|
Priscilla Queen of the Desert yn dod i Ganolfan Mileniwm Cymru fel rhan o'i thaith o amgylch y DU |
Yn seiliedig ar y ffilm boblogaidd, mae sioe gerdd Priscilla Queen of the Desert yn sôn am antur ysbrydoledig a chalonogol tri ffrind sy'n mynd ar daith ar hen fws rhydlyd yn chwilio am gariad a chyfeillgarwch ac yn dod o hyd i fwy nag y gwnaethant fyth freuddwydio amdano. Gydag amrywiaeth ysblennydd o wisgoedd beiddgar a llu o ganeuon adnabyddus gan gynnwys ‘It’s Raining Men’, ‘Say a Little Prayer’, ‘Go West’, ‘Hot Stuff’ ac ‘Always on My Mind’, mae'r sioe gerdd newydd hynod wreiddiol a doniol hon yn eich tywys ar daith eithriadol. Dywedodd Conrad Lynch, Cyfarwyddwr Artistig Canolfan Mileniwm Cymru: “Mae’n wych cael dechrau mor hyfryd o liwgar i 2014 yn y Ganolfan gyda Priscilla Queen of the Desert. Mae’r sioe wedi gweld llwyddiant mawr yn y West End, Broadway ac yn Awstralia ac felly mae’n fendigedig bod yn rhan o’r daith yn y DU.” Mae’r cast yn cynnwys Richard Grieve sydd yn chwarae’r rhan Bernadette ar ôl chwarae rhan Tick yn flaenorol yn y cynhyrchiad o'r sioe yn y West End. Fwy na thebyg ei fod yn fwyaf adnabyddus fel Jonny Foster yn "Emmerdale". Yn hanu'n wreiddiol o Awstralia, chwaraeodd ran Sam Kratz yn “Neighbours” a Dr Lachlan Frazer yn “Home and Away”. Mae ei rolau theatr yn y DU yn cynnwys taith genedlaethol “Footloose - The Musical” a “Bells Are Ringing” yn yr Unicorn Theatre. Mae ei rolau theatr yn Awstralia yn cynnwys Greg Connell yn “The Boy from Oz” a “How to Succeed in Business Without Really Trying”. Graham Weaver fydd yn chwarae rhan Felicia, sef y rhan a chwaraeodd yn y cynhyrchiad o'r sioe yn y West End. Mae ei rolau theatr eraill yn cynnwys Mary Sunshine yn "Chicago" ac "Assassins". Mae rhagor o'r cast i gael eu cyhoeddi. Agorodd Priscilla Queen of the Desert The Musical yn wreiddiol yn Awstralia yn 2006 a pharhaodd ar y llwyfan am ddwy flynedd cyn agor yn y West End am gyfnod pellach o ddwy flynedd. Yn ddiweddar, cafodd y sioe lwyddiant ysgubol ar Broadway. Dros y blynyddoedd, mae wedi ennill sawl gwobr gan gynnwys gwobrau clodwiw Olivier a Tony am y Gwaith Dylunio Gwisgoedd Gorau. Bydd y tocynnau ar gyfer Priscilla Queen of the Desert ar werth ar ddydd Gwener 26 Ebrill 2013. Mae'r tocynnau yn amrywio o £15 i £60. Canllaw oedran 15+. Gall Aelodau Addewid Canolfan Mileniwm Cymru archebu tocynnau ar ddydd Llun 22 Ebrill. I archebu tocynnau neu i gael rhagor o wybodaeth, ewch i www.wmc.org.uk neu ffoniwch 02920 63 6464. |
| Canolfan Mileniwm Cymru web site: www.wmc.org.uk |
| e-mail: |
| Friday, April 19, 2013 |
Older news
stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999

Yn seiliedig ar y ffilm boblogaidd, mae sioe gerdd Priscilla Queen of the Desert yn sôn am antur ysbrydoledig a chalonogol tri ffrind sy'n mynd ar daith ar hen fws rhydlyd yn chwilio am gariad a chyfeillgarwch ac yn dod o hyd i fwy nag y gwnaethant fyth freuddwydio amdano.