Gan awduron, cynhyrchwyr, crewyr a chyfarwyddwr llwyddiant ysgubol Dreamboats and Petticoats, daw Save the Last Dance for Me i'r Theatr Newydd, Caerdydd, o ddydd Mawrth 7 i ddydd Sadwrn 11 Mai. Bydd y sioe gerdd hapus hon yn mynd â’r gynulleidfa’n ôl i gerddoriaeth a hud y 60au cynnar, adeg pan welsai pob wythnos glasur Roc a Rôl arall. Laurence Marks a Maurice Green (Goodnight Sweetheart, Birds of a Feather, Shine on Harvey Moon) ysgrifennodd y sioe, ac mae’n cynnwys cerddoriaeth unigryw Doc Pomus a Mort Shuman. Aiff y daith hiraethus hon â ni drwy oes aur cerddoriaeth, wrth i ni ddilyn dwy chwaer ifanc yn haf ’63. Yn rhydd o’u rhieni am y tro cyntaf, mae’r chwiorydd yn mynd ar wyliau i lan y môr. Yn llawn rhyddid ac mewn hwyliau da maent yn cwrdd ag Americanwr ifanc a golygus sy’n eu gwahodd i ddawns yn y maes awyr Americanaidd milwrol lleol ... ond nid yw cariad ifanc na rhamant gwyliau yn bethau syml. Mae’r ddwy chwaer yn sylweddoli’n o fuan y gall bywyd a chariad fod yn llawer mwy lliwgar, er bod y byd o’u cwmpas yn ei wylio’i hun mewn du a gwyn o hyd. Mae Save the Last Dance for Me yn cynnwys clasuron fel A Teenager in Love, Sweets for my Sweet, Turn Me Loose, Here I Go Again, Viva Las Vegas, Little Sister, His Latest Flame, Suspicion, Can’t Get Used to Losing You, Save the Last Dance For Me a llawer mwy ... Bydd Save the Last Dance For Me yn y Theatr Newydd, Caerdydd o ddydd Mawrth 7 i ddydd Sadwrn 11 Mai. Mae tocynnau’n costio rhwng £9.00 a £32.00 a gellir eu harchebu o’r Swyddfa Docynnau ar 029 2087 8889 neu ar-lein* yn www.newtheatrecardiff.co.uk. * codir ffi fechan am bob tocyn a werthir ar-lein |
| Y Theatr Newydd, Caerdydd web site: www.newtheatrecardiff.co.uk |
| e-mail: |
| Monday, April 15, 2013 |
Older news
stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999
