Mae’n bleser gan y Theatr Newydd gyhoeddi ei bod yn gosod lifft newydd i alluogi pobl anabl i gyrraedd rhannau o’r theatr nad oedd modd iddynt eu cyrraedd gynt. Dyma’r diweddaraf mewn nifer o newidiadau a gwelliannau a wnaed gan y theatr i wneud yr adeilad Edwardaidd yn fwy hygyrch. O ganlyniad i’r lifft newydd, bu’n bosibl i’r theatr greu tri chyfleuster newydd ar gyfer defnyddwyr cadair olwyn. Ceir un ar res M yn y Cylch, un ym Mlwch G a’r llall ym Mlwch H. Gan gynnwys y safleoedd presennol ar gyfer cadeiriau olwyn yn ardal y seddau blaen, bellach mae gan yr awditoriwm le ar gyfer 9 defnyddiwr cadair olwyn ym mhob perfformiad. Mae’r lifft ar gael hefyd i bobl eraill sy’n ymweld â’r theatr sy’n ei chael hi’n anodd defnyddio’r grisiau. Dywedodd y Rheolwr Gweithrediadau, Grant McFarlane, “Roedd gosod lifft mewn theatr Edwardaidd mewn modd sy’n cyd-fynd â naws yr adeilad yn waith caled, a bu llawer o bobl yn gweithio’n ddiflino i wneud hynny. Rwy’n falch iawn gyda’r canlyniad ac rydw i wrth fy modd fod y cyfleuster hwn bellach ar gael i’n cwsmeriaid.” I gael rhagor o wybodaeth am y lifft, ffoniwch (029) 2087 8790, anfonwch e-bost i ntmailings@caerdydd.gov.uk neu ewch i www.newtheatrecardiff.co.uk/access. Gallwch gadw lle i gadair olwyn drwy’r Swyddfa Docynnau ar 029 2087 8889 (am resymau technegol ni allwch eu prynu ar-lein). |
| New Theatre Cardiff web site: www.newtheatrecardiff.co.uk/access |
| e-mail: ntmailings@caerdydd.gov.uk |
| Tuesday, May 7, 2013 |
Older news
stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999
