithredol (DU ac Iwerddon): Michael McCabe. Bydd y tocynnau ar gyfer Wicked yn mynd ar werth ddydd Gwener 12 Ebrill 2013. Mae'r tocynnau yn amrywio o ??20 i ??55. Canllaw oedran 7+. Mae seddi premiwm ar gael. I archebu tocynnau neu gael rhagor o wybodaeth, ewch i www.wmc.org.uk neu ffoniwch 02920 63 6464. Am ragor o wybodaeth am Wicked, ewch i: www.WickedTheMusical.co.uk |
| web site: www.WickedTheMusical.co.uk |
| e-mail: |
| Thursday, April 11, 2013 |
Older news
stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999
