Theatre in Wales

The latest theatre, dance and performance news

Cadfael - The Virgin in the Ice yn y Theatr Newydd, Caerdydd     

Cadfael - The Virgin in the Ice yn y Theatr Newydd, Caerdydd
 Mae'r Middle Ground Theatre Company yn falch o gyflwyno’r addasiad llwyfan cyntaf erioed o un o hanesion arwr canoloesol enwog Ellis Peter, Cadfael - The Virgin In The Ice, yn y Theatr Newydd o ddydd Mawrth 14 - dydd Sadwrn 18 Mai. Mae’r cynhyrchiad newydd gwefreiddiol hwn, gyda chast enwog, tafluniadau ffilm a golygfeydd helaeth, yn dathlu pen-blwydd Middle Ground yn 25 oed eleni, a chanmlwyddiant geni Ellis Peters.

Mae hi’n aeaf ym 1139 ac mae rhyfel cartref ffyrnig yn gyrru llawer o ffoaduriaid i’r gogledd o Gaerwrangon, ac yn eu plith mae bachgen amddifad, ei chwaer brydferth 17 mlwydd oed, a lleian ifanc. Ond mae fel petaen nhw wedi diflannu yn rhywle yn y dirwedd aeafol wyllt o lwydrew ac eira - ac mae'r Brawd Cadfael yn mynd ar siwrnai beryglus i chwilio amdanynt. Wrth wneud hynny mae'n dod ar draws llofruddiaeth iasol ac ofnadwy, ac angerdd ar gyfeiliorn.

Mae nofelau Cadfael Ellis Peter wedi gwerth miliynau o gopïau yn fyd-eang ac wedi bod yn destun cyfres deledu lwyddiannus iawn gyda Derek Jacobi yn chwarae rhan y Brawd Cadfael. Yn arwain y cast safonol o bymtheg, mae’r actor profiadol Gareth Thomas, a gafodd ei enwebu am wobr BAFTA ddwywaith mewn gyrfa sy’n cwmpasu 50 mlynedd, gan gynnwys chwarae’r brif ran yn y gyfres ffuglen wyddonol glasurol, Blake’s 7 . Mae’r sioe hefyd yn cynnwys, Richard Walsh (London’s Burning), James Palmer (River City) a Rupert Baker (London’s Burning).

Bydd Cadfael – The Virgin in the Ice yn y Theatr Newydd o ddydd Mawrth 14 Mai tan ddydd Sadwrn 18 Mai. Mae'r tocynnau ar werth nawr gyda phrisiau’n amrywio o £8.50 i £28.00. I gael rhagor o fanylion am y sioe neu i archebu tocynnau* ewch i www.newtheatrecardiff.co.uk neu ffoniwch y Swyddfa Docynnau ar (029) 2087 8889.

Rhaid talu cyfraniad ychwanegol o 50c ar bob tocyn tuag at wella seddi, a chodir tâl fach ychwanegol ar gyfer trafodion ar-lein

Cadfael - The Virgin in the Ice
Y Theatr Newydd, Caerdydd
Dydd Mawrth 14 Mai tan ddydd Sadwrn 18 Mai
Perfformiadau nos 7.30pm; Perfformiadau prynhawn Iau a Sadwrn 2.30pm
Tocynnau: £8.50 - £28.00
Swyddfa Docynnau: 029 2087 8889
Archebu Ar-lein: www.newtheatrecardiff.co.uk
New Theatre, Cardiff  
web site
: www.newtheatrecardiff.co.uk

e-mail:
Tuesday, April 23, 2013back

 

 

Older news stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999

 

Privacy Policy | Contact Us | ©2013 keith morris / red snapper web designs / keith@artx.co.uk